Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn darparu £31m i atgyweirio tomenni glo oherwydd y llifogydd ar ôl stormydd Cymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Stephen Barclay yn sicrhau £31 miliwn i Lywodraeth Cymru wneud gwaith adfer tomenni glo a difrod yn dilyn y llifogydd

Coal Tip in Wales

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd £31 miliwn ar gael i atgyweirio’r difrod ag achoswyd gan lifogydd difrifol, gan gynnwys tomenni glo, yn dilyn stormydd ledled Cymru yn gynharach eleni.

Derbyniodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Stephen Barclay yr hawliad am gyllid gan Lywodraeth Cymru a fydd yn arwain at £22 miliwn ar gyfer costau adfer yn dilyn y llifogydd i awdurdodau lleol ynghŷd â £9 miliwn i atgyweirio tomenni glo bregus ledled Cymru

Ers i rannau o Gymru gael eu taro gan lifogydd dinistriol yn gynnar yn 2020, mae Llywodraeth y DU wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i asesu sut y gellid darparu cymorth ac amddiffyniadau ychwanegol i’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt.

Er bod y cyfrifoldeb am amddiffynfeydd rhag llifogydd a rheoli llifogydd wedi’i ddatganoli, cytunodd Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid o Warchodfa’r DU ar gyfer 2020-21 gan ystyried yr amgylchiadau eithriadol.

Heddiw (dydd Iau 10 Rhagfyr) yn dilyn cyfarfod rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, cytunwyd ar £31 miliwn o gyllid a fydd yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru i wneud gwaith adfer tomenni glo a difrod yn dilyn y llifogydd.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Roedd y dinistr a achoswyd ledled Cymru gan y stormydd ar ddechrau 2020 yn dorcalonnus, tra bod yr effaith ar domeni glo mewn hen ardaloedd glofaol yn peri pryder mawr i’r cymunedau hynny.

Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac eraill i drafod sut y gallwn ddarparu cymorth ychwanegol yn dilyn y llifogydd a diogelwch i gymunedau yr effeithiwyd arnynt mor wael. Rwy’n falch bod hyn bellach wedi’i gytuno ac y gellir gwneud y gwaith angenrheidiol hwn.

Dywedodd Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Stephen Barclay:

Achosodd Storm Dennis ddinistr ledled Cymru ac rydym wedi bod yn gweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru ers hynny i ddarparu cefnogaeth angenrheidiol i’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Mae’r arian a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cryfder ein Undeb a bydd yn golygu y gellir gwneud gwaith atgyweirio ac adfer hanfodol.

Rydym hefyd wedi rhoi £1.3 biliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn yr Adolygiad Gariant diweddar fel eu bod mewn sefyllfa dda i barhau â’r gwaith hwn

Cyhoeddwyd ar 11 December 2020