Ein llywodraethiant

Prif fwrdd penderfynu a’r pwyllgorau archwilio a chydnabyddiaeth ariannol yn Nhŷ’r Cwmnïau.


Y prif fwrdd

Mae’r prif fwrdd:

  • yn cynnwys y cadeirydd, y prif weithredwr, y cyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau anweithredol y bwrdd
  • yn ymdrin â phob agwedd ar ein sefydliad, gan gynnwys perfformiad, materion ariannol a chyfeiriad strategol
  • yn adrodd i’r Adran Busnes a Masnach, ein blaenoriaethau a’n cynnydd

Aelodau (mae pob bywgraffiad yn Saesneg)

Y pwyllgor archwilio & sicrwydd risg

Mae’r pwyllgor archwilio’n cynorthwyo’r prif fwrdd ac yn gweithredu fel corff cynghori anweithredol. Mae’r pwyllgor yn adrodd i’r Swyddog Cyfrifyddu (Prif Weithredwr a Chofrestrydd) ar faterion yn ymwneud ag archwilio a llywodraethu corfforaethol.

Mae un o’r aelodau’n gweithredu fel cadeirydd.

Mae’r pwyllgor yn gofyn i’r Swyddog Cyfrifyddu, y Cyfarwyddwr Cyllid, y Pennaeth Sicrwydd, Risg ac Ymgynghoriaeth a chynrychiolydd o’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ddod i gyfarfodydd trwy wahoddiad.

Caiff pobl eraill sydd â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad arbenigol eu gwahodd i ddod i gyfarfodydd pan fo’n briodol.

Aelodau (mae pob bywgraffiad yn Saesneg)

Mae mwy o wybodaeth ar gael hefyd yn ein (Saesneg yn unig).

Y pwyllgor cydnabyddiaeth ariannol

Mae’r pwyllgor yn cymeradwyo cylch gwaith tâl blynyddol Tŷ’r Cwmnïau, ac yn adrodd ar ei weithgareddau a’i ganfyddiadau i’r bwrdd.

Aelodau (mae pob bywgraffiad yn Saesneg)