Stori newyddion

Adrodd am ddigwyddiadau COVID-19 i staff y llysoedd a’r tribiwnlysoedd a defnyddwyr llys proffesiynol

Prosesau GLlTEM ar gyfer delio ag achosion o’r coronafeirws sy’n effeithio ar ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd, yn cynnwys sut y gellir rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau gyda staff, y farnwriaeth a defnyddwyr proffesiynol y llysoedd.

Adroddir i GLlTEM am yr holl achosion a gadarnhawyd / achosion posibl o’r coronafeirws (COVID-19) o fewn ein hadeiladau llys a thribiwnlys yng Nghymru a Lloegr, a thribiwnlysoedd yn Yr Alban. Os ydych wedi ymweld â llys neu dribiwnlys ac yna wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif, dylech roi gwybod i’r rheolwyr yn yr adeilad perthnasol cyn gynted ag y bo modd, ynghyd â rhoi gwybod i wasanaeth Profi ac Olrhain y GIG.

Os byddwch yn cael canlyniad prawf positif, mi fydd gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG, neu dimau olrhain cysylltiadau’r awdurdod lleol perthnasol yn cysylltu â chi i ofyn ichi rannu gwybodaeth am unrhyw unigolion rydych wedi bod mewn cysylltiad agos â hwy (yn unol â diffiniadau GOV.UK) ychydig cyn, neu ar ôl ichi ddechrau cael symptomau. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a bydd ond yn cael ei chadw a’i defnyddio yn unol â deddfau diogelu data.

Gofynnwn i bawb ddefnyddio’r ap olrhain cysylltiadau a’r Codau QR yn ein hadeiladau i gynorthwyo’r broses hon. Dylid ond rhoi’r gorau i olrhain cysylltiadau o fewn ein hadeiladau yn yr ardaloedd hynny a ddiffinnir yng nghanllawiau’r GIG, sy’n cynnwys pan fyddwch tu ôl i sgrin Perspex (neu gyfwerth) sefydlog ac wedi’ch diogelu’n gyfan gwbl rhag pobl eraill, neu os ydych yn storio eich ffôn mewn locer neu fan cymunedol.

Pan fyddwn yn cael ein hysbysu am achosion positif (neu achosion posibl) yn unrhyw un o’n hadeiladau – p’un a yw’n aelod o’n staff neu ddefnyddwyr eraill y llysoedd – byddwn yn cychwyn proses olrhain cysylltiadau ein hunain, ochr yn ochr â gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG. Pan fydd dau neu fwy o achosion newydd, byddwn yn cynnal ymchwiliad.

Diweddaru staff a defnyddwyr proffesiynol y llysoedd

Rydym hefyd yn diweddaru rhanddeiliaid lleol a defnyddwyr llys am y sefyllfa, ar yr un pryd â chynnal cyfrinachedd y sawl yr effeithir yn uniongyrchol arnynt. Gall diweddariadau gynnwys cyfuniad o’r mathau canlynol o wybodaeth, yn ddibynnol ar amgylchiadau pob digwyddiad unigol:

  • y dyddiad y cawsom wybod am yr achosion posibl a/neu’r achosion positif
  • y dyddiad yr oedd yr unigolyn/unigolion perthnasol yn yr adeilad ddiwethaf (dim ond os nad yw’n cael ei rhannu mewn ffordd, neu gyda gwybodaeth arall, a all arwain at adnabod yr unigolion dan sylw)
  • mannau o’r adeilad lle mae’r unigolion dan sylw wedi gweithio am gyfnod parhaus a/neu lle mae’n debygol y byddant wedi dod i gyswllt â’r cyhoedd (dim ond os nad yw’n cael ei rhannu mewn ffordd, neu gyda gwybodaeth arall, a all arwain at adnabod yr unigolion dan sylw)
  • camau gweithredu a gymerwyd, er enghraifft, a gafodd proses lanhau adran 16 ei chwblhau, neu a fydd rhan o’r adeilad neu’r adeilad cyfan yn cau dros dro

Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir gennym ond ar gyfer ei rhannu ag awdurdodau iechyd cyhoeddus a all fod angen yr wybodaeth hon fel rhan o unrhyw gymorth maen nhw’n ei ddarparu ar gyfer digwyddiadau cymhleth.

Timau diogelu iechyd lleol

Yn unol â’r hyn sy’n ofynnol, rydym yn hysbysu timau iechyd cyhoeddus yr awdurdod lleol perthnasol pryd bynnag rydym wedi cyrraedd y trothwy adrodd a byddwn yn gweithredu ar sail y cyngor a gawn ganddynt. Golyga hyn bod ein polisïau, a’r ffordd maen nhw’n cael eu rhoi ar waith ar lefel weithredol, yn cael eu hadolygu drosodd a throsodd gan nifer o arbenigwyr sy’n annibynnol ar GLlTEM.

Cyhoeddwyd ar 21 January 2021