Stori newyddion

Gweinidog Swyddfa Cymru yn cefnogi lansiad y Strategaeth Cyflogaeth Anabledd ac Iechyd

“Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i gefnogi pobl sy’n wynebu rhwystrau i fyd gwaith”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, wedi croesawu lansiad strategaeth newydd sy’n ceisio chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag mynd i fyd gwaith.

Lansiwyd y papur gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) heddiw (17 Rhagfyr) ac mae’n nodi cynigion i gefnogi cyflogwyr i recriwtio, a datblygu pobl anabl sydd â chyflyrau iechyd a darparu cymorth cyflogaeth prif ffrwd ac arbenigol. Mae’n ceisio galluogi rhagor o bobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd i wireddu eu dyheadau o gael gyrfa.

Mae’r papur yn nodi cam nesaf y sgwrs barhaus y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei chael â phobl anabl, pobl sydd â chyflyrau iechyd, cyflogwyr, awdurdodau lleol, darparwyr cymorth cyflogaeth a rhanddeiliaid eraill, ynghylch y ffordd orau i adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi cael ei wneud.

Bydd Credyd Cynhwysol yn ategu’r cymorth ac yn ysgogi pobl i fynd i weithio, ac yn symleiddio’r cymhlethdodau yn y system lles bresennol.

Yr adolygiad ‘Gwasanaeth Iechyd a Gwaith’. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno yn 2014 ac, yn benodol, bydd yn cefnogi unigolion sydd â chyflyrau iechyd neu namau i aros yn y gwaith.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:

“Mae lansio’r Strategaeth Cyflogaeth Anabledd ac Iechyd heddiw yn bwysig iawn i bobl ledled y DU, ond yn bwysicach fyth yng Nghymru.

“Gall nifer o bobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd weithio, ac maent yn gweithio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, yn hanesyddol, mae nifer wedi cael trafferth cael gafael ar yr help sydd ei angen arnynt i wireddu eu dyheadau o ran gyrfa.

“Mae’r Llywodraeth hon eisoes wedi cymryd camau sylweddol i ailddiffinio sut y gall helpu unigolion sy’n gallu gweithio, ond sy’n wynebu rhwystrau rhag cael gwaith, ond mae angen gwneud mwy i chwalu’r rhwystrau, a’r camargraffiadau yn aml iawn, ynghylch beth y gallant ei wneud.

“Yng Nghymru, mae’r gyfran o bobl anabl sydd mewn gwaith wedi cynyddu. Bydd y strategaeth a lansiwyd heddiw yn cael effaith bwysig yng Nghymru, ble mae’r nifer fwyaf o bobl anabl ar gyfartaledd.

“Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar sgiliau, iechyd a phobl ifanc – fel y nodwyd yn Natganiad Hydref y Canghellor yn gynharach y mis hwn – i sicrhau bod llwyddiant y strategaeth hon yn mynd y tu hwnt i Gymru, gan alluogi rhagor o bobl sy’n gallu gweithio, i wneud hynny.”

Nodyn i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sahar Rehman ar 020 72701362 /sahar.rehman@walesoffice.gsi.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisoes wedi’i wneud, ac am y strategaeth hon ewch i dolen

Cyhoeddwyd ar 17 December 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 December 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.