Datganiad i'r wasg

Credydau Treth: Mae’n bryd i ddiweddaru’ch dyfarniad

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa cwsmeriaid credydau treth bod angen iddynt roi gwybod i CThEM am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau neu incwm erbyn 31 Gorffennaf.

Image of a child holding some balloons that display the words "Received your tax credits letter?"

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa cwsmeriaid credydau treth bod angen iddynt roi gwybod i CThEM am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau neu incwm erbyn 31 Gorffennaf.

Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy’n gweithio gyda chymorth ariannol wedi’i dargedu felly mae’n bwysig nad yw pobl yn colli allan ar arian y mae ganddynt hawl iddo.

Mae adnewyddu credydau treth ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i GOV.UK i wirio cynnydd eu cais i adnewyddu, i gael sicrwydd bod y cais yn cael ei brosesu, ac i wybod pryd y byddant yn clywed oddi wrth CThEM.

Er y bydd y rhan fwyaf o ddyfarniadau credyd treth yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig yn 2020, efallai y bydd angen i’r rhai hunangyflogedig, y rhai sy’n cael budd-dal nawdd cymdeithasol trethadwy, neu’r rhai sydd ag incwm arall adolygu cyfanswm incwm eu cartref a rhoi gwybod i CThEM a yw’r incwm a nodir gan CThEM yn anghywir.

Bydd angen i gwsmeriaid sydd angen ymateb i’r pecyn Adolygiad Blynyddol wneud hynny erbyn 31 Gorffennaf – neu bydd eu taliadau’n dod i ben.

Meddai Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid CThEM:

Yn ystod yr amser ansicr hwn, tra bod y DU yn dod at ei gilydd i frwydro yn erbyn COVID-19, mae taliadau credydau treth yn ffynhonnell gymorth hanfodol i filiynau o bobl a’u teuluoedd.

Os cysylltodd CThEM â chi i ofyn am eich manylion incwm, rwy’n eich annog i gysylltu â’r adran cyn 31 Gorffennaf.

Peidiwch â’i gadael yn rhy hwyr, cysylltwch â ni a gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth sydd gennym yn gywir.

Os yw unrhyw wybodaeth sydd gan CThEM yn anghywir neu’n anghyflawn, efallai y bydd yn rhaid i gwsmeriaid ad-dalu unrhyw gredydau treth sydd wedi’u gordalu. Efallai hefyd y bydd yn rhaid iddynt dalu cosb.

Gall cwsmeriaid ddefnyddio ap CThEM ar eu ffôn clyfar i wneud y canlynol:

  • adnewyddu eu credydau treth
  • gwirio’r amserlen ar gyfer talu eu credydau treth
  • cael gwybod faint maent wedi’i ennill ar gyfer y flwyddyn

Dylai cwsmeriaid fod yn ymwybodol y gallai troseddwyr fanteisio ar adnewyddiadau credydau treth i anfon neges destun, e-bost neu ffonio’r cyhoedd, gan gynnig cymorth ffug. Mae’r sgamiau yn dynwared negeseuon CThEM mewn ymdrech i ymddangos yn ddilys.

Os bydd rhywun yn anfon neges destun, yn anfon e-byst atoch, neu’n ffonio ac yn honni ei fod yn gweithio i CThEM, gan ddweud y gall cwsmer adnewyddu dyfarniad credydau treth neu gael gafael ar gymorth ariannol, ac yn gofyn am fanylion cerdyn credyd neu fanc, mae’n debygol o fod yn sgam. Dylai bobl gwirio GOV.UK i gael gwybodaeth am sut i adnabod cysylltiadau dilys gan CThEM.

Mae cymorth a gwybodaeth i gwsmeriaid am adnewyddu credydau treth ar gael drwy gyfrwng y ffynonellau canlynol:

Nodiadau i Olygyddion

Y dyddiad cau i bobl adnewyddu eu credydau treth yw 31 Gorffennaf 2020.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd CThEM y byddai cwsmeriaid Credyd Treth Gwaith yn cael hyd at £20 yn ychwanegol bob wythnos rhwng 6 Ebrill 2020 a 5 Ebrill 2021, fel rhan o nifer o fesurau i gefnogi’r wlad yn ystod y pandemig Coronafeirws. Er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth sydd gan CThEM yn gywir ac yn gyfredol, anfonwyd llythyrau at rai cwsmeriaid i ail-gadarnhau eu manylion incwm.

I gadarnhau sut y cyfrifwyd cyfanswm yr incwm, neu i roi gwybod am unrhyw newidiadau, defnyddiwch y gwasanaeth sgwrs dros y we. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘tax credits general enquiries’.

Mae’n rhaid i gwsmeriaid sy’n hunangyflogedig, ac sydd heb gyflwyno eu Ffurflenni Treth ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020, amcangyfrif eu helw neu golled a rhoi gwybod i ni ar-lein erbyn 31 Gorffennaf 2020. Os na fyddant yn rhoi gwybod i ni, byddwn yn cwblhau eu dyfarniad gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennym, ac ni fyddant yn gallu ei newid yn nes ymlaen. Ar ôl iddynt ddarparu amcangyfrif, bydd angen iddynt gysylltu â ni eto pan fyddant yn gwybod eu gwir incwm, erbyn 31 Ionawr 2021 fan bellaf.

Os bydd cwsmeriaid yn cael llythyr neu neges destun, a bod y manylion yn y llythyr hwnnw neu’r neges destun honno’n gywir, neu os bydd cwsmeriaid eisoes wedi gwneud eu datganiad gan gynnwys cadarnhau eu hincwm a’u hamgylchiadau, nid oes angen i’r cwsmeriaid hynny wneud dim.

Cysylltwch â CThEM ar unwaith os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r wybodaeth yn y llythyr neu os oes angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.

Bydd credydau treth yn cael eu disodli’n raddol gan Gredyd Cynhwysol. Ni all cwsmeriaid gael credydau treth a Chredyd Cynhwysol ar yr un pryd. I gael rhagor o wybodaeth, mae angen iddynt fynd i www.gov.uk/credyd-cynhwysol.

Cyngor CThEM ar sgamiau

Stopio:

  • Cymerwch eiliad i feddwl cyn rhannu’ch gwybodaeth neu’ch arian
  • Ni fydd sefydliadau dilys, fel banciau neu CThEM, yn cysylltu â chi’n ddirybudd fel arfer i ofyn am eich manylion personol

Herio:

Diogelu:

Cyhoeddwyd ar 1 July 2020