Datganiad ar gaethwasiaeth fodern

Mae’r datganiad hwn yn manylu ar y gwaith y mae CThEF yn ei wneud ar hyn o bryd i ddileu caethwasiaeth fodern yn ein cadwyni cyflenwi.


Rhagair

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd difrifol sy’n cael ei gyflawni ar draws y DU a gweddill y byd. Mae’n cyfeirio at fath o gaethwasiaeth a all ddigwydd mewn unrhyw sector busnes. Amcangyfrifir bod 40 miliwn o ddioddefwyr ledled y byd. Mae dioddefwyr caethwasiaeth fodern yn cael eu hecsbloetio er budd eraill. Gall hyn fod ar sawl ffurf wahanol gan gynnwys masnachu pobl, llafur gorfodol, caethwasiaeth a chaethwasanaeth.

Ym mis Mawrth 2020, y DU oedd y wlad gyntaf i gyhoeddi datganiad gan y llywodraeth ar gaethwasiaeth fodern. Roedd y datganiad yn manylu ar y camau y mae’r llywodraeth ganolog wedi’u cymryd, ac yn gosod y sylfeini i adrannau, fel ein hadran ni, adeiladu arnynt. Mynegodd y Prif Weinidog y sefyllfa’n glir – ‘os ydym o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â’r drwg cynyddol dreiddiol hwn, yna nid yw geiriau’n ddigon – rhaid i ni gymryd camau gweithredol i’w yrru allan o’n cadwyni cyflenwi’.

Mae ein gwaith yn cyffwrdd â bywydau bron pawb yn y wlad. Fel awdurdod treth, taliadau a thollau’r DU, mae gennym ddiben hanfodol: rydym yn casglu’r arian sy’n talu am wasanaethau cyhoeddus y DU ac yn rhoi cymorth ariannol targededig i’r cyhoedd. Mae ein gwaith yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa unigryw i gefnogi ymrwymiad y llywodraeth i waredu caethwasiaeth fodern o’r economi ddomestig a byd-eang.

Gan fod y trosedd hwn yn gyffredin erbyn hyn, ac o ystyried cymhlethdod cadwyni cyflenwi’r byd, nid oes unrhyw gadwyn gyflenwi’n gallu osgoi’r perygl o gaethwasiaeth fodern. Mae’r datganiad hwn yn amlinellu’r mesurau sydd ar waith er mwyn diogelu yn erbyn caethwasiaeth fodern o fewn ein cadwyni cyflenwi ein hunain. Mae hefyd yn disgrifio sut rydym, drwy’n gwaith ehangach o sicrhau cydymffurfiad â threth a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, yn diogelu gweithwyr sy’n agored i niwed.

Yn ogystal ag amlinellu’r mesurau presennol, mae’r datganiad hwn yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer gwelliannau pellach. Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd yn flynyddol ac yn cyhoeddi’r cynnydd hwnnw ar ein hafan.

Jim Harra, Prif Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Weithredwr CThEF

1. Strwythur a chadwyni cyflenwi CThEF

Adran anweinidogol yw CThEF a sefydlwyd gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005. Mae hyn yn sicrhau bod gweinyddiaeth y system dreth yn deg, yn ddiduedd ac nad yw’n cynnwys penderfyniadau gwleidyddol ym materion trethdalwyr unigol. Rydym yn atebol i Ganghellor y Trysorlys am y ffordd rydym yn cynnal ein busnes. Mae’r Canghellor wedi dirprwyo’r cyfrifoldeb o oruchwylio CThEF i Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys – ar hyn o bryd y Gwir Anrhydeddus Jesse Norman AS.

Rydym yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau o natur gyffredinol a roddir gan weinidogion y Trysorlys, er enghraifft ynghylch ein strategaethau, ein polisïau a’n targedau gweithredol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Thrysorlys EF i gynghori gweinidogion ar ddatblygu a chyflwyno polisi treth. Mae Trysorlys EF yn arwain ar ddatblygu polisi strategol, gyda chefnogaeth CThEF. Mae CThEF yn arwain ar gynnal a chyflwyno polisïau, gyda chefnogaeth Trysorlys EF.

Mae gennym 5 amcan strategol:

  • casglu’r dreth gywir a thalu’r cymorth ariannol cywir
  • ei gwneud yn hawdd cael treth yn iawn ac yn anodd plygu neu dorri’r rheolau
  • cynnal cydsyniad trethdalwyr drwy driniaeth deg a diogelu’r gymdeithas rhag niwed
  • gwneud CThEF yn lle gwych i weithio
  • cefnogi nodau economaidd ehangach y llywodraeth drwy system gweinyddu treth sy’n wydn ac yn ystwyth

Siarter CThEF

Mae Siarter CThEF yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am CThEF yn ein hadroddiad blynyddol.

Cyfnod adrodd

Mae’r datganiad hwn yn cwmpasu ein gweithgareddau o 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021.

Sut rydym wedi ein trefnu

Jim Harra – Prif Ysgrifennydd Parhaol, Prif Weithredwr a Phrif Swyddog Cyfrifyddu CThEF – sy’n ein harwain. Mae gennym 4 grŵp craidd sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid: Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid, Cydymffurfiad Cwsmeriaid, a Ffiniau a Masnachu. Cefnogir y grwpiau hyn gan ystod o wasanaethau corfforaethol.

Mae gennym un asiantaeth weithredol, sef Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Rôl yr Asiantaeth yw darparu prisiadau a chyngor ar eiddo i’r llywodraeth, a hynny er mwyn cefnogi trethiant a budd-daliadau.

Mae pob swyddfa wedi eu lleoli yn y DU, ond rydym hefyd yn gweithio’n agos gydag awdurdodau treth eraill ledled y byd.

Dysgwch ragor am sut rydym wedi ein trefnu.

Roedd gan CThEF 63,852 o staff cyfwerth ag amser llawn ar ddiwedd 2020.

Ffeithiau a ffigurau cadwyn gyflenwi CThEF

Mae ein swyddogaeth fasnachol yn sefyll o fewn Grŵp y Prif Swyddog Cyllid ac mae’n cyflogi 205 o weithwyr proffesiynol medrus (cyfwerth ag amser llawn). Penodir 62 ohonynt yn ganolog drwy Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth, sy’n rhan o Swyddfa’r Cabinet. Mae’r swyddogaeth fasnachol yn gyfrifol am yr holl drefniadau masnachol sy’n cwmpasu gwariant allanol CThEF gyda chyflenwyr ynghyd â rheolaeth strategol ein cadwyn gyflenwi.

