Cynllun iaith Gymraeg

Cynllun Iaith Gymraeg y Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon


Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn helpu i sbarduno twf, cyfoethogi bywydau a hyrwyddo Prydain dramor. Mae’r DCMS yn diogelu ac yn hyrwyddo ei threftadaeth ddiwylliannol ac artistig, ac yn helpu busnesau a chymunedau i dyfu drwy fuddsoddi mewn arloesi a thrwy dynnu sylw at Brydain fel lle gwych i ymweld ag ef. Mae’r DCMS yn helpu i roi mantais unigryw i’r DU ar y llwyfan byd-eang, gan ymdrechu i sicrhau llwyddiant economaidd.

Ynghylch Cynllun Iaith Gymraeg y DCMS

Sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 Fwrdd yr Iaith Gymraeg i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, a darparodd ar gyfer paratoi cynlluniau gan gyrff cyhoeddus a fyddai’n rhoi effaith i’r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Darparodd y Ddeddf y gallai personau sy’n gweithredu ar ran y Goron ddewis a ddylen nhw baratoi Cynllun Iaith Gymraeg o’r fath ac fe benderfynodd y DCMS wneud hynny. Daeth y cynllun i rym ar 8 Mehefin 2007. Ers hynny mae’r DCMS wedi diwygio’i Chynllun Iaith Gymraeg ddwywaith, ac fe’i cymeradwywyd ddiwethaf gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 04/04/2024.

Pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Senedd bellach) Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i foderneiddio’r fframwaith cyfreithiol ynglŷn â defnyddio’r Gymraeg. Roedd y Mesur yn cynnwys darpariaethau i ddisodli Bwrdd yr Iaith Gymraeg â Chomisiynydd y Gymraeg a disodli Cynlluniau Iaith â safonau ymddygiad ynglŷn â’r Gymraeg, sy’n cael eu hadnabod fel “safonau’r Gymraeg”. Er hynny, mae Cynlluniau Iaith yn parhau mewn grym nes eu bod wedi’u disodli gan safonau Cymraeg sy’n berthnasol i’r person dan sylw. Nid yw’r DCMS o dan ddyletswydd ar hyn o bryd i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg ac mae wedi diweddaru ei Chynllun Iaith a baratowyd o dan Adran 21 o Ddeddf 1993 [ac yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gymraeg o dan Adran 9 o’r Ddeddf].

Mae’r Cynllun yn ymdrin â’r gwasanaethau y mae’r DCMS yn eu darparu i’r cyhoedd yng Nghymru a sut mae’r DCMS yn bwriadu rhoi effaith i’r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Yn y Cynllun, mae’r term ‘cyhoeddus’ yn golygu unigolion, personau naturiol a chyfreithiol, gan gynnwys cyrff corfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, neu adran o’r cyhoedd, yn ogystal ag aelodau unigol o’r cyhoedd. Mae’r term yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennau. Mae cyfarwyddwyr ac eraill sy’n cynrychioli cwmnïau cyfyngedig hefyd wedi’u cynnwys o fewn ystyr y term ‘cyhoeddus’. Er hynny, nid yw’n cynnwys personau sy’n gweithredu mewn swyddogaeth sy’n cynrychioli’r Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth. O ganlyniad, nid yw personau sy’n cyflawni swyddogaethau swyddogol o natur gyhoeddus yn dod o fewn ystyr y gair ‘cyhoeddus’ pan fônt wrthi’n cyflawni’r swyddogaethau swyddogol hynny.

Ynghylch y DCMS

Nod yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yw sbarduno twf, cyfoethogi bywydau a hyrwyddo Prydain dramor. Mae’r DCMS yn helpu i greu economi sy’n arwain y byd; mae’r Adran yn hybu treftadaeth ddiwylliannol a chelfyddydol a chwaraeon y DU; ac mae’r DCMS yn gyfrifol am adeiladu cymdeithas sifil sy’n fwy ac yn gryfach.

Mae’r DCMS yn hanfodol ar gyfer creu cyfleoedd economaidd, arloesedd, ac ysbrydoliaeth a mwynhad i bawb. Gwerth y sectorau elusennol, diwylliannol, cyfryngau a chwaraeon yw £145 biliwn (8% o werth ychwanegol gros (GVA) y DU yn 2022) ac mae’r sectorau hyn yn cefnogi bron pedair miliwn o swyddi. Mae ein diwydiannau creadigol yn werth mwy ynddynt eu hunain i’r economi na’r sectorau olew a nwy, gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu cerbydau, ac awyrofod gyda’i gilydd.

