Datganiad i'r wasg

Band eang cyflym iawn yng Nghymru – wedi cyrraedd y garreg filltir o 100,000 o gartrefi a busnesau

Yr Ysgrifennydd Diwylliant yn cyhoeddi carreg filltir mewn perthynas â band eang

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Welsh landscape

Erbyn hyn, mae dros 100,000 o gartrefi a busnesau Cymru yn gallu manteisio ar gyflymderau cyflym iawn ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno band eang cyflym iawn.

Mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi £57 miliwn yn y prosiect Cyflymu Cymru a ddylai ddarparu band eang cyflym iawn i 96% o gartrefi a busnesau yng Nghymru erbyn diwedd 2015. Bydd y cynllun yn sicrhau bod dros 690,000 o safleoedd i gyd yn gallu manteisio ar gyflymderau cyflym iawn, safleoedd a fyddai fel arall wedi cael eu gadael ar ôl yn ddigidol.

Bydd band eang cyflym iawn yn galluogi teuluoedd i wneud pethau fel llwytho ffilm i lawr, gwylio gwasanaeth ailchwarae rhaglenni teledu, gwneud gwaith cartref ar y rhyngrwyd a chwarae gemau ar-lein – i gyd yr un pryd. Gellir llwytho albwm cyfan i lawr mewn llai na 30 eiliad a ffilm HD hyd llawn mewn llai na 10 munud.

Mae cyflymderau cyflym iawn hefyd yn gallu helpu busnesau bach i dyfu ac arbed amser gwerthfawr gan y gellir gwneud mwy o ddefnydd o bethau megis archebu ar-lein, gellir gwneud mwy dros yr e-bost a gellir cael gafael ar fwy o wasanaethau ar-lein.

Ymysg y cymunedau yng Nghymru sydd eisoes yn manteisio ar gyflymderau band eang cyflymach yw Blaenau Ffestiniog, Cricieth, Y Friog, Harlech, Llanberis, Penygroes, Penrhyndeudraeth a Thywyn yn y gogledd, a Brynmawr, Clydach a Rhiwderin yn y de.

Mae rhestr o’r cymunedau a ddylai allu manteisio ar fynediad cyflym iawn erbyn Mawrth 2015 ar gael yn y Nodiadau i Olygyddion (isod).

Dywedodd Maria Miller, yr Ysgrifennydd Diwylliant:

Mae gan Fand Eang Cyflym Iawn rywbeth i’w gynnig i bawb. Mae’n newyddion gwych bod dros 100,000 o gartrefi a busnesau Cymru eisoes yn profi manteision cymdeithasol a masnachol gwirioneddol o ganlyniad i gyflwyno hyn ar draws y wlad. Ni ellir pwysleisio gormod faint o gyfraniad y bydd darparu band eang cyflym iawn gan y Llywodraeth i 95% o’r DU erbyn 2017 yn ei wneud i dwf economaidd y wlad.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Cymru:

Mae cyhoeddiad heddiw yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith band eang sy’n addas i’r oes ddigidol.

Mae’r prosiect Cyflymu Cymru yn enghraifft berffaith o sut y gellir cyfuno buddsoddiad gan Lywodraeth y DU â ffynonellau cyllid eraill i ddarparu ar gyfer pobl Cymru. Yn ogystal â’r arian sydd eisoes wedi’i roi, cyhoeddodd y Llywodraeth hon ym mis Rhagfyr y byddai £10 miliwn yn rhagor ar gael ar gyfer yr ardaloedd hynny nad ydynt yn mynd i elwa o’r rhaglen bresennol o gyflwyno band eang ar draws y DU. Rwyf wedi cwrdd â’r Ysgrifennydd Diwylliant a’r Gweinidog Cyfathrebu yn ddiweddar er mwyn dweud pam y dylai Cymru gael cyfran deg o’r arian ychwanegol sydd ar gael.

Mae cysylltiad gwell ar gyfer cartrefi a busnesau yn gongl faen ymdrechion y Llywodraeth hon i gryfhau economi Cymru. Oherwydd buddsoddiad y Llywodraeth hon yn seilwaith digidol Cymru, rydym yn sicr ar ein ffordd i sicrhau gweddnewidiad anhygoel iawn yn y ddarpariaeth band eang yng Nghymru.

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r Llywodraeth Ganolog, drwy Broadband Delivery UK (BDUK), wedi darparu £57 miliwn ac mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £58 miliwn at y prosiect Cyflymu Cymru.

  • Bydd y cynllun yn codi’r cyfanswm sydd wedi’i fuddsoddi mewn band eang ffibr yng Nghymru i oddeutu £425 miliwn pan ystyrir buddsoddiad masnachol BT hefyd. Mae BT yn buddsoddi oddeutu £220 miliwn mewn band eang ffibr yng Nghymru, gyda’r rhan fwyaf o’r swm hwnnw yn mynd tuag at brosiect Cyflymu Cymru. Mae’r Llywodraeth Ganolog, drwy Broadband Delivery UK (BDUK), wedi darparu £57 miliwn ac mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £58 miliwn.