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021:

Gwariwyd £2.24 biliwn trwy ein cadwyn gyflenwi

Proseswyd 185,169 o anfonebau

Ein 5 categori uchaf ar gyfer gwariant oedd:

  • datblygu cymhwysiad rhaglenni cyfrifiadurol: £377 miliwn – gwasanaethau a reolir yw’r rhain, ac fe’u darperir gan gyflenwyr ar gyfer gofynion busnes mewnol ac allanol CThEF, sy’n cynnwys systemau TWE a systemau Hunanasesiad
  • lletya ar y we: £313 miliwn – ar gyfer storio a chynnal data ar gyfer gwefannau, seilwaith TG a llogi offer TG
  • TG (pob maes arall): £287 miliwn – mae hyn yn cwmpasu’r gwaith o ymgysylltu â chwsmeriaid, megis canolfannau cyswllt, teleffoni a negeseua, ac amser darlledu gwybodaeth i’r cyhoedd e.e. i’w hatgoffa o ddyddiadau cau hunanasesiad
  • contractau Menter Cyllid Preifat (PFI): £235 miliwn – darpariaeth swyddfeydd a wasanaethir. Mae’r gwariant yn gysylltiedig â’r contract ‘Trosglwyddiad Strategol o Ystadau i’r Sector Breifat (STEPs)’ a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2021, y contract ‘Partneriaeth Ystadau Newcastle’ a fydd yn dod i ben rhwng 2024 a 2029 a’r contract ‘Partneriaeth y Trysorlys’ a fydd yn dod i ben >2030. Bydd ein 13 Canolfan Ranbarthol yn disodli’r contractau
  • adeiladu a dodrefnu adeiladau: £194 miliwn – adeiladu a dodrefnu ystâd newydd CThEF, gan gynnwys canolfannau rhanbarthol. Gosod y gosodiadau mewnol, ffitiadau, gorffeniadau waliau, nenfydau, goleuadau, gwasanaethau, arwyddion ac unrhyw beth sy’n creu’r tu mewn i un o’n swyddfeydd newydd.

Ym mis Gorffennaf 2021, roedd gennym 597 o gontractau gyda chyfanswm gwerth contract o £7.6 biliwn. Mae’r rhain wedi’u rhannu isod yn ôl y system haenu contractau rydym yn ei defnyddio yn CThEF a’r system haenu a ddefnyddir ar draws y llywodraeth sy’n segmentu contractau i Aur, Arian ac Efydd.

Contractau CThEF fesul haen a gwerth

Haenu contractau Nifer y contractau Cyfanswm gwerth y contractau £miliwn
1 (Aur) 18 5,497
2 (Arian) 78 1,215
3 (Efydd) 159 738
4 (Efydd) 342 122
Cyfanswm 597 7,572

Mae ein cyflenwyr uniongyrchol yn gweithredu o’r lleoliadau canlynol:

  • Y DU: 559 o gontractau, £7,442 miliwn
  • Ewrop: 14 o gontractau, £21 miliwn
  • Yr Unol Daleithiau: 19 o gontractau, £107 miliwn
  • gweddill y byd (Awstralia, Canada, Singapôr, Israel): £1 miliwn

Mae’r mwyafrif helaeth o gyflenwyr CThEF wedi’u cofrestru yn y DU ac mae gan lawer ohonynt, o achos eu maint a’u graddfa, weithrediadau a chadwyni cyflenwi byd-eang.

Cyhoeddir manylion ein contractau dros £10,000 ar-lein drwy’r chwiliwr contractau.

Sefydlwyd Gweithgor Caethwasiaeth Fodern gennym ym mis Medi 2020 gyda chynrychiolwyr o’n Cyfarwyddiaeth Fasnachol, gyda chefnogaeth cydweithwyr o bob rhan o CThEF, gan gynnwys yr Arweinydd Caethwasiaeth Fodern o fewn yr Uned Ymateb i Fygythiadau yn ein Gwasanaeth Ymchwilio i Dwyll (FIS). Gyda’i gilydd, mae’r grŵp yn gweithio i weithredu strategaethau newydd ac adrodd ar ffyrdd o liniaru caethwasiaeth fodern ac ymyriadau â hawliau dynol o fewn cadwyni cyflenwi CThEF. Ceir rhagor o fanylion ar sut mae Uned Ymateb i Fygythiadau FIS yn helpu i gydlynu ein gweithgarwch sy’n ymwneud â chaethwasiaeth fodern yn ddiweddarach yn y datganiad.

Fel sy’n ofynnol gan Ddatganiad Caethwasiaeth Fodern 2020 Llywodraeth y DU, rydym wedi penodi Eiriolydd Gwrth-Gaethwasiaeth – sef Sarah Hamilton, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Contractau Masnachol – sy’n goruchwylio ein gweithgarwch caethwasiaeth fodern yn CThEF. Mae Sarah yn arwain y Gweithgor, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o’r camau gweithredol a argymhellir ar gyfer ein hadran. Mae Sarah hefyd yn monitro sut rydym yn gweithredu, neu’n bwriadu gweithredu, ein strategaethau i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern.

Mae arweinwyr lefel gwaith pob adran yn mynychu cyfarfodydd y Grŵp Caffael a Gweithredu Caethwasiaeth Fodern (MSPIG) a gadeirir gan y Swyddfa Gartref. Mae’r cyfarfodydd hyn yn rhoi’r cyfle i nodi heriau cyffredin a chyfleoedd i gydweithio ar ymyriadau posibl â chadwyni cyflenwi.

Mae ein harferion masnachol hefyd yn agored i archwiliadau mewnol rheolaidd ac adolygiadau rheolaidd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Mae’r diagram isod yn rhoi trosolwg o sut rydym wedi’n cysylltu â grwpiau sy’n hyrwyddo dileu caethwasiaeth fodern.

2. Polisïau mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern

Hyrwyddo, gweithredu a gorfodi Nodyn Polisi Caffael (PPN) 05/19

Amlinellir polisïau trosfwaol y llywodraeth yr ydym yn cyd-fynd â nhw, ac yr ydym yn cydymffurfio â nhw, yn natganiad caethwasiaeth fodern Llywodraeth y DU (tudalennau 7 i 9).

Mae Nodyn Polisi Caffael (PPN) 05/19, a’r arweiniad cysylltiedig, yn nodi’r camau y mae’n rhaid i adrannau eu cymryd i sicrhau bod risgiau o ran caethwasiaeth fodern yn cael eu nodi a’u rheoli yng nghadwyni cyflenwi’r llywodraeth.

Mae’r Nodyn Polisi Caffael wedi cael ei weithredu gan staff masnachol CThEF drwy:

  • adolygu prosesau rheoli contractau a dogfennau cysylltiedig yn unol â’r arweiniad hwn
  • defnyddio goruchwyliaeth gryfach o ran rheoli contractau, gweithio gyda’n cyflenwyr i fynd i’r afael ag unrhyw risgiau, datrys problemau a newid arferion gwaith lle bo angen
  • cynnal gwaith sy’n canolbwyntio ar fapio cadwyni cyflenwi gyda’n cyflenwyr sydd wedi’u contractio’n uniongyrchol, gan ystyried isgontractwyr allweddol o fewn y gadwyn gyflenwi, i nodi’r sawl sydd â risg uchel o gaethwasiaeth fodern

Rydym wrthi’n:

  • adolygu a diwygio ein harweiniad a’n dogfennau caffael i gynnwys ymrwymiadau ynghylch caethwasiaeth fodern
  • cynnwys cwestiynau ynghylch caethwasiaeth fodern yn ein holiaduron tendro safonol i asesu cydymffurfiad â’r ddeddfwriaeth
  • ychwanegu cymalau sy’n ymwneud â chaethwasiaeth fodern at y telerau ac amodau safonol yn ein contractau, yn ogystal â’n cymalau ar yr isafswm cyflog cenedlaethol a hawliau dynol, y mae’n rhaid i gyflenwyr gytuno arnynt cyn dyfarnu’r contract
  • codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol drwy sesiynau hyfforddi rhyngweithiol wedi’u haddasu o fodel hyfforddi arfer gorau’r Swyddfa Gartref a fynychwyd gan 170 o’n cydweithwyr Masnachol hyd yma
  • gwahodd ein cyflenwyr allweddol i gwblhau’r Offeryn Asesu Caethwasiaeth Fodern (MSAT) yn flynyddol

Hyrwyddo, gweithredu a gorfodi polisïau perthnasol CThEF

Fel rhan o ddull ‘Hyrwyddo, Atal, Ymateb’ CThEF at gydymffurfiad, creodd FIS Uned Ymateb i Fygythiadau. Nod yr Uned yw gweithio gyda rhanddeiliaid er mwyn nodi’n gyflym unrhyw fygythiadau posibl o dwyll difrifol a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg – gan osgoi niwed cymdeithasol sylweddol, colledion treth helaeth, a bygythiadau difrifol i’r Trysorlys. Mae’r Uned hefyd yn cydlynu gweithgarwch ar draws ein Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid er mwyn lliniaru twyll.

Mae cydweithwyr yn ein Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid yn mynd i’r afael â thwyll cyfundrefnol sy’n ymwneud â llafur, caethwasiaeth fodern a gwaith anghyfreithlon mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • llunio strategaethau i fynd i’r afael â’r risgiau i CThEF sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern, megis: cam-drin cyfundrefnau treth, y systemau Budd-daliadau a Chredydau, a’r ddeddfwriaeth Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • yn 2020 i 2021, gwnaethom helpu tua 770,000 o gyflogwyr a gweithwyr i chwilio am wybodaeth bellach mewn perthynas â’r isafswm cyflog drwy weithgareddau fel ymgyrchoedd llythyrau un-i-lawer, gweminarau a negeseuon testun. Mae hyn yn rhan o’n gweithgarwch i helpu cyflogwyr i ddeall eu hymrwymiadau o ran yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ac i helpu cyflogeion i wybod beth yw eu hawliau
  • creu partneriaeth gydag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch i godi safonau ar gyfer ei Gynllun Contractwyr Cymeradwy drwy ddarparu goruchwyliaeth a llywodraethiant, a sicrhau unplygrwydd ymgysylltiad â’r gweithlu

Mae caethwasiaeth fodern a gwaith anghyfreithlon yn ymddygiadau sy’n targedu ac yn ecsbloetio’r unigolion yn ein cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed, ac mae’r ymddygiadau hyn yn hyrwyddo cam-drin cyfundrefnau treth, a’r systemau budd-daliadau a chredydau.

Mae’n aml yn wir mai’r cyflogwyr neu’r unigolion hynny sy’n ymwneud â chaethwasiaeth fodern a gwaith anghyfreithlon, sy’n ecsbloetio’u gweithlu, yw’r rhai na fyddant yn cydymffurfio â threth chwaith. Gall Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol hefyd fod yn rhan o hyn, ac felly, gwelir effaith y gweithgarwch hwn ar draws nifer o gyfundrefnau treth.

Rôl CThEF wrth gefnogi nodau economaidd ehangach y llywodraeth a’i gwneud yn anoddach i bobl dorri’r rheolau

Rydym yn bartner allweddol yn agenda’r llywodraeth i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern. Rydym yn cydweithio’n agos ag asiantaethau eraill sy’n gorfodi’r gyfraith, gan ddefnyddio ein pwerau sifil a throseddol unigryw i fynd i’r afael â’r elw anghyfreithlon a wneir gan unigolion sy’n ecsbloetio eraill.

Rydym wedi penodi Arweinydd Caethwasiaeth Fodern, sef Andrew Reeves, o fewn Uned Ymateb i Fygythiadau FIS. Mae timau arbenigol o Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid CThEF yn gweithio gydag asiantaethau eraill y llywodraeth, yn bennaf y Swyddfa Gartref, er mwyn mynd i’r afael ag achosion o osgoi treth o fewn cadwyni cyflenwi sy’n ymwneud â llafur gorfodol.

Rydym hefyd yn gorfodi’r Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Ffocws ein Tîm Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw adfer gweithwyr ac addysgu cyflogwyr, a gosod sancsiynau arnynt drwy gosbau, ac erlyn y troseddwyr gwaethaf. Gall BEIS ystyried enwi cyflogwyr nad ydynt yn talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Yn 2020 i 2021, er gwaethaf heriau COVID-19, mae CThEF wedi ymchwilio i 2,700 o fusnesau gan nodi dros £16.7 miliwn mewn ôl-ddyledion cyflog ar gyfer mwy na 155,000 o weithwyr, ac mae wedi cyhoeddi 575 o gosbau gwerth dros £14 miliwn.