Mae’r DCMS yn arwain agenda sy’n gosod Prydain ar lwyfan y byd (digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol, cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol, treftadaeth a thwristiaeth o’r radd flaenaf etc.). Mae sectorau’r DCMS yn chwarae rhan hollbwysig mewn datblygiad a llesiant economaidd a chymdeithasol lleol a rhanbarthol. Hefyd mae’r DCMS yn arwain ar hybu gwirfoddoli, dyngarwch, gweithredu cymunedol a chymdeithasol, busnes sy’n gyfrifol yn gymdeithasol a’r Gwasanaeth Cenedlaethol i Ddinasyddion.

Canlyniadau blaenoriaethol yr Adran yw’r canlynol:

  • TWF – Sbarduno twf ar draws ein holl sectorau, gan gynnwys diwydiannau creadigol a thwristiaeth, a rhoi cymorth iddyn nhw i godi gwastad ein heconomïau lleol.

  • CYFLE – Creu cyfleoedd i bobl ifanc, a chyfoethogi cymunedau, ynghyd â’n cyrff cyhoeddus a’n sector elusennau, drwy ehangu mynediad at chwaraeon llawr gwlad, celfyddydau a threftadaeth, llyfrgelloedd a gwasanaethau ieuenctid, a thrwy godi nifer y bobl sy’n cymryd rhan yn y rhain.

  • BYD-EANG – Arddangos y DU i’r byd a rhoi hwb i’n henw da ledled y byd drwy gynnal digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr ar draws y wlad.

  • CYFLAWNI – Cyflawni diwygiadau i wneud ein sector cyfryngau sydd o’r radd flaenaf yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif, i wneud y DU y lle mwyaf diogel yn y byd ar gyfer gamblo, ac i amddiffyn rhagoriaeth a chynaliadwyedd ariannol pêl droed Lloegr, gan roi cefnogwyr wrth wraidd clybiau.

Lluniwyd Concordat sy’n diffinio gweithdrefnau gweithredol a gwaith rhwng y DCMS a’r Senedd. Mae hwn yn berthnasol i faterion fel gweithio ar y cyd a chydweithredu rhwng y ddau gorff. Bydd penderfyniadau ar rannu cyfrifoldeb dros y ddarpariaeth Gymraeg yn cael eu gwneud drwy ymgynghori â’r Senedd a thrwy gyfeirio at y Concordat.

Er bod llawer o feysydd cyfrifoldeb y DCMS wedi’u datganoli i’r Senedd, yr Adran sy’n dal i fod yn gyfrifol am nifer o feysydd polisi neilltuedig. Mae’r rhain yn cynnwys polisi atal cyffuriau, trwyddedu adloniant cyhoeddus, darlledu, dosbarthiadau ffilmiau, y deddfau gamblo, y Loteri Genedlaethol, a diogelwch meysydd chwaraeon (ar gyfer meysydd sy’n cael eu defnyddio yng nghynghrair pêl-droed Lloegr a Stadiwm y Principality). Mae nifer o fentrau ar lefel y DU wedi’u cadw hefyd – e.e. Derbyniadau yn Lle Treth, Cynllun Indemniad y Llywodraeth a’r Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd. Bydd polisïau’n dal i gael eu hadolygu wrth gael eu creu o ran eu perthnasedd i bobl sy’n siarad Cymraeg o dan yr egwyddorion cyffredinol.

Cyrff cyhoeddus y DCMS

Nid yw’r Adran yn darparu bron dim gwasanaethau yn uniongyrchol i’r cyhoedd ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru. Darperir y rhan fwyaf o wasanaethau i’r cyhoedd drwy gyrff cyhoeddus y DCMS. Adeg cyhoeddi’r Cynllun hwn, mae gan y DCMS 42 o gyrff cyhoeddus, sy’n amrywio o Amgueddfeydd Cenedlaethol i gyrff cynghori bach, i gyllidwyr cenedlaethol a rheoleiddwyr mawr. Mae hyn yn cynnwys 15 o amgueddfeydd; y Llyfrgell Brydeinig; rheoleiddwyr fel y Comisiwn Hapchwarae; a chyrff ariannu cenedlaethol fel Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae’r Adran yn gyfrifol am Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn y DU ac, o’r herwydd, mae ganddi berthynas uniongyrchol â Sianel Pedwar Cymru (“S4C”), sy’n darlledu ledled Cymru yn y Gymraeg.

Cyrff cyhoeddus y DCMS sydd â’u Cynlluniau Iaith eu hunain yw: y Comisiwn Elusennau, y Comisiwn Hapchwarae, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac UK Sport.

Unig gyrff cyhoeddus y DCMS sy’n dod o dan safonau’r Gymraeg yw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y BBC ac S4C.

