Gweithdrefn gwyno

Sut i gwyno am wasanaeth Comisiwn y Deyrnas Unedig dros Gyflogaeth a Sgiliau (UKCES).


Mae UKCES yn croesawu barn ei bartneriaid a phob parti â buddiant am ei berfformiad, p’un a yw hynny’n farn gadarnhaol neu negyddol. Gall yr adborth hwn ein helpu i wella ansawdd ein gwaith a’n llwyddiant.

Sut i gwyno

Dylech anfon eich cwyn at ein hysgrifenyddiaeth yn y lle cyntaf.

Secretariat Services
UK Commission for Employment and Skills
Renaissance House
Adwick Park
Wath-Upon-Dearne
S63 5NB

Ffôn: 01709 774 800

Byddwn yn ymateb o fewn 10 niwrnod gwaith o gael eich cwyn ac yn rhoi manylion unrhyw gamau gweithredu rydym yn bwriadu eu cymryd.

Os nad ydych yn fodlon

Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich cwyn, gallwch anfon cwyn ysgrifenedig at un o’n cyfarwyddwyr. Gallwch ffonio’r ysgrifenyddiaeth i gael cyngor am gyflwyno cwyn fwy ffurfiol fel hyn.

Senior Leadership Team
UK Commission for Employment and Skills
Renaissance House
Adwick Park
Wath Upon Dearne
S63 5NB

Ffôn: 01709 774 800

Bydd cyfarwyddwr yn ymchwilio i’ch cwyn ac yn gwneud penderfyniad ar sail ei ganfyddiadau ei hun. Bydd yn ysgrifennu atoch i roi canlyniadau’r ymchwiliad i chi o fewn 15 niwrnod gwaith.

Os na fydd yn bosibl rhoi ymateb llawn o fewn y cyfnod hwn, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio’r rheswm dros yr oedi, beth rydym ni’n ei wneud i ymchwilio i’r gwyn, a phryd y gallwch chi ddisgwyl ymateb llawn.

Os na fyddwch yn fodlon â’r ymateb gan gyfarwyddwr corfforaethol, dylech ysgrifennu at ein prif weithredwr yn esbonio pam nad ydych chi’n fodlon. Mae’r prif weithredwr yn anelu at ymateb i bob cwyn o fewn 20 niwrnod gwaith.

Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd (Saesneg yn unig). Mae’r Ombwdsmon yn cynnig help mewn ieithoedd eraill hefyd.

Cwynion am fynediad at wybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn darparu hawl mynediad i wybodaeth wedi’i chofnodi a gedwir gan y comisiwn.

Nod UKCES yw gweithredu’n agored a thryloyw, a darparu gwybodaeth y gofynnir amdani pryd bynnag y bo’n bosibl. Os oes gennych gwyn am gais rhyddid gwybodaeth (neu ryddhau gwybodaeth o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol), gallwch gysylltu â Phennaeth y Gwasanaethau Ysgrifenyddiaeth.

Ffôn: 01709 774 800

Head of Secretariat Services
UK Commission for Employment and Skills
Renaissance House
Adwick Park
Wath Upon Dearne
S63 5NB

Os na fyddwch yn fodlon â chanlyniad eich cwyn neu’r ffordd y gwnaeth UKCES ymdrin â hi, mae gennych hawl i apelio i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.