3. Asesiad risg a diwydrwydd dyladwy

Ein dull o flaenoriaethu gweithgarwch gwrth-gaethwasiaeth

Mae’r llywodraeth wedi datblygu’r Offeryn Asesu Caethwasiaeth Fodern (MSAT) – offeryn rhad ac am ddim ar gyfer nodi a rheoli’r risg o gaethwasiaeth fodern i gyrff cyhoeddus ei ddefnyddio gyda’u cyflenwyr.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi creu partneriaeth gydag NQC gan ddefnyddio eu hofferyn ar-lein i asesu cyflenwyr, CAESER (Asesiad Corfforaethol o Gyfrifoldebau Amgylcheddol, Cymdeithasol ac Economaidd), er mwyn nodi risgiau gyda’n cyflenwyr a’u cadwyni cyflenwi.

Rydym yn gwahodd ein cyflenwyr mwyaf allweddol i gwblhau’r asesiad CAESER blynyddol sy’n cynnwys yr Offeryn Asesu Caethwasiaeth Fodern (MSAT). Mae hyn yn cynnwys y cyflenwyr sydd â chontractau Haen 1 (Aur) gyda ni a’r rhan fwyaf o gontractau Haen 2 (Arian). Rydym yn eithrio ein contractau meddalwedd gan eu bod yn cael eu hystyried yn risg isel o gaethwasiaeth fodern.

Canfyddiadau’r Offeryn Asesu Caethwasiaeth Fodern: 2020 i 2021

Yn 2020 i 2021, gwnaeth 38 o gyflenwyr, sy’n cynrychioli 55% o’n cyflenwyr targededig, gwblhau’r Offeryn Asesu Caethwasiaeth Fodern (MSAT):

  • Gwnaeth 81% o gyflenwyr gadarnhau eu bod yn ymwybodol ei bod yn ofynnol iddynt, o dan Adran 54 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, gynhyrchu datganiad caethwasiaeth fodern os ydynt yn bodloni’r meini prawf. Canfuom ddau achos o ddiffyg cydymffurfio y gwnaeth yr offeryn eu nodi ar gyfer gwella
  • Gwnaeth 26% o’r cyflenwyr a ymatebodd nodi lleoliadau daearyddol lle’r oedd risg dybiedig o fewn eu cadwyni cyflenwi – ac o’r cyflenwyr hynny, nododd 20% India fel lleoliad â risg uwch o gaethwasiaeth fodern, gyda 12% yn nodi Brasil, Nigeria a’r Emiraethau Arabaidd Unedig
  • Mae 66% o gyflenwyr wedi cymryd camau i fapio eu cadwyni cyflenwi, gyda 68% yn mapio i lefel 1 a 28% yn mapio hyd at lefel 5

Canfyddiadau cyffredinol o’r MSAT dros y ddwy flynedd ddiwethaf:

  • gwnaeth 89% o’n cyflenwyr gadarnhau bod ganddynt bolisïau i helpu i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern
  • does dim digwyddiadau wedi’u cofnodi na’u datgelu yn ystod y 12 mis diwethaf
  • mae 68% o’r cyflenwyr a wnaeth gwblhau’r MSAT wedi cymryd camau i fapio eu cadwyni cyflenwi er mwyn nodi’r risg o gaethwasiaeth fodern
  • mae gan 58% o gyflenwyr brosesau ar waith ar hyn o bryd er mwyn nodi’r risg o gaethwasiaeth fodern
  • mae 79% o gyflenwyr wedi cynnal diwydrwydd dyladwy’n ymwneud â chaethwasiaeth fodern
  • mae 97% o bolisïau, prosesau a chodau’r cyflenwyr yn bodloni’r darpariaethau gofynnol

Prosesau ar gyfer monitro’r risgiau o gaethwasiaeth fodern

Mae canlyniadau’r MSAT, yn ogystal ag unrhyw ganfyddiadau o ganlyniad i weithgarwch diwydrwydd dyladwy a gynhelir gennym, yn darparu dealltwriaeth werthfawr ynghylch risgiau’n ymwneud â chaethwasiaeth fodern yn y gadwyn gyflenwi. Mae hyn yn caniatáu i’n rheolwyr contractau masnachol fonitro cyflenwyr yn agos.

Bydd unrhyw feysydd i’w gwella gan gyflenwyr yn cael eu nodi gan reolwyr contractau masnachol a fydd yn gweithio gyda chyflenwyr i weithredu unrhyw weithgarwch adferol. O ran caethwasiaeth fodern, bydd y ffordd yr ydym yn gweithio gyda phob cyflenwr yn cael ei theilwra yn ôl canlyniadau eu hadroddiad MSAT.

Cynlluniau er mwyn cryfhau’r broses asesu risg

Rydym yn parhau i fapio ein cadwyni cyflenwi, gan ddefnyddio’r Offeryn Blaenoriaethu Caethwasiaeth Fodern, a chan wahodd y rheini y tybir bod eu risg yn uchel i’w gwblhau.

Byddwn yn annog cyflenwyr i greu polisïau a phrosesau sy’n cwmpasu’r argymhellion o’u hadroddiad MSAT ar gaethwasiaeth fodern, a hynny o fewn eu gweithrediadau mewnol a’u cadwyn gyflenwi allanol. Rydym wedi gwella telerau ac amodau ein contractau er mwyn sicrhau cydymffurfiad y cyflenwr a’r gadwyn gyflenwi â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

Mae ein timau masnachol wedi gosod amcanion penodol ar gyfer y flwyddyn i ddod, a byddant yn rhoi dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) ar waith er mwyn monitro a mesur ein cynnydd. Bydd yr amcanion a’r KPIs hyn yn parhau i gael eu datblygu i adlewyrchu unrhyw newid ffocws wrth i’n taith i fynd i’r afael â risg i’r gadwyn gyflenwi esblygu.

Argymhellion o MSAT 2020 i 2021

Mae archwiliadau cymdeithasol yn bwysig er mwyn deall amodau llafur o fewn sefydliad. Yr unig argymhelliad oedd gennym o’r MSAT diweddaraf oedd: ‘Fel cwsmer, gall CThEF annog ei gyflenwyr i gomisiynu neu gynnal archwiliadau’n rheolaidd ac i fynd ati o ddifrif i weithio ar unrhyw argymhellion a gyflwynir i wella amodau llafur o fewn eu gweithrediadau.’

Rydym wedi ychwanegu nod penodol ar gyfer caethwasiaeth fodern (gweler adran 5) i wella telerau ac amodau ein contractau. Bydd hyn yn cynnwys ymrwymiad ar gyflenwyr i gynnal archwiliadau cymdeithasol rheolaidd drwy gydol cyfnod y contract, os nodir eu bod â risg uchel o gaethwasiaeth fodern.

Nodi meysydd sy’n peri risg i CThEF

Rydym yn defnyddio nifer o ffynonellau er mwyn nodi ble y gallai ein cadwyni cyflenwi fod yn cuddio risg o gaethwasiaeth fodern. Ymhlith y ffynonellau mae’r Mynegai Caethwasiaeth Byd-eang a ‘Rhestr Nwyddau’ 2020 Adran Llafur yr Unol Daleithiau, sy’n tynnu sylw at y nwyddau a’r gwledydd lle gwyddys bod llafur gorfodol yn gyffredin. Yn yr un modd, rydym yn defnyddio adroddiadau gwybodaeth y Swyddfa Gartref ar Farchnadoedd y DU a nwyddau cynhenid.

Mae’r ffynonellau hyn wedi ein helpu i nodi meysydd risg bosibl y gallai fod angen eu monitro, megis caledwedd TG, adeiladu, dodrefnu eiddo a rheoli cyfleusterau. Yn benodol, mewnforio caledwedd TG megis gliniaduron, llechi a ffonau symudol ynghyd â chelfi swyddfa a chontractau glanhau a diogelwch.

Mae ein Rhaglen Lleoliadau wedi helpu i drawsnewid y ffordd rydym wedi ein trefnu drwy gyfuno 170 o swyddfeydd a dod â’n pobl at ei gilydd mewn 13 Canolfan Ranbarthol newydd. Fodd bynnag, mae hyn wedi golygu lefelau uwch o wariant yn y sectorau adeiladu a dodrefnu swyddfeydd, sydd â risg uwch.

Mae ein contractau ar gyfer cyflenwadau swyddfa a gwisgoedd unffurf hefyd yn peri risg o ran cael eu mewnforio o wledydd risg uchel.

Gwario drwy ein cadwyn gyflenwi yn 2020 i 2021

Gan ddefnyddio’r ffynonellau data hyn, yn ogystal ag offer a thechnegau rheoli risg eraill, gallwn nodi a rheoli risgiau’r gadwyn gyflenwi. Wrth wneud hynny, gallwn hefyd nodi pa gyfran o gyfanswm ein gwariant sydd mewn sectorau sydd â risg uchel o gaethwasiaeth fodern.

Swm
Cyfanswm y gwariant gyda’r holl gyflenwyr £2,240 miliwn
Cyfanswm y gwariant gyda chyflenwyr yr ystyrir eu bod mewn meysydd sydd â risg uchel o gaethwasiaeth fodern £316 miliwn (14.14%)

Ein gwariant mewn meysydd risg uchel

Dadansoddiad o wariant mewn meysydd risg uchel Gwariant mewn £miliwn % o gyfanswm y gwariant
Caledwedd a meddalwedd TG 99 4.42
Gwaith adeiladu 94 4.20
Dodrefn, gosodiadau a ffitiadau 93.4 4.17
Gwasanaethau diogelwch 16.6 0.74
Cyflenwadau swyddfa 6.8 0.30
Glanhau ac arlwyo 6.7 0.29
Gwisgoedd unffurf 0.4 0.02

Deall risgiau o ran y gadwyn gyflenwi

Yn ogystal â’r gwaith a nodir uchod, rydym yn defnyddio cofrestr rheolaeth a risg i gofnodi, rheoli a, lle bo angen, uwchgyfeirio risgiau yn unol â dull CThEF o reoli risg.

Mae ein fframwaith ar gyfer Sicrwydd y Gadwyn Gyflenwi yn darparu dull strwythuredig o reoli risg drwy ein gweithgareddau caffael a rheoli contractau. Mae cyfres o reolaethau a phrosesau ar waith i ddarparu ymateb cymesur i liniaru risg.

Rydym yn mapio’r gadwyn gyflenwi ar ein contractau strategol yn flynyddol. Mae hyn yn helpu i nodi unrhyw feysydd sydd â risg yn perthyn iddynt, gan gynnwys caethwasiaeth fodern. Yna, rydym yn gweithio gyda chyflenwyr i roi rheolaethau digonol ar waith i gyfyngu neu liniaru’r risgiau hynny. Rydym yn cydnabod bod rhagor o waith i’w wneud yn y maes hwn, ac felly rydym yn bwriadu ymestyn y gwaith o fapio’r gadwyn gyflenwi y tu hwnt i’n contractau strategol i gynnwys cadwyni cyflenwi y nodir eu bod mewn risg uchel o gaethwasiaeth fodern.

Diwydrwydd dyladwy’r gadwyn gyflenwi

Rydym yn cynnal diwydrwydd dyladwy ar ein cyflenwyr a, lle y bo’n briodol, eu hisgontractwyr. Mae hyn yn ein hysbysu am unrhyw gyflenwyr a allai fod mewn perygl o fethiant ariannol yn ogystal â’r rhai nad ydynt o bosibl yn cydymffurfio â chyfraith y DU. Cyn dyfarnu contract, rydym yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar gyfer treth, taliadau prydlon a chydymffurfiad â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae gwiriadau diwydrwydd dyladwy hefyd yn cael eu cynnal yn flynyddol drwy gydol cyfnod y contract, oni bai am y contractau hynny y nodir eu bod yn risg isel ac sy’n fwy trafodiadol eu natur. Ceir rhagor o wybodaeth am ein dull o sicrhau cydymffurfiad treth ein cyflenwyr yn yr adroddiad canlynol: Cydymffurfiad treth cyflenwyr CThEF.

Rhoi gwerth cymdeithasol ar waith mewn polisïau caffael

Rydym wedi gweithredu’r camau o arweiniad newydd y llywodraeth ar werth cymdeithasol, fel y nodir yn Nodyn Polisi Caffael 06/20. Mae hyn yn ystyried gwerth cymdeithasol wrth ddyfarnu contractau ‘mewn sgôp’ y llywodraeth ganolog ac mae wedi’i rannu â’r holl staff masnachol. Mae’r Model Gwerth Cymdeithasol wedi’i ymgorffori yn ein prosesau masnachol, ac mae gwerth cymdeithasol bellach yn cael ei werthuso fel rhan benodol o’n caffaeliadau ‘mewn sgôp’ ac wedi’i gynnwys yn ein telerau ac amodau safonol. Mae gwybodaeth am ein contractau sydd â gwerth dros £10,000 ar gael drwy Contracts Finder ar GOV.UK. Mae pob un o’n 205 aelod o staff masnachol wedi cael y cyfle i fynychu un o nifer o sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd ar y Model Gwerth Cymdeithasol.

