Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cefnogi Taith Baton y Frenhines

Baton Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2014 yn cychwyn ar ei daith 7 niwrnod o amgylch Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wales flag

Wythnos nesaf, bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cefnogi ymdrechion Tîm Cymru a fydd yn cymryd rhan yng Ngemau’r Gymanwlad, wrth iddynt baratoi i ymuno yn y dathliadau ar hyd a lled y wlad i nodi Taith Baton y Frenhines drwy Gymru.

Bydd y baton yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd ar 24 Mai, gan gychwyn ar ei daith 7 niwrnod o amgylch Cymru – taith a fydd yn cynnwys ymweliadau â chyfuniad o weithgareddau cymunedol clos, digwyddiadau aml-gamp ar raddfa fawr ac adeiladau diwylliannol pwysig.

Bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn y llefydd canlynol:

  • Bydd y Farwnes Jenny Randerson yn cyfarch y rheini a fydd yn cario’r baton yn y Gemau Stryd yng Nglynebwy ar 24 Mai.
  • Bydd Stephen Crabb AS yn ymuno yn y dathliadau yn Nhyddewi, Sir Benfro, ar 28 Mai.
  • Bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn nodi diwedd taith y baton yn Llandegla, Sir Ddinbych, ar 30 Mai. Ar ôl hynny bydd y baton yn mynd i Loegr.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Gemau’r Gymanwlad yn rhoi cyfle i Gymru gystadlu’n rhyngwladol fel gwlad yn ei hawl ei hun. Gyda’i gilydd, mae gwledydd y Gymanwlad yn rhannu cysylltiadau cryf o ran gyfeillgarwch, diwylliant a threftadaeth. Rwy’n dymuno gweld y cysylltiad hwnnw’n parhau, a hoffwn weld y gwerthoedd hynny’n disgleirio wrth i Faton y Frenhines deithio drwy Ynysoedd Prydain.

Eleni, bydd Cymru yn hoelio’r sylw rhyngwladol pan fydd yn cynnal Uwchgynhadledd NATO, a bydd Taith Baton y Frenhines yn rhoi cyfle cynnar i ni dynnu sylw at ddiwylliant a threftadaeth gyfoethog Cymru, yn ogystal â’n hoffter o chwaraeon. Rwy’n edrych ymlaen at weld pawb yn dod at ei gilydd i ddathlu eu cymunedau, cefnogi ein hathletwyr, a dangos i’r Gymanwlad yr holl bethau gwych sydd gan Gymru, a’r DU fel teulu o genhedloedd, i’w cynnig.

Dywedodd y Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Bydd y dathliadau hyn yn rhoi ymroddiad ein hathletwyr, hanesion calonogol arwyr lleol ac ysbryd Gemau’r Gymanwlad wrth galon ein cymunedau lleol.

Mae gan bawb fydd yn cario’r baton ei stori unigryw ei hun, boed yn athletwr elît, yn rhywun sydd wedi goresgyn anawsterau neu’n rhywun sy’n gwneud gwahaniaeth i’w gymuned. Hoffwn longyfarch yr holl bobl deilwng ledled Cymru sydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn y daith, ac rwy’n edrych ymlaen at ymuno yn y dathliadau.

Dywedodd Stephen Crabb AS, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae Cymru yn genedl falch ym myd y campau, a gobeithio y bydd taith y baton yn ysbrydoli athletwyr Cymreig y dyfodol. Ar ôl ennill momentwm yn ystod taith 7 niwrnod y baton, bydd ein hathletwyr yn derbyn cefnogaeth lawn a dymuniadau gorau pobl Cymru wrth iddynt baratoi i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad 2014 a gynhelir yn Glasgow.

Bydd y baton yn cael ei gario drwy Gymru gan enwogion, athletwyr ddoe a heddiw, a phobl sydd wedi cael eu henwebu i gydnabod eu cyfraniadau at brosiectau ieuenctid, cymunedol a chwaraeon.

Cyhoeddwyd ar 22 May 2014