Stori newyddion

Gweinidogion Llywodraeth y DU a Chymru yn llofnodi Bargen Twf Gogledd Cymru

Ymrwymodd y ddwy Lywodraeth £120 miliwn yr un i'r fargen.

Bydd miloedd o swyddi’n cael eu creu a bydd hwb gwerth biliynau o bunnoedd yn cael ei roi i’r economi ar ôl i’r Fargen Twf Gogledd Cymru arloesol gael ei gymeradwyo gan Lywodraethau’r DU a Chymru.

Bydd gwaith nawr yn dechrau ar y pum rhaglen sy’n ffurfio’r Fargen gwerth £1bn.

Dan arweiniad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – cydweithrediad chwe chyngor y rhanbarth, dwy brifysgol, dau goleg a chynrychiolwyr o’r sector preifat – mae’r rhaglenni’n cynnwys 14 o brosiectau sy’n cwmpasu ynni carbon isel, arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, bwyd-amaeth a thwristiaeth, cysylltedd digidol a thir ac eiddo.

Mae’r ddwy lywodraeth wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid drwy gydol y broses ac yn gynharach wedi ymrwymo £240m - £120m yr un – i helpu i ddwyn ffrwyth y Fargen.

Llofnododd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart, Gweinidog Swyddfa Cymru David TC Davies a Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, y cytundeb fargen ar ddydd Iau 17 Rhagfyr.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae’n wych gweld cytundeb economaidd cyffrous a thrawsnewidiol yn cael ei ddarparu ar draws Gogledd Cymru. Rydym am adeiladu nôl yn well yn dilyn y pandemig a dod â swyddi a buddsoddiad i’n cymunedau, a dyna pam mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo £120 miliwn i’r cynllun hwn.

Mae Bargen Twf Gogledd Cymru yn gyfle anhygoel i’r rhanbarth ac i economi ehangach Cymru. Gan weithio law yn llaw â llywodraeth leol a busnes, byddwn yn sicrhau bod y fargen dwf yn rhyddhau potensial llawn Gogledd Cymru.

Eu prif amcanion yw creu hyd at 4,200 o swyddi newydd erbyn 2036, cefnogi cynnydd o £2bn-2.4bn i’r economi dros yr un cyfnod, a sicrhau cyfanswm buddsoddiad o hyd at £1.1bn.

Ymhlith y prosiectau cyntaf i gychwyn yn 2021, mae cynllun ynni adnewyddadwy Morlais gwerth £35m oddi ar arfordir Ynys Môn.

Cyhoeddwyd ar 17 December 2020