Gweithredu arferion prynu cyfrifol

Byddwn yn parhau i asesu sut rydym yn caffael ac yn rheoli contractau mewn ffordd sy’n lleihau risgiau caethwasiaeth fodern, ac rydym yn cydnabod y bydd mwy i’w wneud. Rydym yn bwriadu parhau i wella’r ffordd rydym yn monitro, yn mesur ac yn ymateb i risgiau a’r ffordd rydym yn gweithredu mentrau gwrth-gaethwasiaeth. Yn ogystal â gwerth cymdeithasol, rydym hefyd yn gweithredu Nodyn Polisi Caffael 07/20, sydd wedi’i gynllunio i hyrwyddo arferion Talu’n Brydlon ymysg ein cyflenwyr presennol a’n darpar gyflenwyr.

Adnabod ac adrodd ar gaethwasiaeth fodern

Mae’n ofynnol i CThEF, fel awdurdod cyhoeddus cydnabyddedig, weithio’n agos gyda Sefydliadau Ymatebwyr Cyntaf i gwblhau atgyfeiriadau drwy’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol pan nodir dioddefwyr posibl o gaethwasiaeth fodern. Mae’n ofynnol i ni fod yn rhagweithiol wrth rannu gwybodaeth amlasiantaethol, gan ddefnyddio’r strategaethau partneriaeth gwrth-gaethwasiaeth y cytunwyd arnynt gennym yn lleol gyda chyrff fel yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) a’r Awdurdod Meistri Gangiau a Chamddefnyddio Llafur (GLAA), fel y nodir uchod.

Mae ein timau ehangach sy’n delio â Diffyg Cydymffurfio Difrifol yn cynnal gweithrediadau rheolaidd ar y cyd lle bo risg o gaethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl. Ond, fel arfer, rydym yn cael ein gwahodd i gymryd rhan yn yr ymchwiliadau hyn naill ai gan yr Heddlu neu gan y GLAA. Mewn unrhyw achosion o’r fath, prif nod yr asiantaethau hynny ar bob adeg fydd diogelu gweithwyr sy’n agored i niwed. Mae hyn yn cyd-fynd â’n polisi Deallusrwydd Dynol cyffredinol sy’n sicrhau ein bod yn delio â gwybodaeth mewn ffordd addas a’n bod yn sicrhau cyfrinachedd ein ffynonellau gwybodaeth.

Mae hefyd gennym bolisi chwythu’r chwiban a system er mwyn adrodd. Mae hyn yn caniatáu i bob gweithiwr, gan gynnwys cyflogeion, swyddogion, ymgynghorwyr, gweithwyr achlysurol a gweithwyr asiantaeth, godi pryderon. Bydd y pryderon hyn yn gysylltiedig ag unrhyw beth y maent yn dod ar ei draws yn ystod eu gwaith, y maent yn credu ei fod yn sylfaenol anghywir, yn anghyfreithlon neu’n berygl i eraill o fewn ein sefydliad, a bod dweud wrth rywun amdano (‘chwythu’r chwiban’) er budd y cyhoedd.

Mae rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiadau a’r dangosyddion rydym yn chwilio amdanynt mewn dioddefwyr posibl ar gael yn yr Arweiniad Statudol ynghylch Caethwasiaeth Fodern ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae hefyd gennym dîm sy’n derbyn atgyfeiriadau’n uniongyrchol gan y Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ac Ecsbloetiaeth. Elusen yn debyg i Crimestoppers ydynt, sy’n galluogi’r cyhoedd i adrodd yn ddienw ar gaethwasiaeth fodern. Yna, caiff yr atgyfeiriadau hyn eu hadolygu gan ein tîm cuddwybodaeth yn y Gwasanaeth Risg a Chuddwybodaeth (RIS) a’u trosglwyddo i’r Tîm Twyll Llafur yn ôl y gofyn.

Ers i’r broses ddechrau yn gynharach eleni, rydym wedi cael 46 o atgyfeiriadau.

Cymryd rhan mewn grwpiau dysgu i gymheiriaid neu fentrau cydweithredol eraill

Rydym yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o fforymau llywodraethu mewnol yn ogystal â Grŵp Cyflawni Hyfforddiant Caethwasiaeth Fodern a arweinir gan Swyddfa’r Cabinet. Mae’r grŵp hwn yn darparu arweinyddiaeth gyda hyfforddiant gwrth-gaethwasiaeth ar gyfer Asiantaethau Gorfodi’r Gyfraith, y Gwasanaeth Sifil, Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Anllywodraethol (NGO) yn y DU. Mae’n cefnogi nodau ac amcanion Llywodraeth y DU, fel y nodir yn Strategaeth Caethwasiaeth Fodern y Swyddfa Gartref.

Rhaglenni neu fentrau ehangach

Rydym yn aelod sefydledig o Grŵp Llywodraethu Bregusrwydd Unigol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Grŵp Bygythiad Caethwasiaeth Fodern, dan arweiniad Arweinydd Portffolio Caethwasiaeth Fodern Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Ar lefel ranbarthol a lleol, mae ein Rhwydwaith Hyrwyddwyr Caethwasiaeth Fodern a Gweithio Anghyfreithlon yn rhan o sawl grŵp tactegol amlasiantaethol a grwpiau amlasiantaethol sy’n canolbwyntio ar faterion gweithredol.

Astudiaeth achos

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gweithleoedd modern a chydweithredol yn y dyfodol sydd â dyluniad cynhwysol a fydd yn galluogi ein pobl i weithio’n gallach. Ein rhaglen lleoliadau yw’r rhaglen trawsnewid eiddo fwyaf yn y DU. Rydym ar ganol symud o hen rwydwaith o 170 swyddfa ar draws y DU, i 13 canolfan ranbarthol, 5 safle arbenigol, pencadlys yn Llundain ac 8 safle trosiannol erbyn 2022. Bydd y rhaglen yn helpu i wella gwasanaeth i gwsmeriaid drwy ddod â’n gweithgareddau o dan yr un to, gyda thimau aml-fedrus yn gallu newid rhwng sianeli cyfathrebu a mathau o waith i ateb y galw gan gwsmeriaid.

