Stori newyddion

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn trafod amaethyddiaeth ar ôl gadael yr UE a chefnogaeth Llywodraeth y DU i fusnesau yng Nghymru.

Bydd rheolau newydd ar gyfer busnesau yn berthnasol o 1 Ionawr 2021.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi cynnal ei ddigwyddiad diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau i helpu busnesau a phobl yng Nghymru i baratoi at ddiwedd Cyfnod Pontio’r UE.

Mae’r DU bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a bydd rheolau newydd a fydd yn effeithio ar fusnesau a theithio yn berthnasol o 31 Rhagfyr.

Ymunodd George Eustice, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn digwyddiad rhithiol ar ddydd Mawrth (1 Rhagfyr) gyda chynrychiolwyr o’r sector amaethyddiaeth a bwyd a diod Cymru i drafod yr effaith bydd y newidiadau yn ei gael ar y sector a sut y gallant baratoi ar eu cyfer.

Hefyd yr wythnos hon, cynhaliodd Mr Hart gweminar ar ddydd Iau (3 Rhagfyr) ochr yn ochr â Phrif Swyddog Gweithredol Siambrau Cymru, Heather Myers, ble siaradodd â mwy na 100 o gynrychiolwyr busnes am baratoadau ar gyfer diwedd y Cyfnod Pontio a’r gefnogaeth y gall Llywodraeth y DU ei chynnig.

Yn ôl Ysgrifennodd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol o’r heriau y mae busnesau yn eu hwynebu, yn enwedig yn ystod y pandemig, ond mae’n hanfodol eu bod yn paratoi at ddiwedd y Cyfnod Pontio sy’n digwydd mewn llai na 30 diwrnod.

Mae hyn yn gyfnod cyffrous ac yn un o gyfleoedd gwych, ond mae newidiadau sylweddol i’w gwneud a heriau i’w cyflawni. Mae Llywodraeth y DU yma i helpu ac i gefnogi busnesau yng Nghymru ac ar draws y DU, i lywio eu ffordd yn llwyddiannus drwy’r newid yma.

Mae cymorth Llywodraeth y DU yn cynnwys £705 miliwn mewn technoleg, seilwaith a swyddi newydd ar y ffin a bydd £80 miliwn mewn grantiau i sefydliadau recriwtio a hyfforddi asiantau cwsmeriaid newydd.

Bydd rheolaethau newydd ar y ffin ar fewnforion yn cael eu cyflwyno fesul cam i hwyluso’r broses bontio.

Mae cyngor bellach ar gael ar dudalen gov.uk/transition.

Cyhoeddwyd ar 4 December 2020