Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Aston Martin yn creu etifeddiaeth barhaol yng Nghymru

Y brand ceir moethus yn dechrau addasu cyfleuster yn Sain Tathan cyn cynhyrchu SUV yn 2019

Aston Martin DBX concept car

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyhoeddi y bydd buddsoddiad Aston Martin yn Sain Tathan yn creu etifeddiaeth barhaol i’r ardal, pan fydd yn mynychu seremoni arbennig i ddathlu dechrau’r gwaith o ailddatblygu safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn, sef cyfleuster gweithgynhyrchu diweddaraf y brand ceir. (6 Ebrill).

Mae’r gwaith ar y cyfleusterau i staff ar y safle eisoes wedi dechrau, a bydd yr ail gam yn dechrau o ddifrif pan fydd y cwmni heddiw (6 Ebrill) yn cael mynediad i dair sied awyrennau enfawr y Weinyddiaeth Amddiffyn, a fydd yn gartref i’r safle gweithgynhyrchu.

Ym mis Chwefror 2016, cyhoeddodd Aston Martin Lagonda y byddai’r DBX – cerbyd cyflym bob pwrpas – yn cael ei wneud yn Sain Tathan gan greu 750 o swyddi gyda 1,000 o swyddi eraill yn debygol ar draws y gadwyn gyflenwi ac mewn busnesau lleol yng Nghymru. Disgwylir i’r cerbyd cyntaf gael ei gynhyrchu yn 2020.

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru wrth law yn y digwyddiad mawreddog ym Mro Morgannwg sy’n nodi dechrau’r gwaith o drawsnewid y siediau awyrennau yn un o’r safleoedd gweithgynhyrchu mwyaf newydd a blaenllaw yng Nghymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Diolch i’r bartneriaeth agos rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a brand clodwiw Aston Martin, mae safle Sain Tathan yn cael ei adfywio fel canolfan gyflogaeth arwyddocaol, gan ddod â sgiliau gwerthfawr ac etifeddiaeth barhaol i’r rhanbarth cyfan.

Wrth i’r DU adael yr UE, rydym yn benderfynol bod ein gwlad yn parhau i fod yn lle gwych i fuddsoddi a chynnal busnes. Mae penderfyniad Aston Martin i fuddsoddi yng Nghymru yn dangos ein bod yn creu ac yn cefnogi’r amodau cywir ar gyfer buddsoddi yn y diwydiant. Bydd strategaeth ddiwydiannol gynhwysfawr Llywodraeth y DU yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, gan sicrhau bod gennym y seilwaith, y sgiliau a’r cymorth priodol ar waith ar gyfer ein diwydiannau blaenllaw yn ogystal â’r cymorth sydd ei angen er mwyn i sectorau newydd ffynnu.

Y sector modurol yw’r sector allforio gweithgynhyrchu mwyaf yn y DU ac mae wedi’i wasgaru’n genedlaethol. Sain Tathan fydd yr unig safle cynhyrchu ar gyfer cerbyd newydd bob pwrpas Aston Martin. Gyda mwy a mwy o alw am y mathau hyn o gerbydau mewn marchnadoedd fel China a’r Unol Daleithiau, disgwylir y bydd dros 90% o’r ceir a gaiff eu cynhyrchu yn Sain Tathan yn cael eu hallforio o’r Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd ar 6 April 2017