Corporate report

Siarter Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Cymraeg)

Updated 22 April 2021

Gweithio ar y cyd i lunio’ch profiad o ran gwasanaeth i gwsmeriaid

Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw’r arbenigwr ac ymgynghorwr prisio eiddo ar gyfer y sector cyhoeddus. Rydym yn rhoi’r prisiadau a’r cyngor sydd eu hangen i gefnogi trethi a budd-daliadau lleol a chenedlaethol, ac yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus eraill. Mae ein gwaith wrth wraidd cyllido a gweithredu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae’r ymrwymiadau hyn yn egluro sut y byddwn yn gweithio gyda chi i roi profiad o wasanaeth proffesiynol ac arbenigol i gwsmeriaid.

Siarter y cwsmer

Dibynadwyedd

Rydym yn gyfrifol am roi prisiadau eiddo dibynadwy. Mae hyn yn helpu cynghorau lleol i gyfrifo’n gywir swm y dreth rydych yn ei thalu, neu i ddefnyddio swm cywir y rhyddhad neu’r budd-dal, ac mae’n cefnogi CThEM a chyrff cyhoeddus eraill wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau.

Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth gennych i gadw ein cofnodion yn gyfredol. Rydym yn dibynnu arnoch i sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym am eich eiddo a’ch manylion rhent yn gywir. Byddwn yn eich helpu i roi’r wybodaeth gywir, a gallwn gymryd camau yn erbyn y rhai nad ydynt yn gwneud hyn yn fwriadol.

Ymatebolrwydd

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn ateb eich cwestiynau’n llawn, a hynny cyn gynted ag y gallwn, neu byddwn yn eich cyfeirio at y man priodol er mwyn dod o hyd i ateb.

Byddwn yn eich helpu i ddiweddaru gwybodaeth sydd gennym am eich eiddo. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am bob penderfyniad, ac yn egluro ein rhesymau a’r hyn sy’n digwydd nesaf.

Gallwch ein helpu drwy ymateb yn brydlon i unrhyw geisiadau am wybodaeth.

Gweithio gyda chi

Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg, ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau’n hygyrch i’n holl gwsmeriaid.

Gallwch benodi rhywun i weithio gyda ni ar eich rhan, fel asiant neu berthynas. Byddwn ond yn delio ag ef os ydych wedi ei awdurdodi i’ch cynrychioli. Helpwch ni drwy sicrhau bod yr wybodaeth y mae’n ei rhoi i ni yn gywir.

Eich hawliau

Byddwn yn egluro ein penderfyniadau i chi yn glir. Byddwn yn eich helpu i ddeall eich hawliau a’r opsiynau sydd ar gael i chi.

Parch

Byddwn yn eich trin yn deg, gyda chwrteisi a pharch. Gofynnwn i chi drin ein cyflogeion yn yr un modd. Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymddygiad annerbyniol, a byddwn yn cymryd camau yn erbyn bygythiadau, aflonyddu a bwlio.

Diogelu data

Byddwn yn diogelu’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi neu’ch eiddo, ac yn ei thrin yn breifat ac yn gyfrinachol. Dim ond pan fydd angen y byddwn yn rhannu’r wybodaeth honno, a byddwn yn gwneud hynny’n deg ac yn unol â’r gyfraith.

Eich adborth

Mae’r ymrwymiadau hyn yn amlinellu’r gwasanaeth i gwsmeriaid yr ydym am i chi ei brofi. Os oes gennych sylwadau neu awgrymiadau, byddwn yn gwrando ar eich adborth ac yn dysgu ohonynt. Os ydych am wneud cwyn, byddwn yn delio â hi’n deg ac mor gyflym ag y gallwn.