Er bod y cyrff cyhoeddus yn gweithredu o fewn canllawiau polisi bras a bennir gan y Gweinidogion, mater i Brif Weithredwr pob corff yw’r gweithredu o ddydd i ddydd, gan gynnwys gweithredu’r mesurau yn Neddf yr Iaith Gymraeg. Pan nad oes gan gyrff cyhoeddus eu Cynlluniau Iaith eu hunain neu pan nad ydynt yn dod o dan safonau’r Gymraeg, bydd y DCMS yn cefnogi ac yn annog y cyrff cyhoeddus perthnasol i fabwysiadu egwyddorion y Cynllun Iaith hwn. Pan fo’n gymwys, bydd y DCMS yn ychwanegu cymal ar gydymffurfio â’i Chynllun Iaith at gytundebau rheoli cyrff cyhoeddus, lle maent yn gweithredu yng Nghymru neu’n cynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru, wrth i’r cytundebau hynny gael eu diwygio. Bydd y DCMS yn annog cyrff cyhoeddus i baratoi eu Cynlluniau Iaith eu hunain os bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdanynt.

Cynllunio Gwasanaethau a’u Darparu

Bydd polisïau, mentrau a gwasanaethau’r DCMS yn gyson â’r Cynllun Iaith. Byddant yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg a, lle bynnag y bo’n bosibl, byddant yn helpu’r cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau o ddydd i ddydd.

Tynnir sylw holl uwch-reolwyr y DCMS at y Cynllun Iaith drwy ddarparu gwybodaeth ar fewnrwyd y DCMS yn ogystal â thrwy hyfforddiant. Bydd yr wybodaeth hon hefyd yn amlinellu’r egwyddorion sy’n sail i Ddeddf yr Iaith Gymraeg. Tîm Datganoli’r DCMS fydd y pwynt cyfeirio ar gyfer adroddiadau ynghylch cydymffurfio i Gomisiynydd y Gymraeg.

Wrth lunio a darparu polisïau a mentrau sy’n effeithio ar Gymru bydd y DCMS yn gwneud y canlynol:

  • sicrhau bod y canlyniadau ieithyddol wedi’u hasesu
  • sicrhau bod cynnwys polisïau a mentrau o’r fath yn gyson â’r Cynllun Iaith, ac nad ydynt yn tanseilio’r Cynllun Iaith na Chynlluniau Iaith sefydliadau eraill
  • sicrhau bod y mesurau a geir yn y Cynllun Iaith hwn yn cael eu cymhwyso hefyd at bolisïau a mentrau newydd pan gânt eu rhoi ar waith, yn ogystal â’r polisïau sy’n bodoli eisoes
  • asesu y bydd polisïau, codau ymarfer, canllawiau ayb sy’n bodoli eisoes yn cael eu hadolygu cyn gynted â phosibl, os canfyddir eu bod yn groes i ddarpariaeth Deddf yr Iaith Gymraeg a’r Cynllun
  • hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg lle bynnag y bo’n ymarferol
  • sicrhau y bydd dogfennau ymgynghori’r DCMS yn trafod y gydberthynas rhwng y Gymraeg a’r polisïau, y mentrau a’r gwasanaethau sy’n cael eu datblygu, lle bynnag y bo hynny’n bosibl
  • symud yr Adran yn agosach at gyflawni’r nod o gydraddoldeb llawn ar bob cyfle
  • cyfrannu at ddatblygu neu gyflawni polisïau a mentrau, gwasanaethau neu ddeddfwriaeth a arweinir gan sefydliadau eraill mewn dull sy’n gyson â’r Cynllun Iaith hwn
  • manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth newydd yn cefnogi defnyddio’r Gymraeg

Darparu Gwasanaethau

Fel y nodwyd o’r blaen, nid yw’r Adran yn darparu bron dim gwasanaethau’n uniongyrchol i’r cyhoedd, boed yng Nghymru neu weddill y DU. Darperir y rhan fwyaf o wasanaethau i’r cyhoedd drwy Gyrff Cyhoeddus (er enghraifft, amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol). Bydd gwasanaethau’r DCMS i’r cyhoedd yng Nghymru yn cael eu darparu yn unol â chynnwys y Cynllun hwn. Byddwn yn rhoi gwybod i’r cyhoedd pan fydd gwasanaethau ar gael yn Gymraeg.

Bydd gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn gyfartal o ran ansawdd a chânt eu darparu o fewn yr un amserlen. Caiff hyn ei wneud yn glir pryd bynnag y bydd y DCMS yn gwneud datganiadau ar ansawdd gwasanaethau a chyfle cyfartal.

Ein Swyddogaethau Rheoleiddo a Gwasanaethau a Ddarperir ar ein Rhan gan Drydydd Partïon

Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau a wnawn gyda thrydydd partïon yn gyson â’r rhannau perthnasol o’r Cynllun hwn, pan fo’r cytundebau neu’r trefniadau hynny’n ymwneud â darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Byddwn yn monitro ac yn sicrhau bod trydydd partïon yn darparu’r gwasanaethau hyn yn unol â’r ymrwymiadau a geir yn y Cynllun Iaith hwn.

Dyfarnu Grantiau a Benthyciadau

Pan fyddwn yn dyfarnu grantiau a benthyciadau ar gyfer gweithgareddau sydd i’w cynnal yng Nghymru, byddwn yn cynnwys amodau ynglŷn â defnyddio’r Gymraeg. Wrth wneud hyn, byddwn yn rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Gomisiynydd y Gymraeg yn hyn o beth.

Ymdrin â’r Cyhoedd Cymraeg

Gohebiaeth

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg. Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, yn yr iaith honno y byddwn yn ymateb. Bydd yr amserlen darged ar gyfer ymateb i ohebiaeth Gymraeg, a’r math o ateb a anfonir, yr un fath ag ar gyfer ymateb i ohebiaeth Saesneg.

Bydd y DCMS yn dechrau gohebu yn Gymraeg ag unigolyn, grŵp neu sefydliad y gwyddys eu bod yn gweithio yn Gymraeg yn bennaf neu ei bod yn well ganddynt gael llythyrau yn Gymraeg. Rydym wedi datblygu system i gofnodi dewis iaith, fel bod yr ohebiaeth ddilynol yn Gymraeg pan fydd y dewis hwnnw’n hysbys, oni bai bod yr unigolyn neu’r sefydliad dan sylw yn nodi fel arall.

Bydd dogfennau a amgaeir gyda llythyrau dwyieithog yn ddwyieithog, pan fyddant ar gael. Bydd dogfennau a amgaeir gyda llythyrau Cymraeg yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, pan fyddant ar gael. Bydd yr uchod yn gymwys ar gyfer gohebiaeth e-bost yn ogystal â gohebiaeth ar bapur. Bydd pob gohebiaeth Gymraeg a anfonir gennym ar ffurf copi caled yn cael ei llofnodi.

Os byddwn yn cyhoeddi cylchlythyrau neu lythyrau safonol i’r cyhoedd yng Nghymru byddwn yn gwneud hynny’n ddwyieithog.

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Pan fo ceisiadau’n cael eu gwneud o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, byddwn yn cyfieithu’r ymateb i’r Gymraeg ar yr amod bod nifer y geiriau sydd i’w cyfieithu yn llai na chant.

Llythyrau Penderfynu

Os bwriedir i lythyr penderfyniad gyfleu polisi i gynulleidfa lawer ehangach na’r rhai sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r ymchwiliad, neu unrhyw weithdrefn statudol arall, bydd y DCMS yn ystyried a ddylid ei drin, o dan y Cynllun Iaith hwn, fel cyhoeddiad.

Cyfathrebu dros y Ffôn

Oherwydd lleoliadau’r DCMS, ni fyddai’n ymarferol cynnal sgyrsiau ffôn yn Gymraeg. Trefnir bod llinellau cymorth dros y ffôn, neu gyfleusterau tebyg, i roi gwybodaeth, gwasanaethau neu gymorth i’r cyhoedd yn Gymraeg ar gael os bydd gan y mater apêl eang ac os yw’n berthnasol i’r cyhoedd yng Nghymru. Lle nad yw hyn yn wir, rhoddir gwybod i aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno cyfathrebu â’r DCMS yn Gymraeg eu bod yn gallu gwneud hynny drwy lythyr neu e-bost.

Cyfarfodydd Cyhoeddus

Nid yw’r DCMS yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus, ymchwiliadau na gwrandawiadau yn aml. Os caiff cyfarfodydd o’r fath eu cynnal o dan arweiniad y DCMS, a’u bod yn cael eu cynnal yng Nghymru, darperir gwasanaeth cyfieithu oni bai bod y DCMS wedi cael gwybod bod pob cyfranogwr yn debygol o ddefnyddio’r un iaith. Bydd gwahoddiadau a hysbysebion cyfarfodydd cyhoeddus yn ddwyieithog a naill ai’n nodi bod cyfleusterau cyfieithu ar gael neu’n gwahodd y cyhoedd i roi gwybod i’r DCMS ymlaen llaw ym mha iaith y dymunant siarad. Bydd y DCMS yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n dod i gyfarfodydd cyhoeddus pan fydd cyfleusterau cyfieithu ar gael ac yn annog cyfraniadau yn Gymraeg.

