Datganiad i'r wasg

Miloedd o rentwyr yng Nghymru ar eu hennill wrth i Lywodraeth y DU roi hwb i gymorth dai

Mae disgwyl i oddeutu 82,500 o rentwyr yng Nghymru dderbyn hwb i'w cymorth tai ym mis Ebrill, wrth i'r Llywodraeth osod deddfwriaeth i gynyddu'r Lwfans Tai Lleol (LHA).

Help For Households

  • Bydd cyfraddau newydd y Lwfans Tai Lleol yn dod i rym ym mis Ebrill wrth i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno i Senedd y DU.
  • Bydd y buddsoddiad gwerth £7 biliwn dros y pum mlynedd nesaf yn golygu y bydd 1.6 miliwn o rentwyr preifat sy’n cael Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai oddeutu £800 y flwyddyn yn well eu byd.
  • Daw hyn wrth gyflwyno toriad i Yswiriant Gwladol – sy’n golygu y bydd aelwydydd sydd â dau enillydd cyflog cyfartalog yn arbed bron i £1,000 y flwyddyn.

Bydd tua 1.6 miliwn o rentwyr preifat ledled Prydain yn cael hwb sylweddol i’w cymorth tai ym mis Ebrill, wrth i’r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth i gynyddu’r Lwfans Tai Lleol. Yng Nghymru, bydd oddeutu 82,500 o aelwydydd yn elwa ohono.  

Bydd yr hwb o fudd i rai o’r teuluoedd tlotaf sydd naill ai’n cael Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai a fydd yn cael oddeutu £800 y flwyddyn.  

Bydd y cymorth gwerth dros £7 biliwn yn cael ei gyflwyno dros y pum mlynedd nesaf wrth i’r llywodraeth gyhoeddi’r cyfraddau Lwfans Tai Lleol arfaethedig ar gyfer 2024/25, gyda phobl sy’n byw yn yr ardaloedd drutaf yn debygol o elwa fwyaf.   

Yn amodol ar y cap budd-daliadau, dyma’r rhentwyr cymwys:

  • Gallai eiddo pedair ystafell wely yn Ardal Marchnad Rhentu Eang Caerdydd gael hyd at £1,300 y mis.
  • Gallai eiddo tair ystafell wely yn Ardal Marchnad Rhentu Eang Sir Fynwy gael hyd at £795 y mis.
  • Gallai eiddo dwy ystafell wely yn Ardal Marchnad Rhentu Eang Merthyr a Chynon gael hyd at £500 y mis.

Mae’r cynnydd i’r Lwfans Tai Lleol wedi cael ei groesawu gan lawer o sefydliadau tai a digartrefedd ac mae’n rhan o becyn cymorth costau byw gwerth £104 biliwn y Llywodraeth – sy’n werth £3,700 fesul cartref ar gyfartaledd. Mae hyn hefyd yn cynnwys codi budd-daliadau 6.7%, pensiwn y wladwriaeth 8.5%, a rhoi taliadau costau byw gwerth £300, gyda dros 7 miliwn o aelwydydd yn cael y taliad diweddaraf a’r taliad arall sydd i ddod yn y Gwanwyn.  

Daw’r cymorth ychwanegol hwn ar yr un pryd â gostyngiad sylweddol mewn treth i 27 miliwn o bobl wrth i brif gyfradd Yswiriant Gwladol gweithwyr gael ei thorri o 12% i 10%. Mae hyn yn lleihau Yswiriant Gwladol mwy na 15%, gydag arbedion gwerth £450 eleni ar gyfer y gweithiwr cyflog cyfartalog sy’n ennill £35,400.

Dywedodd Mel Stride, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau:

Costau tai yw’r brif gost i deuluoedd. Mae’r hwb gwerth £7 biliwn hwn i’r Lwfans Tai Lleol dros y pum mlynedd nesaf, ynghyd â’n diwygiadau pwysig Dychwelyd i’r Gwaith, yn adlewyrchu ein hagwedd deg at les – gan helpu pobl i gael gwaith ar yr un pryd â diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed gyda chymorth costau byw na welwyd ei debyg o’r blaen.

