Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn cefnogi incwm 418,000 o bobl ledled Cymru

Ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos effaith pecyn digyffelyb Llywodraeth y DU o gefnogaeth yng Nghymru yn sgil y coronafeirws

  • Mae ystadegau newydd ar gyfer cynlluniau cymorth Cadw Swyddi a Hunangyflogaeth Llywodraeth y DU yn dangos lefel y gefnogaeth yng Nghymru;
  • 102,000 o bobl hunangyflogedig yng Nghymru yn cael mynediad at y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth ac yn derbyn £273 miliwn mewn cefnogaeth;
  • Mae dros 316,000 o swyddi yng Nghymru wedi mynd ar ffyrlo i sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd i’r gwaith ar ôl y pandemig;

Mae pecyn digyffelyb Llywodraeth y DU o gefnogaeth yn sgil coronafeirws wedi gwarchod incwm 418,000 o bobl yng Nghymru yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau).

Cyhoeddwyd Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth gan y Canghellor ar ddechrau’r pandemig coronafeirws ym mis Mawrth fel rhan o becyn o fesurau i gefnogi swyddi, busnesau ac unigolion sydd wedi eu heffeithio yn sgil y coronafeirws.

Mae ffigurau heddiw yn dangos bod 316,500 o swyddi yng Nghymru wedi’u rhoi ar ffyrlo hyd at 31ain Mai 2020, ar draws ystod eang o sectorau gan gynnwys adwerthu, amaeth ac adeiladu.

Mae Caerdydd wedi gweld 36,000 o bobl ar ffyrlo, gyda 23,000 yn cael cymorth drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn Ninas Abertawe.

Dywedodd Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:

Mae Llywodraeth y DU yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu swyddi a busnesau yng Nghymru a ledled y DU yn ystod yr argyfwng.

Mae ein cynlluniau cymorth Cadw Swyddi a Hunangyflogaeth unigryw wedi cefnogi bywoliaeth miliynau a bydd yn helpu i sicrhau bod ein hadferiad yn gwella mor gyflym â phosibl.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai’n gwneud beth bynnag a gymerai i gefnogi pobl a busnesau Cymru drwy’r pandemig ac rydym wedi cynhyrchu pecyn digyffelyb o fesurau i wireddu’r addewid hwnnw.

Hyd yn hyn, mae mwy na 316,000 o swyddi yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gan y Cynllun Cadw Swyddi tra bod £273m wedi’i ddarparu i gynorthwyo 102,000 o bobl hunangyflogedig. Mae pobl a busnesau yng Nghymru hefyd wedi elwa o gynlluniau’r DU cyfan megis gohirio TAW, benthyciadau cwmni a chredyd cynhwysol, tra bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn £2.2 biliwn ychwanegol mewn cyllid uniongyrchol ar gyfer y coronafeirws.

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd i gyflogwyr a gweithwyr er mwyn sicrhau bod economi Cymru yn barod i ddychwelyd o’r pandemig.

Yn genedlaethol, mae cyflogwyr yn y sectorau cyfanwerthu a manwerthu wedi rhoi y nifer uchaf o gyflogwyr ar ffyrlo, yn cwmpasu 1.6 miliwn o swyddi, ac yna cyflogwyr gwasanaethau llety a bwyd gyda 1.4 miliwn o swyddi.

Bydd y Cynllun Cadw Swyddi yn parhau i gefnogi swyddi tan ddiwedd mis Hydref, gyda’r ffyrlo rhan-amser hyblyg yn dechrau ym mis Gorffennaf i gefnogi busnesau wrth i’r economi gael ei hailagor yn ofalus.

Mae’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth hefyd wedi cael ei ymestyn gyda’r rhai sy’n gymwys yn gallu hawlio ail grant a’r olaf ym mis Awst o hyd at £6570.

Mae’r ddau gynllun yn rhan o becyn cymorth economaidd cynhwysfawr, gan gynnwys Benthyciadau Ailgydio, gohiriadau treth incwm, cymorth i rentu, lefelau uwch o gredyd cynhwysol, gwyliau morgais a’r gwahanol gynlluniau cymorth busnes y mae’r Llywodraeth wedi’u cyflwyno i ddiogelu busnesau yn ystod y cyfnod hwn.

DIWEDD

Nodiadau:

  • Gallwch ddarllen yr ystadegau yn llawn ar wefan HMRC.
  • Mae’r data a ddarperir yn y datganiad newyddion hwn hyd ganol nos ar 31 Mai 2020.
  • Bydd y ffigurau’n cael eu diweddaru bob mis.
Cyhoeddwyd ar 11 June 2020