Newid ein rhifau ffôn 08
Cyflwyno rhif 0300 newydd ar gyfer ein llinell ffôn cefnogaeth i gwsmeriaid o 1 Awst.

Os byddwch am ffonio ein cefnogaeth i gwsmeriaid ar ôl 1 Awst byddwch yn gallu defnyddio rhif y codir y gyfradd genedlaethol safonol ar ei gyfer.
Yn ogystal, byddwn hefyd yn cyflwyno rhifau 0300 newydd ar gyfer rhai o’n llinellau gwasanaeth eraill. Isod mae rhestr gyflawn o’r rhifau newydd:
- cefnogaeth i gwsmeriaid: 0300 006 0411
- cefnogaeth i gwsmeriaid ar gyfer siaradwyr Cymraeg: 0300 006 0422
- ymholiadau ynghylch methdaliad: 0300 006 6107
- tîm Gwasanaethau Masnachol: 0300 006 0478
Byddwch yn cael eich cysylltu ar gyfer y chwe mis nesaf o hyd os ydych yn ffonio ein rhifau 08 presennol ar gyfer unrhyw un o’r llinellau hyn. Ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis byddwn yn tynnu’r rhifau hyn yn ôl yn llwyr.
Gallwch gysylltu â’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid trwy ein ffurflen ar-lein a’n fforwm cymorth o hyd. Rydym yn darparu cyfarwyddyd ar gyfer cwsmeriaid a’r cyhoedd ar ein gwefan.
Rydym yn falch o allu gwneud y newid hwn i gydymffurfio’n hymarferion â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a gweithredu ar adborth a gawsom gan gwsmeriaid.