Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU i ddarparu hyd at £23m o arian ychwanegol i fynd i'r afael â coronafeirws yng Nghymru

Simon Hart: Arian ychwanegol i Gymru yn "amlygu ein penderfyniad i symud ymlaen gyda'n gilydd" yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo hyd at £23m o arian ychwanegol i gefnogi Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig y coronafeirws.

O ganlyniad i ymrwymiadau cyllido a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU i’r Gwasanaeth Profi ac Olrhain a thai ar gyfer pobl ddigartref yn Lloegr, bydd Llywodraeth Cymru yn cael hyd at £23 miliwn o arian ychwanegol.

Mae hyn yn cymryd y cyfanswm a roddwyd gan Lywodraeth y DU i gefnogi’r ymdrech yng Nghymru i dros £2.2 biliwn gan helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ar flaenoriaethau brys ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth iddi weithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r pandemig.

Mae’r hwb ariannol yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu degau o filoedd o brofion gwrthgyrff y dydd ledled y DU. Mae Llywodraeth y DU yn trefnu cyflenwadau o brofion ar ran holl genhedloedd y DU, gyda Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio ei dyraniadau prawf.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wneud beth bynnag y mae’n ei gymryd i drechu coronafeirws.

Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau eithriadol sy’n ei hwynebu ar hyn o bryd, gan ddarparu £23 miliwn o gyllid ychwanegol.

Ynghyd â chyflwyno profion gwrthgyrff i weithwyr rheng flaen ledled y DU yn ddiweddar, mae’r arian ychwanegol ar gyfer Cymru yn amlygu ein penderfyniad i symud ymlaen gyda’n gilydd yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.

Yn ogystal â darparu mwy na £2.2 biliwn o arian ychwanegol ar gyfer y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu ystod o fesurau DU-gyfan sydd ar gael i gefnogi pobl a busnesau yng Nghymru. Buddsoddwyd £330 biliwn mewn cymorth gan gynnwys benthyciadau a gefnogir gan Lywodraeth y DU, y Cynllun Cadw Swyddi a gwyliau taliadau morgais. Mae Lluoedd Arfog y DU hefyd yn darparu sgiliau ac arbenigedd ychwanegol i Lywodraeth Cymru a’r GIG.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 26 May 2020