Datganiad i'r wasg

Mae llywodraethau'r DU a Chymru yn cydweithio i gael dau Borthladd Rhydd yng Nghymru

Mae llywodraethau'r DU a Chymru yn cadarnhau ar y cyd bod dau Borthladd Rhydd newydd, un yn Ynys Môn ac un ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau, wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government
  • Mae llywodraethau’r DU a Chymru ar y cyd yn cadarnhau fod Porthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi llwyddo yn eu ceisiadau i sefydlu Porthladdoedd Rhydd newydd.
  • Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak yn cyhoeddi’r safleoedd llwyddiannus ar ymweliad ar y cyd â Phrif Weinidog Cymru – gan gyflawni ymrwymiadau i dwf economaidd a ffyniant bro.
  • Gyda chefnogaeth o hyd at £26 miliwn yr un o gyllid Llywodraeth y DU, bydd y ddau Borthladd Rhydd yn helpu i sicrhau ffyniant bro yng Nghymru ac yn dod â swyddi newydd ar gyfer gweithwyr medrus.
  • Mae disgwyl i’r safleoedd newydd ddod â thua £5 biliwn o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus a chreu tua 20,000 o swyddi newydd ar gyfer gweithwyr medrus.

Bydd dau Borthladd Rhydd newydd, un yn Ynys Môn a’r llall ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau, yn helpu i greu swyddi, sbarduno twf a chydbwyso chyfleoedd ledled Cymru, cyhoeddodd llywodraethau’r DU a Chymru ar y cyd heddiw (dydd Iau y 23ain o Fawrth).

Wedi’i gefnogi gan hyd at £26 miliwn yr un o gyllid Llywodraeth y DU, amcangyfrifir y bydd y safleoedd newydd yn dod â bron i £5 biliwn mewn buddsoddiad preifat a chyhoeddus a chreu dros 20,000 o swyddi newydd ar gyfer gweithwyr medrus, gan helpu i roi hwb i’r economi a mynd i’r afael â bylchau sy’n dal buddsoddi yn ôl ar hyn o bryd.

Mae Porthladdoedd Rhydd yn ardaloedd arbennig o fewn ffiniau’r DU lle mae rheoliadau economaidd gwahanol yn weithredol. Ochr yn ochr â phecyn cynhwysfawr o fuddion, bydd y safleoedd yn mwynhau cymhellion treth a thollau i hybu buddsoddiad, gan greu miloedd o swyddi o ansawdd uchel yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig.

Bydd Prif Weinidog y DU yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fel rhan o gydweithio parhaus i gyflawni ar gyfer pobl ledled Cymru.

Meddai’r Prif Weinidog Rishi Sunak:

Mae Cymru’n rhan lewyrchus o’r DU, ac fe fydd y Porthladdoedd Rhydd newydd heddiw yn gweld busnesau a chyfleoedd i bobl Ynys Môn, Port Talbot ac Aberdaugleddau yn mynd o nerth i nerth.

Mae pawb yn haeddu cyfle cyfartal ac mae cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau’r safleoedd newydd gwych hyn.

Mae’r Porthladdoedd Rhydd heddiw yn dangos y gwaith caled sy’n cael ei wneud o ddydd i ddydd i ddod â swyddi newydd ar gyfer gweithwyr medrus i gymunedau ledled Cymru a chyflawni fy addewid i ddod â thwf economaidd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

Mae’n bleser gen i gadarnhau bod y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot a Phorthladd Rhydd Ynys Môn wedi’u dewis fel porthladdoedd rhydd Cymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru amcan clir i weddnewid economi Cymru a chreu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach. Bydd dynodi safleoedd porthladdoedd rhydd Cymru’n hwb i wireddu’r amcan hwnnw gan adeiladu ar y buddsoddiadau a’r partneriaethau pwysig rydym wedi’u datblygu yn y rhanbarthau hyn dros gyfnod o lawer o flynyddoedd.

Dylai’r cydweithio rhwng Llywodraethau ar raglen y porthladdoedd rhydd fod yn esiampl ar gyfer gwaith rhynglywodraethol yn y dyfodol mewn amrywiaeth o feysydd.

Meddai’r Ysgrifennydd dros Ffyniant Bro Michael Gove:

Mae gan Gymru botensial enfawr heb ei gyffwrdd, a dyna pam rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gytuno i gael, nid un, ond dau Borthladd Rhydd yng Nghymru.

Mae hyn yn ganlyniad cydweithio rhwng y ddwy lywodraeth i gyflawni dros Gymru, a dyma enghraifft arall eto o Gymru yn elwa o’i lle mewn Teyrnas Unedig gref.

Rwy’n gwbl hyderus y bydd y Porthladdoedd Rhydd newydd hyn yn drawsnewidiol i Gymru, gan helpu i hyrwyddo twf economaidd, ffyniant bro a lledaenu cyfleoedd.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies:

Mae creu dau Borthladd Rhydd yng Nghymru yn newyddion gwych ac yn hwb enfawr i Gymru a fydd yn hyrwyddo twf economaidd ac yn creu miloedd o swyddi.

Mae Llywodraeth y DU a’r Prif Weinidog hwn wedi ymrwymo ers amser maith i ehangu Porthladdoedd Rhydd i Gymru ac rydym wedi mynd ymhellach na chyflawni’r addewid hwnnw gyda’r ddau gais llwyddiannus a gadarnhawyd heddiw.

Mae’r rhaglen Porthladdoedd Rhydd eisoes yn dod â budd i fusnesau ac yn hyrwyddo ffyniant bro mewn rhannau eraill o’r DU. Edrychaf ymlaen at weld mwy o fuddsoddi a ffyniant yng Nghymru o ganlyniad i’r cyhoeddiad hwn.

Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething:

Hoffwn longyfarch y timau Celtaidd ac Ynys Môn am eu ceisiadau eithriadol i gael statws Porthladd Rhydd. Oherwydd y set rymus o gynigion a gyflwynwyd i ni, dw i’n cytuno â Llywodraeth y DU y gellir cefnogi ail borthladd rhydd yng Nghymru.

Mae ein porthladdoedd yn rhan annatod o’n hanes diwydiannol cyfoethog. Nhw fydd yr injan fydd yn gyrru’n heconomi yn y dyfodol ac mae’r ceisiadau hyn wedi’u cynllunio i’n prysuro ar y daith. O ynni’r môr i weithgynhyrchu uwch, byddant yn helpu i greu degau o filoedd o swyddi newydd – a fydd yn cefnogi ein cynlluniau uchelgeisiol iawn i fod yn sero-net erbyn 2050.

Bydd hyn yn ein helpu i harneisio’n potensial economaidd anferthol, yma ac yn rhyngwladol gan hyrwyddo gwaith teg a chynaliadwyedd yma yng Nghymru.

Dw i’n disgwyl ymlaen at weld ein porthladdoedd rhydd yn dod â manteision economaidd a chymdeithasol ystyrlon i Gymru.

Bydd Porthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn cefnogi busnesau i greu swyddi newydd o safon, hyrwyddo twf ac adfywio, a gwneud cyfraniad sylweddol at gyflawni uchelgais sero net y DU.

  • Nod Porthladd Rhydd Ynys Môn yw denu gwerth £1.4 biliwn o fuddsoddiad yn y sector ynni gwyrdd a chreu o leiaf 3,500 o swyddi, gan gynhyrchu hanner biliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros erbyn 2030. Bydd gan y Porthladd Rhydd ffocws ar dechnoleg ynni morol ac ynni carbon isel a bydd yn cychwyn ar amrywiaeth o raglenni isadeiledd gan gynnwys ailddatblygu porthladd Caergybi ac adfer y rheilffordd a’r trac.

  • Nod y Porthladd Rhydd Celtaidd yw denu buddsoddiad sylweddol o’r tu allan gan gynnwys £3.5 biliwn yn y diwydiant hydrogen yn ogystal â chreu 16,000 o swyddi, gan gynhyrchu £900 miliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros erbyn 2030. Bydd y Porthladd Rhydd yn canolbwyntio ar dechnoleg carbon isel fel tyrbinau gwynt arnofiol ar y môr, hydrogen, dal, defnyddio a storio carbon a biodanwydd i gefnogi gostyngiad cyflym mewn allyriadau carbon. Cefnogir hyn drwy ddatblygu safleoedd ar y tir a’r cei a dod â rheilffordd segur yn ôl yn weithredol, er mwyn darparu isadeiledd i gefnogi datblygiad.

Mae Cynllun Llywodraeth y DU i Gymru yn ymrwymo i gryfhau lle Cymru o fewn Teyrnas Unedig ffyniannus, gan hyrwyddo twf economaidd, ffyniant bro a lledaenu cyfleoedd ledled Cymru.

Agorodd y gwahoddiad i gyflwyno cynigion yn gynharach eleni a chyflwynodd grwpiau eu cynigion am statws Porthladd Rhydd, a ystyriwyd ar y cyd gan lywodraethau’r DU a Chymru. Fel rhan o’r broses, roedd yn rhaid i’r lleoliadau llwyddiannus ddangos i swyddogion a gweinidogion o’r ddwy lywodraeth sut y byddent yn adfywio cymunedau lleol, sefydlu hybiau ar gyfer masnach fyd-eang a meithrin amgylchedd arloesol i gefnogi ffyniant bro.

Dilynwyd proses ddethol drylwyr ar y cyd a dangosodd yr ymgeiswyr llwyddiannus ill dau gweledigaeth gref i greu swyddi o ansawdd uchel yn y sectorau ynni gwyrdd.

Bydd llywodraethau’r DU a Chymru yn gweithio’n agos gyda’r Porthladdoedd Rhydd i sicrhau eu bod yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf posib a’u bod yn dod yn weithredol cyn gynted â phosibl.

Mae hyn yn adeiladu ar raglen Borthladdoedd Rhydd lwyddiannus Llywodraeth y DU yn Lloegr, lle mae pob un o’r wyth Porthladd Rhydd yn agored ar gyfer busnes, a chydweithrediad â Llywodraeth yr Alban i ddarparu dau Borthladd Rhydd Gwyrdd newydd yn Inverness a Cromarty Firth a’r Firth of Forth. Fel y cyhoeddwyd yn y Gyllideb, nod Llywodraeth y DU hefyd yw sefydlu o leiaf un Parth Buddsoddi yng Nghymru, a fydd yn gweithio law yn llaw â’r rhaglen Porthladdoedd Rhydd i hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy a ffyniant bro yng Nghymru a ledled y DU.

Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn gweithio gyda’r cynigydd aflwyddiannus i ystyried sut y gall adeiladu ar y cynlluniau sydd yn eu ceisiadau i ddarparu swyddi a thwf yn y rhanbarth y tu allan i’r rhaglen Porthladdoedd Rhydd.

Office address and general enquiries

2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Contact form https://www.gov.uk/gui...

General enquiries: please use this number if you are a member of the public 030 3444 0000

Media enquiries

Email newsdesk@levellingup.gov.uk

Please use this number if you are a journalist wishing to speak to Press Office 0303 444 1209

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Mawrth 2023 show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation