Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn haws i Fusnesau Bach a Chanolig Cymru ennill mwy o gontractau'r sector cyhoeddus

Yr wythnos hon, bydd arweinwyr busnesau bach ledled Cymru yn dysgu sut mae cael mwy o fusnes drwy gontractau Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Arweinwyr busnesau bach yng Nghymru yn cael gwybod sut y gall y sector ennill mwy o’r contractau gwerth £187 biliwn sy’n cael eu cynnig gan y Llywodraeth ganolog bob blwyddyn

Dim ond 13% o fusnesau bach Cymru sy’n bwriadu ymgeisio am gontractau’r sector cyhoeddus yn y 12 mis nesaf

Cynhelir tri chyfarfod bwrdd crwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Llanrwst a’r Drenewydd wrth i waith ymchwil newydd gan y llywodraeth ddangos mai dim ond 13% o fusnesau bach yng Nghymru sy’n bwriadu ymgeisio am gontract sector cyhoeddus yn y 12 mis nesaf.

Mae llywodraeth y DU yn gwario £187 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau yn ganolog bob blwyddyn ac mae wedi bod yn ymdrechu i ehangu ei chontractau i gwmnïau llai sy’n aml yn rhoi gwasanaethau mwy arloesol am bris gwell i drethdalwyr.

Mae am i 25% o wariant y llywodraeth ganolog ddeillio o fusnesau bach a chanolig eu maint erbyn 2015 – sy’n golygu ymhell dros £10 biliwn o fusnes i’r sector bob blwyddyn – a gyda 218,000 o gwmnïau bach yng Nghymru yn cyflogi tua 629,000 o bobl, nodir y cyfleoedd i ennill contractau’r sector cyhoeddus.

Cynhelir y cyfarfodydd hyn cyn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yng Nghymru yr wythnos nesaf (21 Tachwedd) a fydd yn dangos i arweinwyr busnes byd-eang pam y mae Cymru’n wlad mor wych i fuddsoddi ynddi.

Dan arweiniad dau o Weinidogion Swyddfa Cymru, sef y Farwnes Randerson ac Alun Cairns, bydd y cyfarfodydd yn amlygu sut y gall cwmnïau yng Nghymru fanteisio ar ymrwymiadau’r llywodraeth i chwalu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag ymgeisio a’u helpu i ennill contractau, megis cael gwared â Holiaduron Cyn-gymhwyso yng nghyswllt pob contract gwerth isel sy’n fwrn ar gwmnïau sydd â llai o adnoddau.

Dywedodd Francis Maude, Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet:

Fel rhan o’n cynllun economaidd hirdymor, rydym yn rhoi diwygiadau radical ar waith i helpu BBaCh i dendro am fusnes a’i ennill. Nhw yw anadl einioes ein heconomi ond yn y gorffennol roedd yn llawer rhy anodd iddynt ennill contractau gyda chyrff llywodraeth leol a’r llywodraeth ganolog.

Rwyf yn falch bod Gweinidogion Swyddfa Cymru a chynrychiolwyr o’r llywodraeth ganolog wedi dod i Gymru i drafod gydag arweinwyr busnesau bach ac rwyf yn edrych ymlaen at yr adborth a gawn a fydd yn helpu i lywio ein gwaith yn y dyfodol.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, sy’n cyfarfod ag arweinwyr busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Llanrwst:

Busnesau bach yw curiad calon economi Cymru. Dyna pam rydym yn cefnogi BBaCh ac yn ei gwneud yn haws iddynt greu swyddi, sicrhau buddsoddi a llwyddo mewn marchnadoedd newydd.

Drwy symleiddio ein proses gaffael a chael gwared â biwrocratiaeth ddiangen, rydym yn ei gwneud yn haws i BBaCh yng Nghymru gystadlu am fusnes y llywodraeth, a’i ennill.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, sy’n cyfarfod ag arweinwyr busnes yn Y Drenewydd:

Mae diwylliant o entrepreneuriaeth yn ffynnu yng Nghymru ac mae’n lle gwych i sefydlu a thyfu busnes.

Rydym am roi bob cyfle posibl i BBaCh uchelgeisiol yng Nghymru ffynnu a chystadlu â chwmnïau mwy. Dyna pam rydym yn gwella ein proses gaffael er mwyn sicrhau bod BBaCh yn y sefyllfa orau bosibl i gystadlu am gontractau’r llywodraeth sydd werth biliynau o bunnoedd.

Bydd arbenigwyr o Swyddfa’r Cabinet a Swyddfa Cymru yn ymuno â’r Gweinidogion yn y sesiynau ochr yn ochr ag arweinwyr busnes lleol a swyddogion Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru, a sefydlwyd i sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gallu cydweithio’n agosach wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau.

Mae’r gwelliannau a wnaed er mwyn ehangu’r farchnad i gwmnïau bach yn cynnwys y canlynol:

Gwneud rhai contractau yn llai Symleiddio’r broses ymgeisio Cyflymu’r system dalu Gwneud prynwyr yn fwy atebol

Yn y Flwyddyn Newydd, bydd fersiwn newydd o wefan Contracts Finder y Llywodraeth hefyd yn ei gwneud yn haws i ddod o hyd i holl hysbysebion tendro a chyfleoedd busnes llywodraeth ganolog y DU yn ogystal â nifer fawr o rai Cymru.

Hwylusir y cyfarfodydd gan Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru, Siambrau Masnach De Cymru, Siambrau Masnach Canolbarth Cymru a Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru.

Dywedodd Graham Morgan, Cyfarwyddwr Siambr Fasnach De Cymru a Siambr Fasnach Canolbarth Cymru:

Mae’n bleser gennym gydweithio â Llywodraeth y DU i gynnal y digwyddiadau hyn yn Ne a Chanolbarth Cymru. Fel sefydliad busnes rydym yn awyddus i ehangu gymaint o gyfleoedd â phosibl i fusnesau Cymru. Mae gan lawer ohonynt y gallu nid yn unig i ymgeisio am gontractau’r llywodraeth ond hefyd i’w hennill.

Mae’r cyfarfodydd bwrdd crwn hyn, lle caiff busnesau gyfle i drafod diwygiadau i’r broses yn uniongyrchol gyda Gweinidogion, yn enghraifft dda o Lywodraeth y DU yn ymdrechu i ymgysylltu â busnesau Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn agor drysau i fusnesau Cymru fod yn rhan o broses gaffael y sector cyhoeddus.

Dywedodd Colin Brew, Cyfarwyddwr Gweithredol Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru:

Mae Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru yn falch iawn o fod yn cydweithio gyda Swyddfa’r Cabinet a Swyddfa Cymru i gynnig cyfle i’w haelodau gyfarfod â Gweinidogion i drafod y newidiadau sydd ar y gweill yng nghyswllt y broses gaffael ac ym mha ffyrdd y gall mentrau bach a chanolig eu maint ymgeisio am gontractau’r llywodraeth.

Mae’n galondid i weld y llywodraeth yn neilltuo amser i wrando ar farn busnesau ac i sefydlu cysylltiadau gwell. Mae’r trafodaethau bwrdd crwn hyn yn gyfle i fusnesau ddweud eu dweud a chyflawni rôl uniongyrchol yn y gwaith o ddiwygio parhaus. Mae’r Siambr yn croesawu unrhyw gyfle o’r fath ac yn deall mor fuddiol yw bod busnesau yn cael gwell dealltwriaeth o’r amryw ffyrdd y gallent gael eu cynnwys yn system gaffael y sector cyhoeddus.

Cyhoeddwyd ar 10 November 2014