Amdanom ni

Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cefnogi diwylliant, y celfyddydau, y cyfryngau, chwaraeon, twristiaeth a chymdeithas sifil ym mhob rhan o Loegr — gan gydnabod safle’r DU ar frig y meysydd hyn a phwysigrwydd y sectorau hyn wrth gyfrannau cymaint at ein heconomi, ein ffordd o fyw a’n henw da ledled y byd. Mae’r adran yn hyrwyddo chwaraeon i bawb ar bob lefel, yn cefnogi ein diwydiannau diwylliannol a chreadigol blaengar, ac yn gwella cydlyniant ein cymunedau.


Canlyniadau blaenoriaethol

  1. Ffyniant a swyddi da ym mhob lleoliad. Byddwn yn gweithio i gefnogi twf ein sectorau hynod o arloesol, ac i gefnogi’r broses o sefydlu swyddi ar draws y DU. Hefyd, byddwn yn sicrhau bod pobl o bob man â’r sgiliau i lwyddo yn ein sectorau.

  2. Cymuned sydd wedi’i chydlynu’n gymdeithasol; sydd â stori gynhwysol. Byddwn yn grymuso partneriaid lleol, y cyfryngau a phobl i yrru newid yn ei flaen, adeiladu cymunedau sydd wedi’u cydlynu a stori gynhwysol.

  3. Bywydau cyfoethocach sydd â dewisiadau a chyfleoedd i bawb. Byddwn yn cefnogi pobl ifanc i lwyddo yn ein sectorau, ac yn helpu i sicrhau nad yw cyfleoedd yn cael eu cyfyngu o achos lle mae pobl yn byw, neu faint o arian sydd gan bobl.

Cyrff cyhoeddus ac asiantaethau

Adrannau anweinidogol:

  • Y Comisiwn Elusennau
  • Yr Archifau Gwladol

Cyrff cyhoeddus anadrannol gweithredol:

  • Cyngor Celfyddydau Lloegr
  • Sefydliad Ffilm Prydain
  • Y Llyfrgell Brydeinig
  • Yr Amgueddfa Brydeinig
  • Y Comisiwn Hapchwarae
  • Amgueddfa’r Cartref
  • Historic England
  • Ymddiriedolaeth Parc Cyhoeddus ac Amgueddfa Gyhoeddus Horniman
  • Bwrdd Ardoll Betio Rasio Ceffylau
  • Yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol
  • Yr Oriel Genedlaethol
  • Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl
  • Oriel Bortreadau Genedlaethol
  • Amgueddfa Astudiaethau Natur
  • Amgueddfa’r Arfdai Brenhinol
  • Amgueddfeydd Brenhinol Greenwich
  • Grŵp Amgueddfeydd Gwyddoniaeth
  • Amgueddfa Syr John Soane
  • Sport England
  • Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon
  • Tate
  • UK Anti-Doping
  • UK Sport
  • Amgueddfa Victoria ac Albert
  • VisitBritain
  • VisitEngland
  • Casgliad Wallace

Cyrff cyhoeddus anadrannol cynghorol

  • Y Cyngor Cynghorol ar Gofnodion ac Archifau Cenedlaethol
  • Y Pwyllgor Adolygu ar Allforio Gwaith Celf a Gwrthrychau o Ddiddordeb Diwylliannol
  • Yr Ymddiriedolaeth Theatrau
  • Y Pwyllgor Prisio Trysor

Corfforaethau cyhoeddus

  • BBC
  • Channel 4
  • Palasau Brenhinol Hanesyddol
  • Y Parciau Brenhinol

Arall

  • Ymddiriedolaeth Cadwraeth Eglwysi
  • S4C

Arweinyddiaeth

Ysgrifennydd Gwladol: Y Gwir Anrh Lisa Nandy AS

Ein prif swyddogion:

Ysgrifennydd Parhaol: Susannah Storey

Cyfarwyddwyr Cyffredinol: Polly Payne a Ruth Hannant

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Publication scheme. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Personal information charter yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol.