Stori newyddion

Llofnodi contract adeiladu Wrecsam

Disgwylir y bydd gwaith o adeiladu carchar newydd yng Ngogledd Cymru yn cael hwb ar ôl i'r contract i'w adeiladu gael ei lofnodi'n swyddogol.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
North Wrexham prison plans in 3D

llofnododd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y contract gwerth £156.9m â Lend Lease wrth i’r prosiect gyrraedd y garreg filltir allweddol ddiweddaraf.

Mae llofnodi’r contract yn golygu y gall y gwaith adeiladu ddechrau o ddifrif ar ôl misoedd o waith paratoi, a oedd yn cynnwys lefelu’r safle, codi ffens ddiogel o amgylch y ffin a chloddio’r sylfeini ar gyfer y bloc tai cyntaf.

Dywedodd Andrew Selous, y Gweinidog Carchardai:

Rwy’n falch iawn fod y contract wedi cael ei lofnodi nawr, i nodi dechrau’r gwaith adeiladu llawn yn Wrecsam.

Bydd y carchar o fudd mawr i’r ystâd ac i Ogledd Cymru, a chredir y bydd y prosiect yn rhoi hwb o oddeutu £23m y flwyddyn i’r economi ranbarthol ac yn creu hyd at 1,000 o swyddi pan fydd y carchar ar waith.

Mae Lend Lease hefyd wedi ymrwymo i wario o leiaf £30m gyda busnesau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu. Maen nhw wedi gwario £1.2m yn barod, felly maen nhw o flaen eu targed ar hyn o bryd.

Amcangyfrif o gost gyffredinol y prosiect yw £212m - sylweddol is na’r amcangyfrif gwreiddiol, sef £250m - ac mae’n cynnwys cost dylunio ac adeiladu o £156.9m

Bydd y carchar yn darparu oddeutu 2,100 lle Categori C i droseddwyr gwrywaidd o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Cymru, gan gynnwys swyddogaeth remand fechan i wasanaethu llysoedd Gogledd Cymru. Bydd yn cynnwys llefydd ar gyfer addysg, 12 gweithdy mawr, a swyddogaethau ailsefydlu, yn helpu troseddwyr a fydd yn cael eu cadw dan glo yn nes at eu cartref i ailintegreiddio yn eu cymunedau ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae’r ffaith fod y contract ar gyfer y carchar wedi’i lofnodi bellach a bod modd i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo’n iawn, yn newyddion gwych i Wrecsam ac i Gymru.

Bydd y carchar yn rhoi hwb enfawr i economi Gogledd Cymru, drwy greu cannoedd o swyddi a chyfleoedd di-ri i fusnesau lleol yn Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos.

Dyma enghraifft amlwg o ymrwymiad llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Gymru seilwaith o’r radd flaenaf, ac mae’n rhan o’n cynllun hirdymor i adfer cydbwysedd yr economi. Mae angen economi gref ar wasanaethau cyhoeddus cryf.

Y mis diwethaf, cyhoeddwyd y byddai Gwasanaeth Carchardai EM yn rhedeg y carchar ac mae’r gwaith o recriwtio cyfarwyddwr y prosiect eisoes wedi dechrau. Bydd y cyfarwyddwr yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’r bwrdd iechyd lleol i gytuno ar y ddarpariaeth addysg ac iechyd, cyn ymgymryd â’r rôl fel Llywodraethwr, wrth i’r carchar ddechrau derbyn carcharorion yn gynnar yn 2017.

Cyhoeddwyd ar 26 March 2015