  • Rhaglen fuddsoddi gan y Llywodraeth mewn seilwaith band eang a chyfathrebu ledled y DU yw Superfast Britain. Mae’n cael ei chynnal gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac mae’r buddsoddiad hwn yn helpu busnesau i dyfu, mae’n creu swyddi a bydd yn gwneud Prydain yn fwy cystadleuol yn y ras fyd-eang. Mae tair elfen i’r portffolio:

  1. £790m i ymestyn band eang cyflym iawn i 95% o’r DU erbyn 2017
  2. £150m i ddarparu band eang cyflym i fusnesau mewn 22 dinas
  3. £150m i wella ansawdd a derbyniad gwasanaethau rhwydwaith data sylfaenol a ffonau symudol
  • Mae Superfast Britain, a weinyddir ar ran y Llywodraeth gan Broadband Delivery UK (BDUK), yn gweddnewid Prydain drwy hybu twf, galluogi pobl i ennill sgiliau a dysgu a gwella ansawdd bywyd.

  • Dywed yr adroddiad, UK Broadband Impact Study – Impact Report, gan y dadansoddwyr SQW (gyda Cambridge Econometrics) fod buddsoddiad y Llywodraeth mewn band eang cyflym iawn yn rhoi hwb sylweddol i economi’r DU, gan gynnig enillion net o £20 am bob £1 a fuddsoddir.

Cymunedau a ddylai fod wedi’u galluogi erbyn diwedd Mawrth 2015:

  • Caerffili: Cross Keys, Machen, Nelson, Rhymni, Rhisga, Senghennydd, Ynysddu
  • Caerdydd: Radur
  • Sir Gaerfyrddin: Cwm Aman, Caerfyrddin, Hebron, Llanybydder, Maesycrugiau, Pencader, Pumpsaint, Cwmtwrch Uchaf, Felindre
  • Conwy: Cerrigydrudion, Llanfairfechan
  • Ceredigion: Aberaeron, Aeron, Aberporth, Borth, Bow Street, Bronant, Capel Bangor, Aberteifi, Trawsgoed, Cwrtnewydd, Llanbedr Pont Steffan, Llanarth, Llandysul, Llangybi, Llanilar, Llanon, Llechryd, Nebo, Castell Newydd Emlyn, Cei Newydd, Ponterwyd, Pont-Rhyd-y-Groes, Pontrhydfendigaid, Pontsiân, Talybont, Tregaron
  • Sir Ddinbych: Bodfari, Bryneglwys, Cyffylliog, Dinbych, Dyserth, Glyndwr, Llanarmon-yn-Iâl, Llandegla, Llandrillo, Llandyrnog, Llangollen, Llanynys, Maerdy, Rhuddlan, Rhuthun, Llanelwy, Trefnant
  • Sir y Fflint: Caerwys, Helygain, Kinnerton, Llanferres,
  • Gwynedd: Bontddu, Ganllwyd, Tudweiliog
  • Castell-nedd Port Talbot: Creunant, Cymer, Glantawe, Glyn-Nedd, Pontardawe, Resolfen, Blaen Dulais, Sgiwen
  • Sir Fynwy: Gilwern, Magwyr, Nantyderi, Tredynog Bryn Buga
  • Sir Benfro: Boncath, Ffynnon-Groes, Crymych, Dinas Cross, Llwyndrain, Trewyddel, Trefdraeth,
  • Powys: Aber-craf, Aber-miwl, Aberriw, Aberhonddu, Llanfair-ym-muallt, Bwlch, Caersws, Carno, Castell Caereinion, Yr Ystog, Crughywel, Erwd, Ffordun, Cegidfa, Y Gelli Gandryll, Hundred House, Llanfair Llythynwg, Ceri, Kington, Trefyclo, Llanbrynmair, Llanfair Caereinion, Llandrindod, Llangamarch, Llangurig, Llanfrynach, Llanfyllin, Llan-gors, Llanidloes, Llanymynech, Y Drenewydd, Llanrhaeadr, Llansantffraid, Llanwrtyd, Merthyr Cynog, Trefaldwyn, Y Bontnewydd ar Wy, Penybont, Maesyfed, Pennant,
  • Abertawe: Llangynydd
  • Torfaen: Blaenafon, Talywain
  • Wrecsam: Bangor-is-coed, Y Waun, Dutton Diffeth, Glyn Ceiriog, Hanmer, Owrtyn, Redbrook Maelor, Yr Orsedd , Rhosllanerchrugog, Rhiwabon
Cyhoeddwyd ar 9 January 2014