Arfer y DCMS fydd darparu papurau a gwybodaeth arall ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus yn Gymraeg a Saesneg. Oherwydd lleoliadau’r DCMS, fel arfer ni fyddai’n ymarferol cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb â’r cyhoedd yn Gymraeg, ond byddai’r DCMS yn ceisio darparu cyfieithiad pe baem yn asesu bod angen hynny, gan gymryd i ystyriaeth y fforwm, trefnwyr y digwyddiad, a’r rhai a fyddai’n bresennol.

Ymwneud â’r cyhoedd yng Nghymru mewn ffyrdd eraill

Pan fydd y DCMS yn cynnal arolygon cyhoeddus, yr arfer fydd sicrhau bod pob agwedd ar y cyfathrebu â’r cyhoedd yn ddwyieithog. Pryd bynnag y bo’n ymarferol, gofynnir i ymatebwyr a fyddai’n well ganddynt ymateb i’r arolwg yn Gymraeg neu Saesneg. Pan fydd y DCMS yn trefnu seminarau, cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau tebyg i’r cyhoedd, bydd y DCMS yn gwneud trefniadau yn lleol i’w darparu yn Gymraeg pan fydd yr Adran yn asesu bod angen hynny, gan gymryd i ystyriaeth y fforwm, trefnwyr y digwyddiad, a’r rhai a fydd yn bresennol.

Wyneb Cyhoeddus yr Adran

Ymgyrchoedd Cyhoeddusrwydd, Arddangosfeydd a Hysbysebion

Bydd deunydd cyhoeddusrwydd, gwybodaeth i’r cyhoedd, deunydd arddangos a deunydd hysbysebu y mae’r DCMS yn eu defnyddio yng Nghymru (er mwyn targedu’r cyhoedd) yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog, neu fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Os oes rhaid cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd y ddwy fersiwn yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd. Os cyhoeddir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd y naill a’r llall yn cynnwys neges yn nodi bod y deunydd ar gael yn yr iaith arall.

Bydd unrhyw hysbysebion a osodir mewn papurau newydd (neu ddeunydd tebyg) Saesneg, a ddosberthir yn bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru, yn ddwyieithog neu’n ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Bydd y ddwy fersiwn yn ymddangos ar yr un pryd, ac yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd. Mewn cyhoeddiadau Cymraeg, bydd hysbysebion yn Gymraeg yn unig.

Bydd hysbysebion ar y teledu, yn y sinema ac ar y radio sy’n cael eu cyfeirio at y cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg. Bydd ymgyrchoedd ar y teledu sy’n ymddangos ar S4C yn ystod oriau rhaglenni Cymraeg yn Gymraeg. Bydd ymgyrchoedd radio a ddarlledir yn ystod rhaglenni Cymraeg ar orsafoedd radio masnachol yn Gymraeg. Bydd y DCMS yn osgoi defnyddio is-deitlau Cymraeg, neu dybio hysbysebion yn Gymraeg (ac eithrio trosleisiadau).

Pan fyddwn yn sefydlu mecanweithiau (e.e. llinellau ffôn, cyfryngau cymdeithasol) i dderbyn gwybodaeth oddi wrth y cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn darparu gwasanaeth Cymraeg.

Cyhoeddiadau

Bydd y DCMS yn cyhoeddi deunyddiau sydd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog, yn amodol ar gerdyn sgorio* y cytunir arno gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Caiff deunyddiau eu cyhoeddi fel un fersiwn ddwyieithog, yn hytrach nag ar wahân yn Gymraeg a Saesneg, pryd bynnag y bo’n ymarferol ac yn gost-effeithiol gwneud hynny. Os bydd rhaid cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (er enghraifft, pan fyddai un ddogfen yn rhy hir neu’n rhy swmpus), bydd y ddwy fersiwn o’r un maint ac ansawdd. Bydd y ddwy fersiwn yn nodi’n glir fod y deunydd ar gael yn yr iaith arall hefyd. Os nad yw ar gael yn rhad ac am ddim, ni fydd pris dogfen ddwyieithog yn fwy na phris cyhoeddiad mewn un iaith – a bydd pris fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân yr un peth. Bydd yr uchod yn gymwys hefyd i ddeunydd sydd ar gael yn electronig ar wefan y DCMS ar GOV.UK neu mewn fformatau eraill.

*Defnyddir y cerdyn sgorio Iaith Gymraeg, fel y cytunwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, fel arweiniad i swyddogion yn y DCMS wrth gynhyrchu testun neu ddogfennau cyhoeddus. Nid yw’r cerdyn sgorio hwn yn berthnasol yn achos ymateb i ohebiaeth oddi wrth y cyhoedd – mae hynny’n cael ei gwmpasu mewn man arall yn y cynllun hwn.