Rydym yn gweithio’n agos gyda chontractwyr ar bob lefel o fewn y rhaglen, i sicrhau bod ein canolfannau rhanbarthol yn addas ar gyfer ein pobl ac yn darparu’r gweithleoedd sydd eu hangen arnynt er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd. Mae cyflwyno prosiect ar raddfa mor fawr yn ddibynnol ar uniondeb ein cadwyni cyflenwi ac felly, fel rhan o’r gwaith hwn, cyflwynwyd deunydd addysgiadol a ddatblygwyd gan ein Huned Ymateb i Fygythiadau yn 2019 i gyflenwyr sy’n ymwneud â dodrefnu’r canolfannau rhanbarthol newydd hyn. Roedd y deunydd hwn yn annog cyflenwyr i ganolbwyntio ar risgiau posibl o fewn eu cadwyni cyflenwi eu hunain.

Ar yr un pryd, gwnaethom gymhwyso ein hegwyddorion ‘diwydrwydd dyladwy’r gadwyn gyflenwi’, a gellir dod o hyd i fanylion y rhain yn ein dogfen arweiniad. Rydym yn ailedrych ar y cyflenwyr hyn ac yn gwirio eu statws er mwyn sicrhau hyder parhaus yn y maes allweddol hwn o’n cadwyn gyflenwi. Hyd yn hyn, nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o gaethwasiaeth fodern o fewn y cadwyni hyn.

4. Hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth

Hyfforddiant i staff

Derbyniodd ein Heiriolwr Gwrth-gaethwasiaeth hyfforddiant traws-lywodraeth ar yr arfer gorau ar gyfer hyrwyddo gwrth-gaethwasiaeth yn y gweithle a’i gadwyni cyflenwi. Y nod oedd cefnogi Eiriolwyr Gwrth-gaethwasiaeth gyda’r canlynol:

  • meithrin ymwybyddiaeth a chapasiti yn fewnol
  • cefnogi ymgysylltu allanol
  • nodi a lliniaru’r risgiau o gaethwasiaeth fodern

Bob blwyddyn, mae 142 o staff masnachol yn cwblhau hyfforddiant Caffael a Chyflenwi Moesegol Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS). Mae’r hyfforddiant yn ofynnol i aelodau CIPS ac yn ymdrin â masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern. Y nod yw meithrin dealltwriaeth y cyfranogwyr o ba mor gyffredin yw caethwasiaeth fodern ac i sicrhau eu bod yn cydnabod eu cyfrifoldeb i nodi caethwasiaeth fodern a gweithgarwch anfoesegol o fewn cadwyni cyflenwi. Darperir yr hyfforddiant drwy blatfform e-ddysgu.

Mae pob aelod o’n staff sy’n gweithio mewn swyddi sy’n galw am ddelio â chwsmeriaid yn cwblhau pecyn e-ddysgu gofynnol ar Ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern. Mae hwn yn ymdrin â’r arwyddion o gaethwasiaeth a masnachu pobl, a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud os ydynt yn amau bod hyn yn digwydd.

Mae pecyn e-ddysgu uwch wedi’i greu sy’n ymdrin â Gweithio Anghyfreithlon ac mae’n ofynnol i’r holl staff sy’n gweithio yn y timau Ymchwilio i’r Farchnad Lafur. Argymhellir yn gryf bod staff yn cwblhau’r hyfforddiant hwn.

Mae’r holl gyfleoedd dysgu hyn yn cynnwys cyrsiau gloywi i staff eu cwblhau’n wirfoddol ar unrhyw adeg. Yn ogystal â’r dysgu uchod, mae hefyd gennym hyfforddiant uwch sy’n ymdrin â Gweithio Anghyfreithlon a Chaethwasiaeth Fodern. Cynnyrch hyfforddiant cwbl ryngweithiol yw hwn sydd wedi’i ddylunio i efelychu senarios ‘bywyd go iawn’ y mae cyfranogwyr yn debygol o ddod ar eu traws, yn enwedig wrth ymgymryd â gwaith traws-lywodraeth mewn perthynas ag achosion o ecsbloetio gweithwyr.

Cyflwynir yr hyfforddiant fel digwyddiad ymdrochi 2 ddiwrnod, sy’n atgyfnerthu dysgu blaenorol ac sy’n galluogi’r staff i elwa ar brofiadau ymarferol o gydweithio er mwyn mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern ac arferion gweithio anghyfreithlon. Mynychir y cwrs yn bennaf, ond nid yn unig, gan staff yn y grŵp Cydymffurfiad Unigolion a Busnesau Bach sy’n gweithio mewn swyddi sy’n galw am ddelio’n uniongyrchol â chwsmeriaid.

Rydym hefyd yn cynnal gweithdai rhithiol trwyadl er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Model Gwerth Cymdeithasol diweddar a grëwyd gan Swyddfa’r Cabinet, sy’n cynnwys elfennau o weithredu polisi caethwasiaeth fodern yn ystod y broses o ddyfarnu contractau. Mae’r gweithdai hyn yn dysgu i’n staff masnachol sut i ddefnyddio cwestiynau’n effeithiol i archwilio cyflenwyr yn llwyddiannus, gan sicrhau nwyddau a gwasanaethau o ffynonellau moesegol. 

Gwelliannau a gofnodwyd mewn dealltwriaeth

Mae adborth cyffredinol o hyfforddiant Caffael Moesegol CIPS yn awgrymu, ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, fod gan ein staff ddealltwriaeth gwell o effaith caethwasiaeth fodern – ar lefel unigolyn o safbwynt y dioddefwyr ac ar lefel gyhoeddus ehangach. Yn benodol, roeddent yn teimlo’n fwy gwybodus am y gwahanol ffyrdd y gallai caethwasiaeth fodern gyflwyno’i hun.
Gofynnwyd i’r cydweithwyr hynny a wnaeth gwblhau hyfforddiant Caffael Moesegol CIPS roi adborth manylach:

  • Roedd 100% o’r ymatebwyr yn deall yn gliriach eu cyfrifoldeb i ‘sicrhau bod cadwyni cyflenwi’n rhydd o gaethwasiaeth fodern’
  • Dysgodd 80% sut i wella eu gallu i adnabod arwyddion o gaethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi, y tu mewn i’r broses dendro a’r tu allan iddi
  • Roedd gan 40% o’r ymatebwyr ddealltwriaeth gwell o’r ffordd o gynnal archwiliadau cadwyni cyflenwi’n gywir ac yn effeithiol

5. Nodau a Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Mae’r adran hon yn darparu trosolwg o nodau a Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) CThEF. Bydd y nodau hyn yn ein helpu i gryfhau’r ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern, a bydd y KPIs yn mesur ein cynnydd.

