Datganiad i'r wasg

Hwb o £750 miliwn i'r gyllideb yng Nghymru

Cyhoeddwyd ymestyniadau i gynlluniau cymorth ledled y DU gan y Canghellor hefyd.

  • Bydd pobl a busnesau yng Nghymru yn elwa o ymestyn cynlluniau cymorth Covid-19
  • Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi £740 miliwn o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru
  • Mwy na £130 miliwn o fuddsoddiad i sbarduno adferiad gwyrdd a chyflymu’r gwaith o greu bron i 13,000 o swyddi

Bydd miliynau o deuluoedd a busnesau ledled Cymru yn parhau i gael eu cefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gyllideb sy’n ‘diwallu anghenion y presennol’, meddai’r Canghellor heddiw.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, nododd Rishi Sunak gynllun tair rhan sy’n diogelu swyddi a bywoliaeth pobl drwy gam nesaf yr argyfwng, yn dechrau ar y gwaith o adeiladu ein heconomi ar gyfer y dyfodol, ac yn dechrau atgyweirio cyllid cyhoeddus pan fyddwn ar y llwybr tuag at adfer.

Fel rhan o gam nesaf Cynllun Swyddi Llywodraeth y DU, cyhoeddodd y byddai’r cynlluniau cymorth huangyflogaeth a ffyrlo yn cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Medi, ochr yn ochr ag estyniad o chwe mis i’r £20 o gynnydd yn y Credyd Cynhwysol, taliad untro o £500 i hawlwyr Credyd Treth Gwaith cymwys, ac eithriadau treth incwm sy’n gysylltiedig â Covid-19 i weithwyr.

Fe wnaeth y Canghellor hefyd ymestyn y gostyngiad TAW ar gyfer y sectorau twristiaeth a lletygarwch, a rhoi hwb o £740 miliwn i Gymru, gyda chyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru drwy fformiwla Barnett.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hon yn gyllideb wych i Gymru. Yn ogystal â pharhau i ddiogelu swyddi a bywoliaeth cannoedd ar filoedd o bobl drwy’r pandemig, mae’r Canghellor wedi dangos bod Llywodraeth y DU yn ailgodi’n gryfach ac yn fwy gwyrdd a bod Cymru’n ganolog i’r cynlluniau hynny.

Bydd parhad y cymorth i fusnesau, pobl hunangyflogedig a’r ffyrlo, y cynnydd mewn Credyd Cynhwysol, y gostyngiad mewn TAW ar letygarwch, a rhewi’r dreth tanwydd yn rhoi sicrwydd hanfodol i bobl a busnesau yng Nghymru yn y misoedd i ddod, tra bydd cyhoeddiadau Canolfan Ragoriaeth y Rheilffyrdd, yr hyb hydrogen a buddsoddi mewn bargeinion twf yn dod â miloedd o swyddi medrus, gan sefydlu lle Cymru fel canolfan ar gyfer arloesi a diwydiannau’r dyfodol.

Fel y gwelsom dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cryfder y Deyrnas Unedig yn bwysicach nag erioed i Gymru a byddwn yn parhau i ddarparu brechlynnau, profion Covid a chymorth gan y Lluoedd Arfog sy’n allweddol er mwyn codi cyfyngiadau ac ailagor economi Cymru. Mae’r Gyllideb heddiw yn cyflawni ar gyfer pob rhan o Gymru ac yn braenaru’r tir ar gyfer yr amseroedd gwell sydd o’n blaenau.

Dywedodd Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:

Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth y DU wedi camu i’r adwy i gefnogi bywydau a bywoliaeth miliynau o bobl ledled Cymru.

Mae’r Gyllideb yn atgyfnerthu’r gefnogaeth honno – gan sicrhau bod ein Cynllun Swyddi yn parhau drwy gam nesaf ein hadferiad.

Rydym hefyd yn buddsoddi miliynau yn nhrefi a dinasoedd Cymru, seilwaith allweddol a diwydiannau gwyrdd a fydd yn hanfodol i dwf economaidd hirdymor.

Roedd y Gyllideb hefyd yn edrych tua’r dyfodol gyda bron i £93 miliwn o fuddsoddiad er mwyn sbarduno adferiad gwyrdd a chyflymu’r gwaith o greu bron i 13,000 o swyddi.