Y Rhyngrwyd, Gwefannau a’r Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r DCMS a’i chyrff cyhoeddus yn gyfrifol am uwchlwytho testun a dogfennau i’w hadrannau penodol ar wefan GOV.UK, a ddynodir â logo/enw’r DCMS (neu logo/enw’r Corff Cyhoeddus perthnasol) a welir ar frig y tudalen. Bydd y DCMS yn uwchlwytho gwybodaeth Gymraeg i’r tudalennau hyn fel y bo’n briodol (er enghraifft pan fo’r cynnwys yn debygol o fod yn berthnasol i bobl Cymru), gan bwyso a mesur fesul achos a chan ddefnyddio’i cherdyn sgorio. Mae rhai targedau penodol ar gyfer cyfieithu i’r Gymraeg ar ei gwefan i’w gweld yn ei chynllun gweithredu. Pryd bynnag mae’r DCMS yn gosod cyhoeddiadau Saesneg ar ei gwefan, bydd y fersiynau Cymraeg yn cael eu gosod ar yr un pryd, os ydynt ar gael.

Wrth ddylunio gwefannau newydd, neu wrth ailddatblygu ei gwefannau presennol, bydd y DCMS yn ystyried canllawiau Comisiynydd y Gymraeg ynglŷn â datblygu gwefannau.

Mae’r DCMS yn gyfrifol hefyd am nifer o wefannau yn y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n cyhoeddi gwybodaeth ar y rhain yn Gymraeg pan fo hynny’n benodol berthnasol yng Nghymru (e.e. cyhoeddiad lle mae yna weithgaredd a/neu sy’n debygol o effeithio ar bobl yng Nghymru, neu bolisi sydd â diddordeb ar draws y DU sydd â diddordeb cryf i bobl yng Nghymru a/neu sy’n debygol o effeithio arnynt).

Ffurflenni a’r Deunydd Esbonio Perthynol

Arfer y DCMS fydd sicrhau bod pob ffurflen a deunydd esboniadol perthynol i’w defnyddio gan y cyhoedd yng Nghymru yn gwbl ddwyieithog, gyda’r fersiynau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd mewn un ddogfen. Bydd hyn yn cynnwys ffurflenni rhyngweithiol a gyhoeddir ar ei gwefannau.

Pan fo angen ffurflenni, rheolau neu weithdrefnau rhagnodedig i’w defnyddio gan y cyhoedd yng Nghymru, cynhyrchir y rhain yn Gymraeg neu’n ddwyieithog. Pan fydd y DCMS yn rhoi gwybodaeth ar fersiynau Cymraeg o ffurflenni a anfonir at y cyhoedd, bydd y DCMS yn gwneud hynny yn Gymraeg. Pan fydd y DCMS yn rhoi gwybodaeth ar ffurflenni dwyieithog a anfonir at y cyhoedd, gwnaiff y DCMS hynny’n ddwyieithog oni bai ei bod yn gwybod y byddai’n well gan bobl gael yr wybodaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unig. Pan fydd sefydliadau eraill yn dosbarthu ffurflenni ar ei rhan, bydd y DCMS yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny yn unol â’r uchod.

Hysbysiadau Swyddogol, Hysbysiadau Cyhoeddus a Hysbysiadau Recriwtio Staff

Bydd hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau recriwtio staff a osodir mewn papurau newydd (neu gyfryngau tebyg) Saesneg, a ddosberthir yn bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru, yn ddwyieithog neu’n ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Mewn cyhoeddiadau Cymraeg, bydd hysbysiadau yn Gymraeg. Bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd – p’un a gânt eu cynhyrchu fel un fersiwn ddwyieithog neu fel hysbysiadau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Yn y cyfryngau Saesneg, gall swyddi lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol gael eu hysbysebu yn Gymraeg, gyda disgrifiad byr yn Saesneg.

Gall hysbysiadau a hysbysebion recriwtio a osodir mewn cylchgronau (a chyhoeddiadau eraill) Saesneg, a ddosberthir ledled y DU, fod yn Saesneg, oni bai bod y swydd yn un lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Os felly, gall yr hysbysiad fod yn gwbl ddwyieithog, neu yn Gymraeg gydag esboniad byr yn Saesneg.

Bydd unrhyw hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus neu hysbysiadau recriwtio staff a osodir mewn mannau eraill yng Nghymru yn ddwyieithog.

Datganiadau i’r Wasg a Chysylltiadau â’r Cyfryngau

Bydd datganiadau i’r wasg a’r cyfryngau darlledu Cymraeg yng Nghymru yn cael eu hanfon yn Gymraeg, lle bydd terfynau amser yn caniatáu hynny. Pan fydd y DCMS yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg sy’n ymdrin â materion yng Nghymru, ei harfer fydd eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.

Rhoi’r Cynllun ar waith

Trefniadau mewnol

Mae’r Cynllun hwn wedi’i gyhoeddi gyda chefnogaeth lawn Ysgrifennydd Parhaol y DCMS.

