Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

Stephen Crabb AS: “Mae’n dda gweld diweithdra’n disgyn eto yng Nghymru.”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Roedd diweithdra yng Nghymru wedi disgyn 6,000 yn y 3 mis hyd at fis Gorffennaf 2014 wrth i lai o bobl hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, mae ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (16 Gorffennaf) yn ei ddangos.

Roedd Ystadegau chwarterol y Farchnad Lafur gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod diweithdra ymysg pobl ifanc wedi disgyn 1,400 ym mis Mehefin a 5,800 yn ystod y flwyddyn.

Roedd y ffigurau hefyd yn dangos bod anweithgarwch economaidd wedi codi 40,000 o’i gymharu â’r chwarter blaenorol.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Mae’n dda gweld diweithdra’n disgyn eto yng Nghymru. Mae’n galonogol iawn gweld y gostyngiad mewn diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Mae cael pobl ifanc ar yr ysgol swyddi yn amcan pwysig i ni.

Mae’r ffigurau’n dangos bod angen gwneud llawer mwy o waith, felly mae’n bwysig ein bod yn dilyn ein cynllun economaidd tymor hir sy’n dwyn ffrwyth ar gyfer Cymru nawr.

Fel Ysgrifennydd Gwladol newydd rwyf yn bendant fy mod am weld pob rhan o Gymru yn rhannu’r adferiad economaidd hwn.

Darllenwch y ffigurau cyflogaeth diweddaraf yma

Cyhoeddwyd ar 16 July 2014