Siarter gwybodaeth bersonol
Mae ein siarter gwybodaeth bersonol yn cynnwys y safonau y gallwch eu disgwyl pan fyddwn yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol, neu’n ei dal. Hefyd, mae’n ymdrin â’r hyn rydym ni’n ei ofyn ohonoch chi, er mwyn ein helpu i sicrhau bod ein gwybodaeth yn gyfredol.
Eich preifatrwydd
Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol, rydym yn ymrwymo:
- i wneud yn siŵr eich bod chi’n gwybod pam mae angen y wybodaeth arnom ni
- i ofyn dim ond am yr hyn y mae ei angen arnom ni, a pheidio â chasglu gormod o wybodaeth neu gasglu gwybodaeth amherthnasol
- i’w diogelu a sicrhau nad yw unrhyw un heb ganiatâd yn gallu mynd ati
- i roi gwybod i chi os byddwn yn ei rhannu gyda sefydliadau eraill er mwyn rhoi gwasanaethau cyhoeddus gwell i chi – a pha un a allwch ddweud na
- i wneud yn siŵr nad ydym yn cadw’r wybodaeth yn hirach nag y bo angen
- i beidio â galluogi’ch gwybodaeth bersonol i fod ar gael at ddefnydd masnachol heb eich caniatâd
Yn gyfnewid am hynny, gofynnwn i chi:
- roi gwybodaeth gywir i ni
- rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau, fel cyfeiriad newydd, cyn gynted â phosibl
Gallwch gael rhagor o fanylion am:
- sut i gael gwybod pa wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi a gofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau
- cytundebau sydd gennym â sefydliadau eraill er mwyn rhannu gwybodaeth
- ein cyfarwyddiadau i staff ar sut i gasglu, defnyddio a dileu eich gwybodaeth bersonol
- sut rydym yn cadarnhau bod y wybodaeth sy’n cael ei dal gennym yn gywir ac yn gyfredol
- sut i gwyno
- sut i ddarganfod pa wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch chi
Mae gennych hawl i wneud cais am gopi o’r wybodaeth bersonol y mae Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau (UKCES) yn ei chadw amdanoch chi. Yr enw am hyn yw ‘Cais Gwrthrych am Wybodaeth’. Os ydych eisiau gofyn a yw UKCES yn cadw unrhyw ddata personol amdanoch chi, ysgrifennwch atom ni yn y cyfeiriad canlynol:
Swyddog Diogelu Data / Data Protection Officer
UK Commission for Employment and Skills
Renaissance House
Adwick Park
Wath-upon-Dearne
S63 5NB
Cyn i ni allu gweithredu ynglŷn â’ch cais, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o bwy ydych chi. Dylai hyn gynnwys llungopi o dudalennau manylion adnabod eich pasbort presennol neu drwydded yrru bresennol â llun, a chopi gwreiddiol o fil cyfleustodau cyfredol (er enghraifft, nwy neu drydan), neu gyfriflen cerdyn credyd neu fanc, sy’n cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad cyfredol. Gellir dychwelyd y rhain atoch, os bydd angen. Os nad oes gennych y mathau hyn o fanylion adnabod, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data, a fydd yn eich cynorthwyo chi.
Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi 40 niwrnod calendr i ni ddarparu eich gwybodaeth bersonol i chi. Mae hyn yn cychwyn o’r dyddiad pan fyddwn yn derbyn cais sy’n cynnwys digon o wybodaeth i ni allu eich adnabod chi a dod o hyd i’r wybodaeth. Byddwn yn ceisio darparu eich gwybodaeth cyn gynted ag y gallwn o fewn y cyfnod hwn.
Os byddwn yn dal gwybodaeth amdanoch, gallwch ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau trwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad uchod.