Datganiad i'r wasg

Mwy o bobl ddi-waith yng Nghymru’n dod yn fos arnynt eu hunain

Stephen Crabb: Mae cynllun Lwfans Menter Newydd yn trawsnewid bywydau ar draws Cymru

Mae nifer y ceiswyr gwaith yng Nghymru sy’n manteisio ar gynllun Lwfans Menter Newydd (NEA) Llywodraeth y DU, er mwyn sefydlu eu busnes eu hunain, wedi cynyddu o dros 50% yn y flwyddyn ddiwethaf yn ôl ystadegau swyddogol sydd newydd eu rhyddhau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) heddiw.

Mae 3,740 o fusnesau newydd wedi’u creu drwy’r cynllun yng Nghymru ers ei gyflwyno yn Ebrill 2011, gyda 1,310 o hawlwyr budd-daliadau’n dod yn fos arnynt eu hunain yn y 12 mis diwethaf yn unig.

Ar draws Prydain sefydlwyd bron i 70,000 o fusnesau newydd o dan y cynllun NEA sy’n rhoi cyllid sbarduno a mentor busnes i hawlwyr budd-daliadau sydd â syniad busnes credadwy.

Dengys y ffigurau bod y rhan fwyaf o’r hawlwyr budd-daliadau mentrus hyn yng Ngogledd-Ddwyrain Lloegr lle mae tua 13,500 o fusnesau newydd wedi’u sefydlu. Fodd bynnag, mae’r cynnydd o 53.9% yn y nifer a fanteisiodd ar y cynllun yng Nghymru ers Mawrth 2014 y pedwerydd uchaf o’r holl wledydd a’r holl ranbarthau yn Lloegr, ac yn fwy na’r cyfartalog ar draws Prydain o 50.8%.

Mae’r NEA yn helpu ceiswyr gwaith, unig rieni a phobl ar fudd-daliadau salwch sydd â syniad da i sefydlu eu busnes eu hunain. Mae pobl ar y cynllun yn derbyn cymorth a chyngor arbenigol gan fentor busnes sy’n eu helpu i ddatblygu eu syniad busnes ac i ysgrifennu cynllun busnes. Os yw’r cynllun busnes yn cael ei gymeradwyo, maent yna’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol sy’n cael ei dalu fel lwfans wythnosol gwerth hyd at £1,274 dros 26 wythnos.

Meddai Gweinidog Cyflogaeth y DWP, Priti Patel:

Mae cychwyn busnes yn llwyddiannus yn gofyn cael llawer mwy na chyllid – mae angen y cymorth a’r cyngor iawn ar yr amser iawn, ac rydyn ni’n gwneud hynny drwy’r cynllun Lwfans Menter Newydd.

Byddwn yn sicrhau bod pob rhan o Brydain, gan gynnwys Cymru, yn elwa o economi sydd ar ei phrifiant a bod pawb sy’n gweithio’n galed yn cael y cyfle sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Mae’r cynllun wedi bod o fudd i ystod eang o bobl ar draws Cymru gan gynnwys un o gyn-weithwyr Parciau a Gerddi Ceredigion, Meurig Davies. Ar ôl colli ei waith yn 2014, penderfynodd Meurig sy’n dad i dri o blant droi ei gariad at hen ddodrefn yn yrfa newydd a, gyda chymorth gan y Lwfans Menter Newydd (NEA), agorodd Ganolfan Hen Ddodrefn yr Harbourside yn Aberaeron, Ceredigion.

Dywedodd Meurig:

Rwyf wedi bod â diddordeb mewn hen ddodrefn ers tua ugain mlynedd ac yn eithaf gwybodus bellach. Nid oes unrhyw siopau hen ddodrefn o gwmpas felly pan ddaeth eiddo masnachol ar gael wrth ymyl fy nghartref, meddyliais y gallwn agor un.

Mae’r siop, sy’n gwerthu cymysgedd hynod ac eclectig o eitemau casglu hen a newydd, eisoes yn boblogaidd, yn enwedig ar frig y tymhorau twristiaeth. Yn ôl Meurig mae’r NEA wedi helpu i gadw ei fusnes i fynd.

Meddai:

Mae wedi bod yn gymorth aruthrol. Roeddwn yn teimlo’n nerfus a chynhyrfus pan wnaethom agor ar 1 Ebrill. Cawsom eisoes lif cyson o ymwelwyr ond tra’r oeddem yn aros i’r tymor twristiaeth gychwyn bu’n rhaid i mi roi pob ceiniog a aeth i mewn i’r til i dalu biliau a phrynu stoc. Mae grant y NEA wedi sicrhau y gallaf wneud i bethau dalu. Mae’n deimlad gwych bod yn fos arnaf fy hun a gwneud rhywbeth yr wyf wrth fy modd yn ei wneud. Rydym yn mynd yn y cyfeiriad iawn ac rwy’n teimlo’n ffyddiog am y dyfodol.

Mae gŵr busnes o Sir Ddinbych, Rudi Thomas, hefyd wedi derbyn cymorth gan y cynllun. Agorodd Rudi ei gaffi ei hun ar ôl rhoi’r gorau i’w waith fel gyrrwr lori oherwydd anaf hirdymor i’w fraich. Gyda chymorth y NEA mae Rudi bellach yn rhedeg caffi llwyddiannus iawn ar lan y môr o’r enw ‘Crofter’s Pantry’ ar hyd arfordir Gogledd Cymru ym Mhrestatyn. Mae’r caffi wedi mynd o nerth i nerth ac mae Rudi bellach yn ennill bywoliaeth foddhaol ac yn cyflogi myfyrwyr yn gyson i weithio iddo.

Meddai Rudi:

Rwyf yn falch iawn hyd yn hyn gyda’r elw a wnes, a boddhad fy nghwsmeriaid. Ar y cyfan byddwn yn argymell y Lwfans Menter Newydd yn bendant oherwydd mae’n ffordd wych o gael cefnogaeth yn nyddiau cynnar y busnes.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Mae cynllun y Lwfans Menter Newydd yn trawsnewid bywydau ar draws Cymru – yn gwobrwyo uchelgais a dyheadau gyda chyfleoedd a chymorth.

Mae’n rhagorol bod gymaint o bobl yng Nghymru’n dewis cefnu ar fudd-daliadau drwy ddod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid. Pobl fel Rudi Thomas o Brestatyn a ddefnyddiodd y Lwfans Menter Newydd i lansio Crofters Café yn Is Gronant, a Meurig Davies o Geredigion sydd wedi agor busnes hen ddodrefn yn Aberaeron. Mae’r bobl hyn ac amryw byd o rai eraill yn troi eu syniadau a’u breuddwydion yn fusnesau cynaliadwy.

Wrth i fwy o bobl wireddu eu potensial, mae mwy o swyddi’n cael eu creu ac mae economi Cymru’n parhau i ffynnu. Gobeithio y bydd y genhedlaeth gynyddol fentrus hon yn dod yn gyflogwyr y dyfodol.

Mwy o wybodaeth

Mae’r Lwfans Menter Newydd ar gael i:

  • bobl dros 18 oed sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith
  • pobl sy’n hawlio Cymorth Incwm fel unig rieni, neu sy’n sâl
  • pobl sy’n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • pobl gymwys sy’n hawlio’r Credyd Cynhwysol

Darllenwch yr ystadegau llawn yma

Cyhoeddwyd ar 24 June 2015