Datganiad i'r wasg

Nifer y bobl sy’n ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng 3,000

Y Farwnes Randerson: “Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn arwydd clir arall fod cynllun economaidd tymor hir llywodraeth y DU yn gweithio.”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r ffigurau swyddogol, a gyhoeddwyd heddiw (13 Awst), yn dangos bod diweithdra wedi disgyn 3,000 yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Mehefin.

Mae hyn yn golygu bod cyfanswm y bobl sy’n ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng 25,000 dros y flwyddyn ddiwethaf - arwydd clir fod diweithdra ar i lawr yng Nghymru.

Mae Ystadegau chwarterol y Farchnad Lafur gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith wedi disgyn 1,400 – gostyngiad am yr 17eg mis yn olynol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau wedi ymddangos ychydig wythnosau cyn y cynhelir Uwch Gynhadledd NATO yng Nghasnewydd pan fydd y nifer fwyaf erioed o arweinwyr y byd yn ymgynnull yn y DU, gan helpu i atgyfnerthu’r cyfleoedd economaidd a fydd ar gael i Gymru, sy’n cynnwys cyfleoedd ar gyfer y diwydiant twristiaid.

Mae’r data newydd a gyhoeddwyd gan Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yr wythnos hon yn dangos y canlynol:

  • Gwelwyd ymchwydd o 25% yn nifer yr ymwelwyr undydd a ddaeth i Gymru yn ystod 5 mis cyntaf 2014 o gymharu â’r un amser y llynedd.
  • Gwelwyd cynnydd o 3.2% yn swmp y tripiau i Gymru o gymharu â’r un cyfnod yn 2013.
  • O’r 19 miliwn o dripiau a gymerwyd ym Mhrydain Fawr rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2014, roedd 7.8% o’r rhain i Gymru – cynnydd ar y gyfran a gofnodwyd yn 2013, sef 6.8%.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson:

Mae’r ffigurau diweddaraf hyn ynglŷn â swyddi yn arwydd clir arall bod cynllun economaidd tymor hir llywodraeth y DU yn gweithio, drwy leihau dibyniaeth tymor hir ar fudd-daliadau lles a chreu’r amgylchiadau iawn ar gyfer twf a ffyniant.

Bydd Uwch Gynhadledd NATO y mis nesaf yn cynnig rhagor o gyfleoedd digyffelyb i’r economi a’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru wrth i’r byd hoelio’i sylw ar Gymru a’r cwbl sydd ganddi i gynnig.

Rydym yn gwybod bod mwy o waith i’w wneud ac ni ddylem fyth orffwys ar ein rhwyfau, ond drwy lynu wrth ein cynllun economaidd, gallwn sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i’r busnesau a’r teuluoedd sy’n gweithio mor galed ledled Cymru.

Darllenwch yr ystadegau diweddaraf am swyddi yma

Cyhoeddwyd ar 13 August 2014