Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â phrosiectau adfywio cymunedol yn Nhorfaen

Ymwelodd Robert Buckland â phrosiectau cymunedol a gafodd gyllid gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â thlodi bwyd a chefnogi oedolion ag anawsterau dysgu

Welsh Secretary Robert Buckland at Able Radio

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Robert Buckland wedi gweld dau brosiect cymunedol yn Nhorfaen sy’n derbyn cyllid Llywodraeth y DU i gynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol ac i ymladd yn erbyn tlodi bwyd.

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yng Nghwmbrân ddydd Mercher (28 Medi) i weld sut y mae £618,403 a ddyrannwyd i fenter Food4Growth dan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio yn y gymuned.

Gwelodd lansiad y Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn yr hydref 2021 £46m yn cael ei roi i 160 o brosiectau ledled Cymru, gan gynnwys £3.8m wedi ei ddyrannu i saith o fentrau lleol gwahanol yn Nhorfaen, gan gynnwys Food4Growth.

Ar ddydd Mercher (28 Hydref), ymwelodd Robert Buckland a dau o brosiectau Food4Growth – gorsaf radio Able Radio sydd wedi agos siop fwyd gymunedol a’r cynllun dosbarthu bwyd Tasty Not Wasty.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Robert Buckland:

Roedd yn wych bod yng Nghwmbrân i weld sut mae’r cyllid a roddwyd ychydig o fisoedd yn ôl yn gwneud daioni yn ein cymunedau.

Rydym eisiau datgloi potensial pob un o’n hardaloedd lleol a thargedu cyllid arwyddocaol i’r mannau sydd ei angen a lle gall wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol ar gyfer Sgiliau ac Adfywio:

Rydym wrth ein bodd bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dod i ymweld â dau brosiect yn Nhorfaen.

Rydym yn falch iawn o’r ddau brosiect yma. Maent wedi gweithio’n galed iawn i lansio’r prosiectau yma ac yn ymroddedig i helpu’r gymuned.

Mae’r argyfwng costau byw yn cael ei deimlo gan bawb, felly mae’n wych gweld prosiectau fel hyn yn helpu pobl. Byddai’n dda cael mwy o brosiectau fel hyn yn Nhorfaen.

Meddai Shaun O’Dwyer, Rheolwr-gyfarwyddwr, Able Radio:

Mae’r grant Food4Growth wedi caniatáu i Able ddarparu cyfleoedd addas i’r sawl rydym yn eu cynorthwyo.

Yn bwysig, mae wedi caniatáu i Able ailddatblygu ein safle a gosod twnelau polythen, siop gynaliadwy sy’n gweithredu fel model talu fel y gallwch.

Mae cynorthwyo’r gymuned yn amcan pwysig i Able; mae’r cyfleoedd ymgysylltu a’r perthnasoedd sydd wedi eu meithrin gyda’r cyllid hwn wedi creu rhwydwaith gref yn Nhorfaen, gan ganiatáu i gymunedau gael cynnyrch ffres, cynaliadwy, wrth gydnabod galluoedd a chryfderau’r bobl gydag anableddau dysgu rydym yn eu cynorthwyo.

Meddai Sabrina Cresswell, Cyfarwyddwr, Tasty Not Wasty:

Gyda chymorth gan brosiect Food4Growth rydym nawr yn gallu cynyddu defnydd a hyfforddi gwirfoddolwyr lleol. Mae wedi ein galluogi i ddarparu bwyd am bris is a helpu lleihau gwastraff bwyd a dod â’r gymuned at ei gilydd.

Y llynedd, lansiodd Llywodraeth y DU dair cronfa newydd a oedd yn cynnwys y Gronfa Ffyniant Bro a welodd £121m yn cael ei ddyrannu i 10 prosiect mawr yng Nghymru a’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol a welodd £46m yn cael ei ddyrannu i 160 o raglenni newydd sy’n buddsoddi mewn pobl, yn hybu sgiliau ac yn cefnogi busnes lleol.  

Bydd y £200 miliwn o gyllid ledled y DU drwy’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn helpu ardaloedd lleol i baratoi ar gyfer lansio y Gronfa Ffyniant Gyffredin, cynllun a fydd yn gweld cyllid ledled y DU yn o leiaf cyfateb ag arian UE, yn dod i ryw £1.5 biliwn y flwyddyn. 

Mae Food4Growth yn brosiect cydweithredol rhwng Torfaen, Caerffili a Sir Fynwy gyda’r nod o ganfod dulliau newydd o ddatblygu cadwyni bwyd a chreu dull system gyfan.

Gyda chynnydd anferth yn y nifer o bobl mewn tlodi bwyd, mae’r prosiect hefyd wedi lansio Cynllun Bwyd Cymunedol, lle mae sefydliadau trydydd sector, grwpiau cymunedol neu’r gwasanaethau sector cyhoedd yn cael eu hannog i wneud cais am grant i helpu i greu atebion cynaliadwy i dlodi bwyd.

Ariennir prosiect Food4Growth gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

Cyhoeddwyd ar 30 September 2022