Mae’r tîm Datganoli yn y gyfarwyddiaeth Strategaeth Gorfforaethol yn atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol am lwyddiant y Cynllun ac am fonitro sut mae’n cael ei weithredu. Bydd yr holl Gyfarwyddwyr a Dirprwy Gyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu timau’n gweithredu yn unol â’r Cynllun. Anfonir canllawiau at y staff (sef canllawiau a fydd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd) ynghylch defnyddio’r Gymraeg a goblygiadau’r Cynllun hwn.

Bydd y DCMS yn diweddaru ei chynllun gweithredu (gweler yr Atodiad) ac yn adrodd am gynnydd i’r Comisiynydd, gan nodi sut y bydd yr Adran yn sicrhau ei bod yn gweithredu yn unol â’r Cynllun Iaith hwn. Daw’r cynllun gweithredu i rym ar y dyddiad y daw’r Cynllun Iaith i rym, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Bydd y cynllun gweithredu’n cynnwys targedau, terfynau amser ac adroddiad ar y cynnydd ar bob targed. Nod cyffredinol y cynllun gweithredu fydd sicrhau ein bod yn cyflawni’r ymrwymiadau a nodir yn y Cynllun Iaith hwn cyn gynted â phosibl.

Staffio

Ar gyfer unrhyw swyddi sy’n cynnwys cysylltiad helaeth a rheolaidd â’r cyhoedd yng Nghymru, bydd y DCMS yn asesu a ddylai rhuglder yn y Gymraeg fod yn ddymunol neu’n hanfodol – a bydd hyn yn cael ei nodi yng nghymwyseddau’r swydd ac mewn hysbysebion ar gyfer y swydd.

Mae gofynion dwyieithog a dealltwriaeth o faterion Cymraeg yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar benodiadau i Fyrddau, Paneli neu Dribiwnlysoedd os ydynt yn debygol o wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru.

Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth

Bydd y DCMS yn cefnogi ac yn ariannu hyfforddiant i staff sydd, fel rhan o’u dyletswyddau, yn dod i gysylltiad helaeth a rheolaidd â’r cyhoedd yng Nghymru – ac sy’n dymuno dysgu Cymraeg, neu wella’u Cymraeg. Bydd y DCMS yn caniatáu i’r staff fynychu cyrsiau yn ystod eu horiau gwaith.

Pryd bynnag y bo’n ymarferol, bydd y DCMS yn darparu hyfforddiant galwedigaethol yn Gymraeg i ddatblygu gallu staff sydd, fel rhan o’u dyletswyddau, yn dod i gysylltiad helaeth a rheolaidd â’r cyhoedd yng Nghymru.

Yn ychwanegol, bydd y tîm Datganoli yn ceisio cynyddu amlygrwydd y Cynllun i’r holl staff drwy adnoddau mewnol yr Adran, gan gynnwys y fewnrwyd adrannol, E-gylchlythyrau a thrwy gynnwys y Gymraeg yn ei sesiynau dysgu ar ddatganoli. Bydd y tîm hefyd yn paratoi canllawiau i’r staff ar sut i ddefnyddio’r gwasanaethau cyfieithu, ac ar y trefniadau cyllideb perthynol.

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Darperir ar gyfer yr angen i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg, ac i weithredu yn unol â’r Cynllun Iaith hwn, wrth i’r Adran ddatblygu, dylunio a phrynu cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Wrth i’r DCMS ddatblygu neu gaffael systemau TGCh, bydd y DCMS yn ystyried gofynion y Gymraeg a chanllawiau gan Gomisiynydd y Gymraeg, fel y bo’n briodol.

Gweithio mewn Partneriaeth

Pan fo’r DCMS yn arweinydd strategol ac ariannol mewn partneriaeth ffurfiol, bydd y DCMS yn sicrhau bod unrhyw agweddau ar wasanaeth cyhoeddus yn cydymffurfio â’r Cynllun Iaith hwn. Pan fo’r DCMS yn ymuno â phartneriaeth ffurfiol y mae sefydliad arall yn ei harwain, bydd cyfraniad y DCMS i’r bartneriaeth yn cydymffurfio â’r Cynllun Iaith hwn. Wrth weithredu yn enw’r consortiwm, bydd y DCMS yn gweithredu yn unol â’r Cynllun Iaith hwn. Pan fo’r DCMS yn bartner mewn consortiwm, bydd y DCMS yn annog y consortiwm i gydymffurfio â’r Cynllun Iaith hwn. Pan fo’r DCMS yn gweithio gydag un o’i chyrff cyhoeddus (neu adran arall o’r llywodraeth) i lunio dogfennau ar y cyd, Cynllun Iaith y corff neu’r adran o’r llywodraeth sydd â’r ymrwymiad cryfaf fydd drechaf.

Mae’r uchod yn cyfeirio at bartneriaethau ffurfiol sy’n ymdrin â gwasanaethau sydd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru yn unig.

Monitro

Bydd y DCMS yn monitro ei chynnydd o ran cyflawni’r ymrwymiadau a wneir yn y Cynllun hwn. Bob blwyddyn, bydd y DCMS yn cyflwyno adroddiad ar ei chynnydd i’w bwrdd rheoli gweithredol a’i Gweinidogion, ac anfonir copi at Gomisiynydd y Gymraeg.

Adolygu’r Cynllun a’i Ddiwygio

Bydd y DCMS yn adolygu’r Cynllun Iaith hwn yn rheolaidd, gydag adolygiad ffurfiol ymhen pedair blynedd. Hefyd, efallai y bydd angen i’r DCMS adolygu’r Cynllun Iaith hwn, neu gynnig diwygiadau iddo, oherwydd newidiadau yn ei swyddogaethau, neu yn yr amgylchiadau y bydd y DCMS yn ymgymryd â’r swyddogaethau hynny ynddynt, neu am unrhyw reswm arall.

Ni wneir unrhyw newidiadau i’r Cynllun Iaith hwn heb gymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg.

Cwynion ac Awgrymiadau ar gyfer Gwella

Mae’r DCMS yn croesawu awgrymiadau gan y cyhoedd neu gan y staff ar sut y gellid gwella gweithrediad y Cynllun. Bydd y rhain yn cael eu cloriannu a bydd cynigydd yr awgrym yn cael gwybod am y canlyniad.

Dylai unrhyw gwynion ynglŷn â’r ffordd mae’r DCMS wedi gweithredu’r Cynllun Iaith hwn, neu awgrymiadau ar gyfer ei gwella, gael eu cyfeirio at y tîm Datganoli, yn y cyfeiriad a ganlyn:

Cydlynydd y Cynllun Iaith Gymraeg
Y Tîm Datganoli / Devolution Team
Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon / DCMS
100 Parliament Street
London
SW1A 2BQ

enquiries@dcms.gov.uk

Bydd y DCMS yn cydweithredu â’r Comisiwn er mwyn datrys cwynion, ac yn ystod unrhyw ymchwiliadau a gynhelir o dan Adran 17 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Atodiad: Cynllun Gweithredu

Mae’r cynllun gweithredu hwn yn amlinellu’r ymrwymiadau yr ydym yn eu gwneud ac sydd i’w rhoi ar waith erbyn dyddiad penodol.

Cyfeirnod Ymrwymiad Dyddiad Targed
A Bydd y DCMS yn cynnwys gwybodaeth am y Cynllun Iaith Gymraeg mewn sesiynau cynefino wyneb yn wyneb (a gyflwynir i aelodau newydd o staff). Ar waith ar adeg cyhoeddi’r Cynllun ac yn mynd yn ei flaen.
B Bydd y DCMS yn ychwanegu llinell at ei thudalen GOV.UK yn nodi ein bod yn croesawu gohebiaeth Gymraeg ac na fydd hyn yn arwain at oedi wrth ymateb. Ar waith ar adeg cyhoeddi’r Cynllun ac yn mynd yn ei flaen.
C Bob blwyddyn bydd y DCMS yn adolygu a yw’r system sy’n cofnodi dewis iaith yn cael ei defnyddio’n effeithiol. Ar waith ar yr adeg gyhoeddi, ac yna’n cael ei adolygu’n flynyddol.
D Bydd y DCMS yn cyfieithu adran ‘Amdanom ni’ ei thudalen ar GOV.UK i’r Gymraeg, gan ychwanegu togl Saesneg/Cymraeg at frig y dudalen. Bydd y togl hwn yn cael ei ychwanegu fel y bo’n briodol pan fyddwn yn cynyddu’r cynnwys Cymraeg ar dudalennau gwe DCMS. Ar waith ar adeg cyhoeddi’r Cynllun.
E Bydd y DCMS yn cyflwyno gweithdrefnau newydd i sicrhau bod amser yn cael ei neilltuo ym mhroses flaengynllunio ei thîm cyfathrebu er mwyn cyfieithu cynnwys i’r Gymraeg, lle bo hynny’n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys GOV.UK, y cyfryngau cymdeithasol, a deunydd cyhoeddusrwydd arall. Ar waith ar adeg cyhoeddi’r Cynllun – ac yn cael ei adolygu’n barhaus.
F Bydd y DCMS yn ychwanegu cysylltiad i’r Cynllun at ei thudalennau gwe ar GOV.UK. Wrth gyhoeddi’r Cynllun.