Rheoli’ch credydau treth

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod beth yw’ch incwm o hunangyflogaeth gwirioneddol os gwnaethoch ei amcangyfrif wrth i chi adnewyddu (y dyddiad cau yw 31 Ionawr)

  • rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am newidiadau yn eich amgylchiadau, er enghraifft, os ydych yn priodi neu os yw’ch oriau gwaith yn newid

  • cael gwybod faint y cewch eich talu, a phryd

Mae’n haws ac yn gynt i reoli ac i adnewyddu’ch credydau treth ar-lein o’i gymharu â thros y ffôn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Gallwch hefyd reoli ac adnewyddu’ch credydau treth drwy ap CThEF. Gallwch wylio fideo ynghylch sut i reoli’ch credydau treth gan ddefnyddio’r ap (yn Saesneg).

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Bydd yn rhaid i chi brofi pwy ydych er mwyn gallu cofrestru ar gyfer Porth y Llywodraeth os nad ydych wedi’i ddefnyddio o’r blaen.

Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch, neu’ch cod post, a dau o’r canlynol:

  • manylion eich hawliad am gredydau treth

  • pasbort dilys y DU

  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)

  • slip cyflog o’r tri mis diwethaf, neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf

  • manylion o Ffurflen Dreth Hunanasesiad, os gwnaethoch gyflwyno un

  • gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)

Bydd mewngofnodi hefyd yn actifadu’ch cyfrif treth personol – gallwch ddefnyddio hwn i wirio a rheoli’ch cofnodion gyda CThEF.

Adnewyddu’ch credydau treth

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mwyach i adnewyddu’ch credydau treth ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023.

Cysylltwch â CThEF dros y ffôn neu drwy’r post os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer adnewyddu’ch credydau treth
  • gwnaethoch adnewyddu’ch credydau treth ac mae camgymeriad ar eich hysbysiad o ddyfarniad

Bydd angen y canlynol arnoch:

Ni allwch hawlio credydau treth a Chredyd Cynhwysol ar yr un pryd. Bydd eich credydau treth yn dod i ben os byddwch chi neu’ch partner yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Gwiriwch sut mae credydau treth a Chredyd Cynhwysol yn effeithio ar ei gilydd (yn Saesneg).