Dywedodd Mims Davies, y Gweinidog dros Bobl Anabl, Iechyd a Gwaith:

Cadw chwyddiant i lawr a chefnogi pobl i aros a datblygu yn eu gwaith yw’r ffordd orau o gryfhau cyllid teuluoedd a’u helpu i symud ymlaen, ond rydyn ni’n gwybod bod rhai yn dal i gael trafferth a dyna pam rydyn ni’n darparu’r cymorth ychwanegol pwysig hwn.

Bydd yr hwb allweddol hwn i’n cymorth tai yn golygu y bydd rhentwyr ar gyfartaledd oddeutu £800 yn well eu byd. Mae’n rhan hanfodol o’n pecyn gwerth £104 biliwn i helpu’r bobl fwyaf agored i niwed sydd hefyd yn cynnwys cynnydd mewn budd-daliadau yn unol â chwyddiant a’n cyfres ddiweddaraf o daliadau costau byw.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n falch y bydd y cymorth ychwanegol hwn o fudd i ddegau o filoedd o aelwydydd ledled Cymru, sy’n ychwanegol at y cymorth sylweddol sydd eisoes wedi’i ddarparu gan Lywodraeth y DU dros y misoedd diwethaf i gefnogi pobl gyda chostau byw.

Ar adeg pan mae llawer o bobl yn poeni am dalu’r biliau, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ganolbwyntio ar helpu’r bobl fwyaf agored i niwed ym mhob rhan o Gymru”.

Dywedodd Matt Downie, Prif Weithredwr Crisis:

Ni ellir gorbwysleisio pa mor hanfodol fydd y buddsoddiad hwn mewn budd-dal tai o ran helpu i atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pobl sy’n cael budd-dal tai wedi ei chael yn fwyfwy anodd fforddio cost gynyddol rhenti. Bydd rhoi’r hwb hollbwysig hwn i fudd-dal tai yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl ledled Prydain a bydd yn lleddfu rhywfaint ar y pwysau sy’n wynebu pobl ar yr incwm isaf. 

Rydyn ni’n gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei gynnal yn y tymor hir, er mwyn i ni allu parhau â’n cenhadaeth ar y cyd i roi diwedd ar ddigartrefedd am byth.

Mae’r buddsoddiad yn ychwanegol at y cymorth gwerth £30 biliwn y mae’r llywodraeth yn ei ddarparu yn ystod 2023/24 ar gymorth tai.

Dywedodd Jacob Young, y Gweinidog Ffyniant Bro:

Mae’r hwb ariannol hwn yn enghraifft o sut rydyn ni’n cefnogi pobl yn y sector rhentu preifat gyda chostau byw.

Rydyn ni eisoes wedi buddsoddi £30 biliwn mewn cymorth tai, ynghyd â Thaliadau Tai Dewisol sy’n darparu rhwyd ddiogelwch ychwanegol i unrhyw un sy’n cael trafferth talu eu rhent.

Rydyn ni’n gwneud y penderfyniadau hirdymor sydd eu hangen i wella’r sector rhentu preifat drwy ein Bil Diwygio Rhentwyr, gan roi sicrwydd i denantiaid a chefnogi landlordiaid da.

Y Lwfans Tai Lleol sy’n pennu uchafswm y cymorth tai ar gyfer rhentwyr preifat. Mae’n sicrhau bod gan hawlwyr sydd mewn sefyllfa debyg yn yr un ardal hawl i’r un uchafswm cymorth ni waeth faint o rent y maent yn ei dalu. Mae lefel y gefnogaeth yn seiliedig ar yr ardal lle mae’r unigolyn yn byw a maint ei aelwyd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 9 January 2024