Datganiad i'r wasg

Teyrngedau'n cael eu talu i EUB Y Dug Caeredin

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart yn talu teyrnged yn dilyn y cyhoeddiad o farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Y Tywysog Philip, Dug Caeredin,

Image of HRH The Duke of Edinburgh

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Roedd Tywysog Philip yn was cyhoeddus aruthrol a arweiniodd fywyd ysbrydoledig o gefnogaeth ymroddedig i frenhiniaeth hiraf y genedl.

Mae’n gadael etifeddiaeth ryfeddol gan gynnwys y rhaglen Gwobr Dug Caeredin a fydd yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig am flynyddoedd lawer i ddod.

Gyda thristwch mawr yr ydym yn galaru ei farwolaeth ac rwy’n cynnig fy nghydymdeimlad diffuant i’w Mawrhydi y Frenhines a’r Teulu Brenhinol cyfan.

Mewn datganiad yn 10 Stryd Downing, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson:

Enillodd y Tywysog Philip hoffter cenedlaethau yma yn y Deyrnas Unedig, ar draws y Gymanwlad a ledled y byd.

Roedd yn amgylcheddwr, ac yn bencampwr o’r byd naturiol ymhell cyn ei fod yn ffasiynol.

Gyda’i raglen gwobrau Dug Caeredin lluniodd ac ysbrydolodd cymaint o fywydau pobl ifanc ac mewn degau o filoedd o ddigwyddiadau, bu’n meithrin eu gobeithion ac yn annog eu huchelgeisiau.

Cofiwn y Dug am hyn i gyd ac uwchlaw popeth am ei gefnogaeth gyson i’w Mawrhydi Y Frenhines.

Nid yn unig fel ei chonsort, wrth ei hochr bob dydd o’i theyrnasiad, ond fel ei gŵr, ei “chryfder a’i harhosiad”, o fwy na 70 mlynedd.

Felly rydym yn galaru heddiw gyda’i Mawrhydi Y Frenhines. Cynigiwn ein cydymdeimlad iddi hi ac i’w theulu i gyd a rhoddwn ddiolch, fel cenedl a Deyrnas, am fywyd a gwaith rhyfeddol y Tywysog Philip, Dug Caeredin.

Darllenwch ddatganiad llawn y Prif Weinidog.

Cyhoeddwyd ar 10 April 2021