Datganiad i'r wasg

Dau safle profi COVID-19 rhanbarthol newydd ar agor yn ne Cymru

Agorodd safleoedd gyrru drwodd ym Merthyr Tudful a Phen y Bont

Mae dau safle newydd gyrru drwodd ar gyfer profi am y coronafeirws wedi agor ym Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr er mwyn i’r rheini sydd â symptomau allu trefnu apwyntiadau.

Mae’r safleoedd wedi agor yn Safle Profi Cymunedol Parc Iechyd Keir Hardie (CF48 1BZ) ym Merthyr ac Ysbyty’r Seren (CF31 3SH), Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o ymgyrch Llywodraeth y DU i barhau i wella hygyrchedd profion coronafeirws i gymunedau lleol.

Dim ond ar gyfer y rheini sydd â symptomau’r coronafeirws y mae profion ar gael yn y safleoedd hyn – tymheredd uchel, peswch cyson newydd, neu golli neu newid yn eich gallu i flasu neu arogli. Dylai unrhyw un sydd ag un neu fwy o’r symptomau hyn archebu prawf drwy nhs.uk/coronavirus neu drwy ffonio 119. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddal i ehangu capasiti’r rhwydwaith o safleoedd profi a labordai yn y DU er mwyn iddi fod hyd yn oed yn haws cael prawf a lleihau’r amser mae’n ei gymryd i gael canlyniad profion. Bydd apwyntiadau ar gael yn y ddau safle bob dydd.

Mae’r safleoedd hyn yn rhan o’r rhwydwaith o gyfleusterau profi diagnostig mwyaf erioed yn hanes Prydain. Mae’r rhwydwaith yn gallu prosesu dros 700,000 o brofion bob dydd ac mae’n cynnwys dros 800 o safleoedd ledled y DU, gan gynnwys 89 safle gyrru drwodd, 511 safle cerdded i mewn, chwe labordy goleudy, profion cartref a phecynnau lloeren, a nifer fawr o unedau symudol.

Meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Erbyn hyn, mae dros 50 o gyfleusterau profi Llywodraeth y DU yng Nghymru, ac mae pob un ohonynt yn cyfrannu at ein brwydr barhaus yn erbyn y feirws. Rydym yn ddiolchgar i’r GIG a’i bartneriaid am eu gwaith caled parhaus yn sefydlu canolfannau profi newydd yn gyflym ac yn effeithlon i ateb y galw.

Gyda mwy a mwy o ganolfannau profi yn agor yng Nghymru, mae’n dod yn haws i bobl gael prawf yn agos at eu cartref, sy’n bwysig iawn o ran helpu i atal lledaeniad y feirws a rhoi llai o bobl mewn perygl o’i ddal a’i ledaenu Covid-19.

Meddai Dr Kelechi Nneaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

Rwy’n falch o weld dau safle profi COVID-19 newydd yn agor i’r cyhoedd yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Mae cael prawf pan fydd gennych symptomau’r coronafeirws yn un o’r ffyrdd gorau o gadw eich cymuned yn ddiogel. Bydd y safleoedd newydd hyn yn helpu i sicrhau bod cyfleusterau profi ar gael i unrhyw un sydd eu hangen.

Rydyn ni’n annog pawb i hunanynysu ac archebu prawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o symptomau’r coronafeirws: peswch cyson newydd, tymheredd uchel, neu newid yn eich gallu i flasu ac arogli.

Meddai’r Arglwydd Bethell, y Gweinidog Iechyd:

Er mwyn ymateb i’r coronafeirws, rydyn ni wedi adeiladu system profi ac olrhain sylweddol o’r dechrau. Rydym yn gweithio’n gyson i’w ehangu a’i gwella gyda thechnoleg newydd ac dyfeisiau newydd er mwyn i bawb sydd â symptomau gael prawf.

Mae safleoedd gyrrudrwodd newydd fel y rhain yn ei gwneud hi’n haws fyth cael prawf ble bynnag rydych chi’n byw. Os oes gennych chi symptomau’r coronafeirws, rwy’n eich annog i drefnu prawf heddiw a dilyn cyngor Profi ac Olrhain y GIG os bydd rhywun yn cysylltu â chi i ddiogelu pobl eraill ac i atal y feirws rhag lledaenu.

Meddai’r Farwnes Dido Harding, Cadeirydd Gweithredol Dros Dro y Sefydliad Cenedlaethol er Diogelu Iechyd:

Mae safleoedd gyrru drwodd yn cynnig gwell mynediad i gymunedau at brofion coronafeirws, er mwyn i bawb sydd â symptomau gael prawf. Mae’r safle newydd hwn yn rhan o’n gwaith parhaus i ehangu ein rhwydwaith profi ledled y DU, sydd bellach yn gallu prosesu dros 700,000 o brofion y dydd. Byddwn yn dal ati i gynyddu’r capasiti i wella amseroedd cwblhau profion a bwrw ymlaen â’r gwaith profi arloesol er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw un sydd angen prawf yn gallu cael un.

Gwnewch drefniant i gael prawf os oes gennych chi symptomau’r coronafeirws: peswch cyson newydd, tymheredd uchel a cholli neu newid yn eich gallu i flasu neu arogli, a dilynwch gyngor Profi ac Olrhain y GIG os bydd rhywun yn cysylltu â chi.

Mae’r canolfannau profi yn gweithredu mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a byddant yn cynnig profion â chymorth.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 12 March 2021