Gweithio i UKCES

Sut i wneud cais am swydd gyda Chomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau.


Ewch i’n tudalen swyddi gwag (Saesneg yn unig).

Dilynwch y cyfarwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r swydd wag i wneud cais. Fel arfer, y cyfarwyddyd fydd llenwi UKCES application form (MS Word Document, 107 KB) ac anfon unrhyw ddogfennau penodedig ychwanegol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn prentisiaeth gyda’r llywodraeth, gallwch ddefnyddio’r offeryn swyddi prentisiaeth gwag (Saesneg yn unig) trwy’r Gwasanaeth Prentisiaeth Cenedlaethol. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â HR.Team@ukces.org.uk.

Buddion

Mae UKCES wedi ennill statws achrediad Buddsoddwr Mewn Pobl - Aur (Saesneg yn unig). Yn ogystal â’r 8 niwrnod o wyliau cyhoeddus, mae UKCES yn cynnig o leiaf 25 niwrnod o wyliau’r flwyddyn i bob gweithiwr amser llawn, ynghyd â 2.5 niwrnod dewisol rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Rydym yn cydnabod bod trefniadau gweithio hyblyg yn bwysig i weithwyr presennol a darpar weithwyr. Mae gennym amrywiaeth o bolisïau ar gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys:

  • polisi gweithio hyblyg
  • absenoldeb mamolaeth
  • gofal cyn-geni
  • absenoldeb tadolaeth
  • absenoldeb mabwysiadu
  • absenoldeb rhiant
  • egwyl gyrfa
  • absenoldeb tosturiol â thâl
  • argyfyngau domestig
  • amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus (heb dâl)

Gwobrau Cydnabod

Yn ogystal â chyflog, mae UKCES yn awyddus i wobrwyo staff sy’n mynd gam ymhellach ac i gydnabod eu cyflawniadau a’u gwaith caled. Gall staff enwebu cydweithwyr am ‘wobr cydnabod’ (£25) neu ‘wobr diolch’ (£125).

Buddion eraill

Mae buddion eraill yn cynnwys:

  • cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil
  • cymorth iechyd galwedigaethol
  • cynllun beicio i’r gwaith
  • talebau gofal plant
  • rhaglen cymorth i weithwyr (EAP)
  • brechiadau rhag y ffliw
  • ffrwythau am ddim
  • te, coffi a dŵr am ddim
  • cyfleusterau chwaraeon a chlwb chwaraeon y gwasanaeth sifil sydd â chymhorthdal ar eu cyfer