Stori newyddion

Lansio safonau newydd ar gyfer asiantiaid gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio set newydd o safonau sy’n berthnasol i bob asiant.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi cyhoeddi set newydd o safonau ar gyfer asiantiaid. Mae’r safonau hyn yn annog arferion da gan asiantiaid wrth iddynt gynrychioli cwsmeriaid gydag ardrethi busnes a Threth Gyngor.

Mae’r safonau yn nodi sut mae’n rhaid i asiantiaid weithredu o ran:

  • eu hymddygiad
  • eu harfer proffesiynol

Maent hefyd yn nodi lefel gwasanaeth y dylai asiantiaid darparu i’w cwsmeriaid, megis darparu cyfathrebu clir ac ymateb mewn da bryd.

Dylai pob asiant gynnal safonau uchel sy’n hyrwyddo cydymffurfiad.

Yn ôl Alan Colston, Prif Brisiwr Asiantaeth y Swyddfa Brisio: “Mae asiantiaid yn rhan allweddol o’r system drethu eiddo. Mae’r mwyafrif helaeth yn ddibynadwy ac yn darparu gwasanaeth da.

“Mae ein safonau newydd yn gwneud ein disgwyliadau o bob asiant yn glir, ac yn ein cefnogi i barhau i weithredu yn erbyn y lleiafrif sy’n arddangos ymddygiad neu arferion gwael.”

Fe wnaethom ymgynghori ag asiantiaid a chyrff proffesiynol wrth ysgrifennu’r safonau newydd.

Ein safonau newydd ar gyfer asiantiaid:

  • nid ydynt yn mynd y tu hwnt i godau ymddygiad y cyrff proffesiynol perthnasol
  • maent yn gosod disgwyliadau clir o’r asiantiaid hynny nad ydynt yn aelodau o gorff proffesiynol

Darllenwch y rhestr lawn o safonau asiantiaid VOA.

Nid oes angen i chi benodi asiant i reoli eich ardrethi busnes. Gallwch wirio gwerth ardrethol eich eiddo a rhoi gwybod am unrhyw newidiadau eich hun. Os ydych am benodi asiant, dylech ddilyn arweiniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar ddewis asiant.

Gorfodi’r safonau

Mae’r safonau newydd yn ein galluogi i weithredu yn erbyn yr asiantiaid hynny sy’n gweithredu’n anonest.

Rydym yn canolbwyntio ar adnabod y lleiafrif bach o asiantiaid sy’n cymryd rhan mewn ymddygiad ac arferion sy’n wael neu sydd ddim yn cydymffurfio.

Byddwn yn ceisio gweithio gyda’r asiant i ddatrys unrhyw anawsterau neu faterion yn gyntaf.

Rôl cyrff proffesiynol

Nid yw safonau Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhoi baich ychwanegol ar yr asiantiaid hynny sy’n aelodau o gorff proffesiynol.

Rydym yn cefnogi’r safonau proffesiynol a gyhoeddwyd ar y cyd gan dri chorff proffesiynol:

  • Cymdeithas y Syrfewyr Ardrethu
  • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
  • Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw

Dywedodd Gary L Watson, Prif Weithredwr y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (IRRV): “Mae’r Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw yn falch o fod wedi gweithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio a chyrff proffesiynol eraill i sicrhau bod safonau Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adlewyrchu’r arfer gorau ac yn amddiffyn talwyr ardrethi a gweithwyr proffesiynol. Ry’n ni am i’r sector gynnig safonau uchel o wasanaeth sy’n gwneud i bobl ymddiried ynddo, ac sy’n hybu uniondeb cymeriad, cymhwysedd proffesiynol a pharch a byddwn yn parhau i weithio gyda’r Asiantaeth ar hyn.”

Dywedodd Simon Griffin, Llywydd Cymdeithas y Syrfewyr Ardrethu (RSA): “Mae’n bleser i gefnogi’r safonau ar gyfer asiantiaid sydd newydd eu cyhoeddi gan yr Asiantaeth. Mae ein haelodau eisoes yn eu mabwysiadu ac yn cadw atyn nhw. Gobeithiwn y bydd hyn yn amddiffyn talwyr ardrethi ymhellach rhag asiantiaid twyllodrus sydd ddim yn aelodau o gyrff proffesiynol.”

Dywedodd Charles Golding, Uwch Arbenigwr Gwerthuso a Buddsoddi Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS): “Mae Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn croesawu mentrau sy’n ceisio gwella proffesiynoldeb gwasanaethau i dalwyr ardrethi ac sy’n ategu Cod Ymarfer yr Ymgynghoriaeth Ardrethu ar y cyd. Ry’n ni’n argymell o hyd bod pobl yn ceisio cyngor ar ardrethi busnes gan aelodau o gorff proffesiynol a bod talwyr ardrethi yn cadarnhau enwau da asiantiaid penodedig.”

Yr hyn i’w wneud os ydych yn cael profiad gwael gydag asiant

Os nad oedd yr asiant yn aelod o gorff proffesiynol, gallwch gysylltu â’r tîm safonau masnach yn eich cyngor lleol neu eich Cyngor ar Bopeth lleol.

Os oedd yr asiant yn aelod o gorff proffesiynol – megis Cymdeithas y Syrfewyr Ardrethu, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig neu’r Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw – dylech gysylltu â’r corff hwnnw i wneud cwyn.

Os ydych o’r farn bod asiant wedi rhoi gwybodaeth ffug i ni’n fwriadol, yn ddiofal neu’n fyrbwyll gallwch roi gwybod i ni.

Beth y gall asiantiaid ei ddisgwyl o’r VOA

Mae Siarter y cwsmer yn gosod yr ymddygiad a’r gwerthoedd y gall asiantiaid a chwsmeriaid eu disgwyl wrth ryngweithio a’r VOA.

Cyhoeddwyd ar 30 January 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 February 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation