Datganiad i'r wasg

Cwpan Rygbi'r Byd am wthio Caerdydd i sylw chwaraeon byd-eang

Stephen Crabb yn rhoi ei gefnogaeth i ymgyrch sgwad rygbi Cymru ar gyfer Cwpan y Byd

Millennium Stadium

Mae yna wyth diwrnod nes y bydd y llen yn codi ar Gwpan Rygbi’r Byd 2015, a heddiw mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb wedi rhoi ei gefnogaeth i sgwad Cymru dan Warren Gatland wrth i’r paratoadau olaf ar gyfer y bencampwriaeth gychwyn.

Ymunodd Mr Crabb â charfan Cymru wrth iddynt ymgymryd â sesiwn hyfforddi yn eu cyfleusterau o’r radd flaenaf ym Mro Morgannwg heddiw (10 Medi).

Bydd wythfed Cwpan Rygbi’r Byd yn cychwyn ar 18 Medi a bydd ymgyrch Cymru yn cychwyn mewn gêm yn erbyn Uruguay yng Nghaerdydd dau ddiwrnod yn ddiweddarach. Bydd Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn cynnig cartref i wyth o gemau’r bencampwriaeth i gyd - gan gynnwys dwy gêm go-gynderfynol - gan roi’r cyfle i arddangos y ddinas i gynulleidfa fyd-eang.

Dangosodd adroddiad diweddar gan Econactive ar gyfer Undeb Rygbi Cymru fod Stadiwm y Mileniwm yn cynhyrchu dros £130m y flwyddyn i Gaerdydd ac yn cynnal mwy na 2,500 o swyddi.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

O’r Lludw i Gynghrair y Pencampwyr, mae Cymru’n meddu ar hanes rhagorol o sicrhau a darparu digwyddiadau chwaraeon pwysig. Dros y ddau fis nesaf, bydd gennym gyfle gwych arall i arddangos un o brifddinasoedd ieuengaf Ewrop i’r byd.

Ni allwn fychanu’r manteision sylweddol gall digwyddiadau fel Cwpan Rygbi’r Byd ddwyn i genedl sy’n cynnig cartref iddynt. Disgwylir y bydd pencampwriaeth eleni’n darparu hwb o oddeutu £1bn, bron iawn, i economi’r DU a rhagwelir y bydd yn denu 466,000 o ymwelwyr rhyngwladol i Gymru a Lloegr.

Fy mhleser oedd cael y cyfle i roi fy nymuniadau gorau a’m cefnogaeth bersonol i’n sgwad genedlaethol a’r tîm rheoli heddiw. Edrychaf ymlaen at wylio eu cynnydd trwy’r bencampwriaeth a dymunaf bob llwyddiant iddynt â’u hymgyrch.

Cyhoeddwyd ar 10 September 2015