Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi ennillwyr Gwobr y Frenhines 2022 am Wasanaeth Gwirfoddol yng Nghymru

Ymysg y rhai sy’n cael eu gwobrwyo mae gwirfoddolwyr sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl, y celfyddydau a gwasanaeth cymunedol

Mae’r wobr uchaf a roddir i grwpiau gwirfoddol lleol, Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, yn cael ei dyfarnu i bum mudiad ar draws Cymru heddiw i gydnabod eu gwasanaeth cymunedol rhagorol.

Bydd elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn y wobr arobryn am y gwaith, o dan arweiniad gwirfoddolwyr, a wnaed ganddynt ar draws ystod eang o feysydd gan gynnwys iechyd meddwl, ieuenctid, y gymuned, y celfyddydau a threftadaeth.

Eleni, bydd 244 o enillwyr o bob cwr o’r wlad yn derbyn Gwobr y Frenhines, gan dynnu sylw at ehangder a dyfnder parhaus y gwasanaeth gwirfoddol a roddir bob dydd ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r enillwyr i gyd wedi gwneud gwaith hollbwysig i wella bywydau pobl eraill. Mae’r nifer fwyaf o wobrau eleni yn mynd i’r sector cymorth cymunedol sy’n cynnwys banciau bwyd, siopau pentref, digwyddiadau cymunedol a siediau dynion.

Dywedodd Nigel Huddleston, y Gweinidog dros Gymdeithas Sifil ac Ieuenctid:

Mae miloedd o wirfoddolwyr yng Nghymru yn rhoi o’u hamser bob blwyddyn ac mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn cydnabod eu caredigrwydd.

Mae haelioni anhunanol pobl yn cynrychioli gorau’r wlad ac mae’n iawn bod rhai o’r grwpiau a’r unigolion mwyaf dylanwadol yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith diflino.

“Mae’r gwobrau’n arbennig o nodedig yn y flwyddyn arbennig hon, sef Jiwbilî Platinwm y Frenhines.”

Dywedodd Syr Martyn Lewis, Cadeirydd QAVS:

Rwy’n llongyfarch yr holl grwpiau gwirfoddol eithriadol sydd wedi cael Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol eleni. Mae lefel yr ymrwymiad a’r arloesedd a ddangosir gan y gwirfoddolwyr hyn yn wirioneddol drawiadol. Mae arnom ddyled o ddiolchgarwch iddyn nhw, ac i’r llu o bobl eraill sy’n rhoi o’u hamser rhydd yn rheolaidd i wella bywydau pobl eraill yn eu cymuned.

Mae grymuso eraill hefyd yn faes sy’n cael ei gynrychioli’n dda yng Ngwobrau’r Frenhines eleni, gyda meithrin hyder, cyfleoedd hyfforddi, cefnogaeth addysgol a chwaraeon i gyd yn cael eu cydnabod yn fawr. Mae gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn hosbisau, gwasanaethau cymorth canser, salwch tymor hir, chwilio ac achub a chymorth cyntaf yn amlwg hefyd.

Gan gyd-fynd â dathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn cydnabod bod gwirfoddolwyr yn parhau i ddarparu swyddogaeth gymdeithasol hanfodol ac yn parhau i wella mynediad at wasanaethau ledled y wlad.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan Gymru draddodiad hir o wirfoddolwyr sy’n rhoi’n helaeth o’u hamser a’u hangerdd i wneud eu cymunedau’n well i bawb. Rwy’n hynod falch bod yr ymdrechion hyn wedi cael eu cydnabod gyda’r wobr arobryn hon.

Hoffwn longyfarch yr enillwyr a manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am bopeth a wnânt. Mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n bywydau ac rydym yn ffodus bod gennym gynifer o unigolion gwych sy’n gweithio’n ddiflino ar ran eraill ac sy’n cyfrannu cymaint at ein Gwlad”.

Mae’r rhai sy’n derbyn y wobr eleni yn cynnwys:

  • Cymru Creations - tîm o weithwyr proffesiynol sy’n rhoi o’u hamser i redeg academi ffilm sydd wedi ennill gwobrau, gan helpu pobl ifanc i greu eu ffilmiau eu hunain a datblygu sgiliau.
  • Band y Cory - band pres enwog sydd wedi hen ennill ei blwyf ac sy’n gwneud gwaith gwych i ddenu a datblygu’r genhedlaeth nesaf drwy ei academi ei hun.
  • Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau sy’n darparu gwasanaeth achub mynydd i bobl leol ac ymwelwyr, yn ogystal â sgyrsiau addysg i ysgolion, grwpiau ieuenctid a’r cyhoedd.
  • Friends R Us Aberdâr - grŵp sy’n darparu amgylchedd diogel a chynhwysol lle gall y rheini sy’n ymgodymu â phroblemau cymdeithasol ac iechyd meddwl ymlacio a chymdeithasu.
  • Neuadd Cwmllynfell - canolfan gymunedol sy’n darparu ystod eang o wasanaethau i’r gymuned gyfan mewn ardal o amddifadedd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 9 June 2022