Roedd yn cynnwys:

  • Cyllid wedi’i gyflymu ar gyfer Bargeinion Dinesig a Thwf Bae Abertawe, Gogledd Cymru a Chanolbarth Cymru. Bydd cyflymu’r bargeinion hyn yn helpu i gyflawni prosiectau’n gyflymach, yn creu hyd at 12,800 o swyddi newydd ac yn cefnogi cynnydd o dros £3.3 biliwn i’r economïau rhanbarthol.
  • £4.8m yn 2021-22 ar gyfer Hyb Hydrogen Caergybi: prosiect arddangos hydrogen gwyrdd a fydd yn creu 30 o swyddi gwyrdd medrus ar Ynys Môn, yn cefnogi 500 o swyddi’n anuniongyrchol, ac yn dod â rhagor o fuddsoddiad i’r ardal.
  • Hyd at £30m i adeiladu Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yng Nghastell-nedd Port Talbot, a fydd yn arwain at hyd at 120 o swyddi medrus yn y cyfleuster profi seilwaith a rheilffyrdd newydd.

Er mwyn diogelu swyddi, gwella cynhyrchiant a sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn gystadleuol, amlinellodd y Canghellor hefyd fuddsoddiad lleol uniongyrchol mewn trefi a chymunedau ledled y DU, er mwyn gwella canol trefi, y stryd fawr, trafnidiaeth leol ac asedau diwylliannol drwy’r Gronfa Codi Lefel gwerth £4.8 biliwn, y Gronfa Perchenogaeth Gymunedol ledled y DU, a’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol.

Bydd y dreth tanwydd hefyd yn cael ei rhewi am yr 11eg flwyddyn yn olynol, tra bydd y tollau ar alcohol yn cael eu rhewi yn gyffredinol – am y trydydd tro yn unig mewn 20 mlynedd, gan arbed £1.7 biliwn i yfwyr alcohol. Bydd hyn yn arbed 2c oddi ar beint o gwrw arferol yng Nghymru.

Fel rhan o’r nod o wneud Cymru’n brif gyrchfan ar gyfer masnach a buddsoddi, mae’r Llywodraeth yn parhau i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu o leiaf un Porth Rhydd yng Nghymru, a fydd yn sianelu buddsoddiad newydd i adfywio cymunedau.

Bydd busnesau Cymru hefyd yn elwa o gynlluniau ledled y DU i fuddsoddi yn nyfodol cwmnïau – o’r cychwyn i’r broses uwchraddio.

Bydd y cynllun newydd, Cymorth i Dyfu, yn rhoi hwb i hyd at 130,000 o gwmnïau ledled y DU gyda materion digidol a rheoli, a bydd cronfa gwerth £375 miliwn ledled y DU, ‘Future Fund: Breakthrough’, yn cefnogi cwmnïau arloesol iawn fel y rheini sy’n gweithio mewn gwyddorau bywyd, cyfrifiadura cwantwm, neu dechnoleg lân, sy’n ceisio codi o leiaf £20 miliwn o gyllid.

Bydd cynlluniau i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn brif gyrchfan ar gyfer talent a buddsoddiad yn arwain at ddiwygio’r system fewnfudo er mwyn helpu busnesau uchelgeisiol yn y DU i ddenu’r doniau rhyngwladol gorau a mwyaf disglair, a lansio’r bond arbedion gwyrdd cyntaf yn y byd ar gyfer buddsoddwyr adwerthu, gan ganiatáu i gynilwyr helpu i yrru’r broses o drawsnewid y wlad i fod yn un sero net.

Newyddion da i gefnogwyr chwaraeon; cyhoeddodd y Canghellor £2.8 miliwn i gefnogi cais Cwpan y Byd 2030 y DU ac Iwerddon, a buddsoddiad o £25 miliwn mewn chwaraeon ar lawr gwlad sy’n ddigon ar gyfer 700 o gaeau/lleiniau newydd ledled y DU.

Mae’r cymorth Covid-19 a ddarparwyd yng Nghymru hyd yma yn cynnwys:

  • bron i 400,000 o swyddi yng Nghymru yn cael eu gwarchod gan y CJRS *295,000 o hawliadau wedi cael eu gwneud drwy’r SEISS yng Nghymru
  • dros £2bn wedi’i fenthyca i dros 57,000 o fusnesau yng Nghymru drwy BBLS a CBILS
Cyhoeddwyd ar 5 March 2021