Datganiad i'r wasg

Cymru i dderbyn £64.5m ychwanegol o ganlyniad i gyllid trafnidiaeth yn Lloegr

Mae Llywodraeth y DU bellach wedi darparu dros £2.2 biliwn o gyllid uniongyrchol i Gymru er mwyn rheoli effaith coronafeirws

Bydd Cymru yn derbyn £64.5 miliwn yn ychwanegol o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth y DU a ddyrennir i Trafnidiaeth Llundain yn gynharach yr wythnos hon.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ymateb pedair gwlad i COVID-19 ac hyd yma wedi cyhoeddi dros £7 biliwn o gyllid ychwanegol i’r gweinyddiaethau datganoledig i gefnogi pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyfanswm o dros £2.2 biliwn o arian i gefnogi’r ymdrech i fynd i’r afael â’r coronafeirws yng Nghymru.

Mae’r arian hwn yn ychwanegu at fesurau ledled y DU y gall pobl a busnesau yng Nghymru gael mynediad iddynt, megis y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws, y Cynllun Cymorth Incwm Hunan-Gyflogedig a Chynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes Coronafeirws.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae llawer o sefydliadau trafnidiaeth ledled y DU yn wynebu caledi o ganlyniad i effaith pandemig y coronafeirws, ac nid yw’r rheini yng Nghymru yn eithriad. Er ein bod yn annog pobl i weithio gartref lle bo hynny’n bosibl a theithio dim ond pan fydd hynny’n gwbl angenrheidiol, mae angen i rai teithio i’r gwaith ac mae angen i bobl allu teithio’n ddiogel tra’n parchu ymbellhau cymdeithasol ar ôl i gyfyngiadau gael eu codi’n raddol.

Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw penderfynu sut i ddyrannu’r cyllid ychwanegol hwn, mae angen diogelu gwasanaethau trafnidiaeth allweddol fel y gallant gefnogi adferiad economaidd Cymru yn dilyn COVID-19.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 19 May 2020