Cymru'n cael y cynnydd mwyaf erioed mewn cyllid i roi hwb i blismona yn y gymdogaeth
Bydd Cymru'n gweld hwb sylweddol i nifer y swyddogion heddlu yn y gymdogaeth ar ei strydoedd.
- Bydd heddluoedd yn cael mwy o gyllid nag erioed o’r blaen i gadw cymunedau’n ddiogel.
- Arian newydd wedi ei glustnodi ar gyfer Plismona yn y Gymdogaeth i symud swyddogion o’u desgiau i’r strydoedd.
- Mae’n adeiladu ar 14% o gynnydd yn nifer y swyddogion heddlu yn y gymdogaeth mewn chwe mis.
Bydd Cymru’n gweld hwb sylweddol i nifer y swyddogion heddlu yn y gymdogaeth ar ei strydoedd, gan fod y llywodraeth ar fin buddsoddi’r swm uchaf erioed o £18.4 biliwn i leihau troseddu a dal troseddwyr.
Bydd pob heddlu ledled y wlad yn cael cynnydd termau real mewn cyllid y flwyddyn nesaf, gan gynnwys:
- Hyd at £170.9 miliwn ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, 4.5% o gynnydd mewn arian parod
- Hyd at £205.2 miliwn ar gyfer Heddlu Gwent, 4.2% o gynnydd mewn arian parod
- Hyd at £235.8 miliwn ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, 4.3% o gynnydd mewn arian parod
- Hyd at £458.9 miliwn ar gyfer Heddlu De Cymru, 3.9% o gynnydd mewn arian parod
Bydd heddluoedd lleol ledled Cymru a Lloegr yn cael hyd at £18.4 biliwn, sy’n £796 miliwn o gynnydd o’i gymharu â’r llynedd a 2.3% o gynnydd mewn termau real.
Mae hyn yn cynnwys £50 miliwn ychwanegol i helpu i gyflawni Gwarant Plismona yn y Gymdogaeth y llywodraeth, a fydd yn rhoi 13,000 yn rhagor o staff plismona yn y gymdogaeth mewn rolau erbyn diwedd y senedd hon.
Ym mis Ebrill y llynedd, addawodd y llywodraeth i roi 3,000 o swyddogion mewn rolau yn y gymdogaeth o fewn 12 mis i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n difetha canol trefi ac ardaloedd preswyl. Mae bron i 2,400 o swyddogion ychwanegol yn y gymdogaeth wedi cael eu rhoi ar waith yn ystod y chwe mis hyd at ddiwedd mis Medi 2025, sy’n 14% o gynnydd ers diwedd mis Mawrth 2025.
O fis Ebrill ymlaen, mae’r llywodraeth yn cael gwared ar y Grant Cynnal Swyddogion sydd wedi dyddio ac yn ei ddisodli â Chronfa newydd wedi ei chlustnodi ar gyfer Plismona yn y Gymdogaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod heddluoedd yn cyflawni targedau plismona yn y gymdogaeth, gan eu rhyddhau o faich targedau mympwyol ar gyfer nifer y swyddogion.
Dywedodd Shabana Mahmood, yr Ysgrifennydd Cartref:
Ers dod i rym, mae’r llywodraeth hon wedi cynyddu cyllid yr heddlu bron i £2 biliwn.
Rydym yn adfer plismona yn y gymdogaeth, gyda bron i 2,400 yn fwy o swyddogion cymdogaeth yn ein cymunedau.
Ac rydyn ni yn awr yn diwygio plismona, felly mae heddluoedd lleol yn amddiffyn eu cymunedau, ac mae plismona cenedlaethol yn ein diogelu ni i gyd.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae pobl ym mhob rhan o Gymru yn haeddu teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau a bod ganddynt hyder yn yr heddlu i fynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n difetha bywydau.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn darparu’r lefelau uchaf erioed o gyllid i helpu heddluoedd i roi mwy fyth o swyddogion ar y strydoedd, gan roi hwb i nifer y swyddogion heddlu yn y gymdogaeth hyd yn oed ymhellach.
Ers 2023, mae penaethiaid yr heddlu wedi cael eu gorfodi i gadw cyfrif mympwyol o swyddogion bob blwyddyn drwy’r Grant Cynnal Swyddogion. Mae hyn wedi arwain at heddluoedd yn cyflogi swyddogion mewn lifrai ac yna, mewn rhai achosion, yn eu rhoi mewn rolau cefn swyddfa yn hytrach nag allan mewn cymunedau, yn olrhain unigolion dan amheuaeth ac yn mynd i ymdrin â galwadau gan ddioddefwyr.
O ganlyniad, mae nifer y swyddogion hyfforddedig mewn rolau cymorth wedi cynyddu dros 40% i dros 12,600 yn ystod y chwe blynedd diwethaf, a dim ond tua 20% o gynnydd a fu yng nghyfanswm nifer y swyddogion yn ystod yr un cyfnod.
Bydd y llywodraeth yn dod â’r Grant Cynnal Swyddogion i ben, gan nodi newid sylweddol i roi mwy o swyddogion yn ein cymunedau a’r stryd fawr i frwydro yn erbyn troseddu a dal troseddwyr.
Bydd y grant yn cael ei ddisodli gan Gronfa newydd wedi ei chlustnodi ar gyfer Plismona yn y Gymdogaeth, a fydd yn galluogi heddluoedd i greu gweithlu cymysg i ddiwallu eu hanghenion a’u blaenoriaethau lleol.
Ddydd Llun, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref y diwygiadau mwyaf i blismona ers sefydlu’r gwasanaeth heddlu ddwy ganrif yn ôl.
Bydd £119 miliwn o fuddsoddiad yn 2026-27 yn rhoi hwb i’r diwygiadau hyn, gan gynnwys creu canolfan genedlaethol newydd ar gyfer deallusrwydd artiffisial ym maes plismona, cyflwyno dulliau adnabod wynebau byw ledled y wlad, a hybu galluoedd data ar draws y system blismona.