Ein nodau masnachol

Nod Erbyn pryd Statws
Penodi rôl Eiriolydd Gwrth-Gaethwasiaeth Awst 2020 Wedi’i gwblhau
Creu Gweithgor Caethwasiaeth Fodern Medi 2020 Wedi’i gwblhau
Adolygu polisïau a phrosesau caffael CThEF, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag arweiniad canolog Tachwedd 2020 Wedi’i gwblhau
Gwahodd cyflenwyr i gwblhau’r MSAT Mawrth 2021 Wedi’i gwblhau
Cwblhau hyfforddiant i staff a sesiynau er mwyn codi ymwybyddiaeth Mai 2021 Wedi’i gwblhau
Cael a dadansoddi canlyniadau’r MSAT Mehefin 2021 Wedi’i gwblhau
Nodi risgiau uchel cymwys yn Haen 1 a Haen 2 (gweler Nodyn 1 isod) a’u gwahodd i gwblhau MSAT 2021/22 Medi 2021 Wedi’i gwblhau
Gweithredu KPIs CThEF mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern Medi 2021 Wedi’i gwblhau
Cyhoeddi datganiad caethwasiaeth fodern CThEF Medi 2021 Wedi’i gwblhau
Gwella telerau ac amodau contractau CThEF drwy gynnwys gofyniad i gyflenwyr gynnal archwiliadau cymdeithasol (os ydynt hwy neu eu cadwyni cyflenwi mewn risg uchel), mewn contractau newydd O Ragfyr 2021 ymlaen  

Ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Gallu masnachol

Cyfeirnod KPI Dangosydd Mesur
KPI Caethwasiaeth Fodern 1 Bydd yr holl staff masnachol wedi cyflawni hyfforddiant e-ddysgu Caffael a Chyflenwi Moesegol blynyddol CIPS (neu hyfforddiant cyfatebol a gymeradwyir) 90% o staff i gwblhau hyn yn flynyddol
KPI Caethwasiaeth Fodern 2 Hyfforddiant ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern gan MSAT ar gael i staff yn flynyddol Darperir cwrs gloywi blynyddol
KPI Caethwasiaeth Fodern 3 Newid y drefn o ran hyfforddiant fel ei bod yn ofynnol cwblhau hyfforddiant yn flynyddol a gwneud staff yn ymwybodol bod yn rhaid iddynt gwblhau hyfforddiant caethwasiaeth fodern a sesiynau ymwybyddiaeth yn flynyddol Ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyfforddiant yn flynyddol
KPI Caethwasiaeth Fodern 4 Staff masnachol i gwblhau’r hyfforddiant ‘Mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi’: astudiaeth achos PPE’ 80% o’r holl staff masnachol erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2021

Asesu a rheoli risg

Cyfeirnod KPI Dangosydd Mesur
KPI Caethwasiaeth Fodern 5 Cwblhau mapio’r gadwyn gyflenwi’n flynyddol ar gyfer yr holl gontractau Haen 1 a 2 a’r contractau hynny sydd â risg uchel o gaethwasiaeth fodern 80% o Haen 1 / Haen 2 (gweler Nodyn 1 isod) a chontractau risg uchel

Prosesau diwydrwydd dyladwy

Cyfeirnod KPI Dangosydd Mesur
KPI Caethwasiaeth Fodern 6 Caiff MSAT ei gwblhau’n flynyddol ar gyfer pob contract presennol sydd yn Haen 1 a Haen 2 (gweler Nodyn 1 isod) a’r contractau hynny y nodwyd eu bod â risg uchel o gaethwasiaeth fodern (contractau trwydded feddalwedd heb eu cynnwys) (gweler Nodyn 2 isod) 80% wedi’i gwblhau
KPI Caethwasiaeth Fodern 7 Caiff cynlluniau gweithredu eu datblygu er mwyn rheoli’r risgiau o ganlyniad i’r MSAT, a bydd rheolwyr contractau masnachol yn gweithio gyda’r cyflenwyr er mwyn gweithredu argymhellion yr MSAT 80% o’r holl gamau MSAT y cytunwyd arnynt wedi’u cwblhau.
KPI Caethwasiaeth Fodern 8 CThEF i ymrwymo i bolisi talu’n brydlon y llywodraeth, i dalu anfonebau diamheuol a dilys gan Fentrau Bach a Chanolig (SMEs) (gweler Nodyn 3 isod) cyn pen 5 diwrnod a phob anfoneb ddiamheuol a dilys i bob cyflenwr cyn pen 30 diwrnod. 90% o anfonebau diamheuol a dilys gan Fentrau Bach a Chanolig (SMEs) cyn pen 5 diwrnod a 100% o bob anfoneb ddiamheuol a dilys cyn pen 30 diwrnod.
KPI Caethwasiaeth Fodern 9 Bydd methodoleg Asesu Taliadau Prydlon yn cael ei gymhwyso at ymarferion caffael sydd o fewn y cwmpas (ar wahân i eithriadau a gymeradwywyd gan Swyddfa’r Cabinet). hyd at 100% o ymarferion caffael sydd o fewn y cwmpas

Nodiadau

  1. Mae contractau CThEF wedi eu gosod mewn Haenau (o 1 i 4) sy’n berthnasol i natur strategol y contract. Rydym yn pennu natur strategol y cyflenwr gan ddefnyddio meini prawf sy’n cynnwys risg, gwariant, sgôp, hyd y contract, a sut y mae’n cyd-fynd â’n nodau adrannol. Mae Haen 1 yn cyfateb i gontractau ‘Aur’ adrannau canolog eraill o’r llywodraeth. Mae Haen 2 yn cyfateb i gontractau ‘Arian’. Mae Haenau 3 a 4 yn cyfateb i gontractau ‘Efydd’.
  2. Mae contractau trwyddedau yn cyfeirio at drwyddedau meddalwedd a ddarperir i CThEF gan gyflenwyr sy’n gweithredu fel ailwerthwyr cynhyrchion Gwneuthurwyr Offer Gwreiddiol. O’r herwydd maent wedi’u heithrio rhag gorfod cwblhau’r MSAT.
  3. Mentrau Bach a Chanolig yw SMEs. Gellir disgrifio endid yn fach neu’n ganolig os yw’n bodloni’r cyfrif pennau ar gyfer y dosbarth hwnnw ac un (neu’r ddau) o’r terfynau ariannol a nodir yn y tabl isod. Os yw’r endid yn aelod o grŵp, neu os oes ganddo endid cysylltiedig, mae’r terfynau hyn yn berthnasol i’r grŵp cyfan ac nid yr endid penodol.