Datganiad i'r wasg

Derbyniad i ddangos y gorau o Cymru o flaen Uwchgynhadledd NATO

Prif Weinidog Cymru ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gynnal digwyddiad i hybu busnesau Cymru, addysg a twristiaeth.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones a’r Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb yn cynnal derbyniad heddiw (dydd Iau, 28 Awst) i ddangos y gorau o fyd busnes, addysg a thwristiaeth yng Nghymru ar drothwy Uwchgynhadledd NATO.

Disgwylir gweld rhagor na 200 o westeion gan gynnwys cynrychiolwyr busnesau a diwydiannau creadigol Cymru yn ogystal â’r cyfryngau tramor yn y derbyniad a gynhelir yn y Swyddfa Dramor yn Llundain.

Ynghyd â chlywed anerchiadau’r ddau weinidog, caiff y gwesteion gyfle i weld delweddau’r ymgyrch ‘Wales is GREAT’ a sut mae’r ddwy lywodraeth yn hyrwyddo Cymru dramor gan ddefnyddio’r rhwydwaith o lysgenadaethau, conswlaethau ac uchel-gomisiwnau sydd gan y Deyrnas Unedig.

Bydd rhai o gynnyrch gorau Cymru hefyd yn cael eu harddangos yn y digwyddiad, gan gynnwys gwin o Winllan White Castle yn Sir Fynwy a sudd afal o Welsh Farmhouse yng Ghrughywel. Bydd arlwyo yn cael ei ddarparu gan y Welsh Culinary Association

Meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones:

Dyma gyfle inni ddangos pam mae Cymru’n wlad cystal i ymweld ac i fasnachu â hi ac i fuddsoddi ac astudio ynddi. Rydyn ni’n manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru ac i ganu’n clodydd dramor. Mae Uwchgynhadledd NATO yn gyfle rhagorol inni wneud hynny.

Rydyn ni newydd gyhoeddi’r ffigurau gorau erioed ers inni ddechrau gadw cofnodion 30 mlynedd yn ôl am fusnesau tramor sy’n buddsoddi yng Nghymru, gan greu a diogelu mwy na 10,000 o swyddi. Ac mae’r ffigurau allforio diweddaraf yn dangos mai Cymru o bedair gwlad Prydain welodd y cynnydd mwyaf yn ei hallforion.

O ran twristiaeth hefyd, mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn dangos bod Cymru’n gwneud yn dda o ran niferoedd yr ymwelwyr. Yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn, roedd tripiau i Gymru i fyny 3.2% o’u cymharu â llynedd – sefyllfa wahanol i sawl rhan arall o’r DU.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb:

Mae cyfleoedd aruthrol yng Nghymru ar gyfer twristiaeth, addysg a buddsoddi mewn busnesau. Mae gennym enw da trwy’r byd am weithgynhyrchu, arloesi, gwyddorau bywyd, seiber-dechnolegau ac awyrofod ac rydym yn mentro i farchnadoedd newydd bob blwyddyn.

Diolch i Uwchgynhadledd NATO, mae mwy o lygaid y byd ar Gymru nawr nag a fu erioed o’r blaen. Mae’n gyfle unwaith mewn oes i ddangos i’r byd y gorau sydd gennym. Mae heddiw’n enghraifft ohonom yn gweithio i sicrhau bod Cymru’n medi’r gorau posibl o’r Uwchgynhadledd.

Mae gennym ddigwyddiadau eraill yn yr arfaeth, fel y gynhadledd fuddsoddi ym mis Tachwedd, fydd yn rhan o waddol yr Uwchgynhadledd. Rydym yn gwneud popeth i wneud yn siŵr bod gan Gymru yr hyn sydd ei hangen arni i gystadlu â’r byd.

Mae’r derbyniad hefyd yn dod diwrnod o flaen “Diwrnod Cymru”, ymgyrch undydd gan gyfryngau digidol y DU, llysgenadaethau, cenhadon ac uwch gomisiynau ar 1 Medi i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth a busnes cyn Uwchgynhadledd NATO ar 4 a 5 Medi.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Cyhoeddwyd ar 28 August 2014