Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn nodi cyflwyno Bil Caethwasiaeth Modern

Bil blaengar i’w gyhoeddi heddiw gan yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Baroness Randerson visits Gwent Police

Heddiw, croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru Farwnes Randerson ddeddfwriaeth newydd gadarn gan lywodraeth y DU i roi terfyn ar gaethwasiaeth modern fel rhan o’i hymrwymiad i gefnogi dioddefwyr masnachu pobl a chaethwasanaeth domestig.

Bydd y Bil – y cyntaf o’i fath yn Ewrop – yn cryfhau’r pwerau i atal caethwasiaeth modern a masnachu pobl, gan wella’r gefnogaeth a’r a’r amddiffyniad i ddioddefwyr.

Yn ddiweddar, bu’r Farwnes Randerson yn ymweld â Heddlu Gwent i weld drosti’i hun y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yn y DU.

Derbyniodd y wybodaeth ddiweddaraf am waith Operation Imperial – uned a sefydlwyd i ymchwilio i droseddau honedig o gaethwasiaeth a chaethwasanaeth, a’r ymchwiliad mwyaf o’i fath yn y DU. Mae’r ymchwiliad wedi arwain at achub nifer o oedolion agored i niwed a chafwyd arestiadau.

Dywedodd Farwnes Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae caethwasiaeth modern a masnachu pobl yn droseddau ffiaidd. Maent yn droseddau sy’n anweledig yn aml ac yn digwydd ar ffyrdd a strydoedd tawel ledled byd, ac fel y gwelsom yn ddiweddar, ar ein trothwy ni ein hunain yma yng Nghymru.

Mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn galw am ymdrech gydlynol a diflino ar draws y llywodraeth a gorfodaeth y gyfraith, yn ogystal ag ymwybyddiaeth gynyddol o fewn ein cymunedau.

Mae cyhoeddi’r Bil hwn yn dangos yn glir ymrwymiad cadarn y llywodraeth o ran cefnogi dioddefwyr a rhoi terfyn ar gaethwasiaeth modern.

Bydd yn atgyfnerthu deddfwriaeth bresennol ac yn ei gwneud yn fwy gwydn, gan olygu y bydd y DU yn amgylchedd gelyniaethus i gaethfeistri modern ac yn sicrhau fod troseddwyr yn derbyn cosbau llym a phriodol am eu troseddau ffiaidd.

I gael mwy o wybodaeth am y Bil Caethwasiaeth Modern cliciwch yma

Gwybodaeth

  • I weld hysbysiad i’r wasg gan y Swyddfa Gartref cliciwch yma

  • Caiff y Bil ei gyhoeddi ar-lein yma ac i gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen y Bil yma

  • Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys masnachu pobl, caethwasiaeth, llafur gorfodol a chaethwasanaeth domestig. Mae ffigurau’r Asiantaeth Troseddau Genedlaethol ar gyfer 2013 yn dangos bod y Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol (NRM) wedi derbyn 1,746 o gyfeiriadau ynghylch dioddefwyr masnachu posibl. Y gwledydd a oedd yn gyfrifol am y nifer mwyaf o ddioddefwyr posibl a gyfeiriwyd at yr NRM am gefnogaeth ac amddiffyniad oedd Albania, Nigeria, Fietnam a Romania.

  • Craffwyd yn helaeth ar ddull gweithredu’r Llywodraeth o ran mynd i’r afael â chaethwasiaeth modern, a darpariaethau’r Bil. Ar gais yr Ysgrifennydd Cartref, cadeiriodd Frank Field AS sesiynau tystiolaeth ar gaethwasiaeth modern yn Hydref 2013. Cyhoeddwyd Bil drafft i alluogi craffu cyn deddfu. Galwodd cydbwyllgor y Bil drafft am dystiolaeth, clywodd dri ar ddeg o ddyddiau o sesiynau tystiolaeth lafar, ac adroddodd ar 8 Ebrill 2014.

  • I gyd-fynd â’r Bil, mae’r Llywodraeth yn cymryd camau anneddfwriaethol i fynd i’r afael â chaethwasiaeth modern. Mae hyn yn cynnwys:

    • treialu eiriolwyr plant i roi cefnogaeth wedi’i theilwra’n fwy penodol i blant sy’n ddioddefwyr masnachu
    • sefydlu timau diogelu a gwrth-fasnachu arbenigol ac amlasiantaeth ar y ffin
    • adolygu’r gefnogaeth y mae dioddefwyr yn ei derbyn – drwy’r Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol a’r contract gofalu am ddioddefwyr
    • gwneud caethwasiaeth fodern yn flaenoriaeth ar gyfer yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol (NCA). Bydd yr NCA yn defnyddio’i swyddogaethau o ran cudd-wybodaeth, tasgau a chydlynu i adeiladu darlun mwy cynhwysfawr o’r bygythiad.
Cyhoeddwyd ar 10 June 2014