Datganiad i'r wasg

Rhoi menywod wrth galon economi Cymru

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wales Office

O entrepreneuriaid busnes llwyddiannus i’r rheini sy’n gweithio’n ddiflino i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cydnabod cyfraniad pwysig menywod yng Nghymru i’w cymunedau ac i economi Cymru.

Eleni, bydd Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ei hymdrechion ar hyrwyddo Grymuso Menywod yn Economaidd a Chodi Dyheadau Merched gyda golwg ar roi menywod wrth galon twf economaidd y DU.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae blaenoriaethu’r economi ac arddangos yr ystod lawn o fesurau sydd ar gael neu sy’n cael eu cymryd i gefnogi menywod i wireddu eu potensial llawn yn bwysig dros ben, a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon.

Mae menywod yn hollbwysig i lwyddiant busnesau’r DU. Mae wynebu’r rhwystrau yn y gweithle sy’n dal menywod yn ôl yn synnwyr busnes call.

Ond wrth i ni barhau ar hyd y llwybr at adferiad economaidd, mae rhagor eto i’w wneud. Bydd harneisio talentau menywod yn y gweithle heddiw yn sicrhau bod busnesau’r DU yn medi manteision hyn yn y dyfodol.

Mae busnesau sy’n edrych tua’r dyfodol yn gwybod hyn ac eisoes yn dangos y ffordd drwy weithredu a chydnabod y manteision busnes. Rwyf yn annog busnesau eraill yng Nghymru i ddilyn eu hesiampl ar gyfer iechyd ein heconomi yn y dyfodol.

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru sydd â chyfrifoldeb portffolio dros gydraddoldeb, y Farwnes Randerson, yn cynnal swper ar gyfer uwch fenywod busnes amlwg yng Nghymru yn Nhŷ Gwydyr. Bydd y digwyddiad yn gyfle i nodi eu cyfraniad at economi Cymru, a’r camau sy’n cael eu cymryd gan y Llywodraeth i annog rhagor o fenywod i fyd gwaith a menter.

Bydd y gwesteion yn cynnwys Janet Jones, Cadeirydd Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru, Emma Watkins, Cyfarwyddwr CBI Cymru, Connie Parry, Prif Swyddog Gweithredol Cwmni Hurns Brewing a Cilla Davies OBE, Cadeirydd The Prince’s Trust Cymru.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Fel sy’n cael ei ddangos gan y menywod sy’n ymuno â mi i nodi’r diwrnod pwysig hwn, mae gan Gymru rai o’r talentau busnes gorau a disgleiriaf ac mae arnom eisiau grymuso rhagor o fenywod fel y rhain i swyddogaethau uchel eu proffil er mwyn iddynt allu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod ifanc a fydd yn arweinwyr busnes.

Mae hyn yn ymwneud â chreu economi gryfach a chymdeithas decach. Nid oes dim yn fwy effeithiol ar gyfer datblygu economaidd na grymuso menywod. Gall Cymru a dylai Cymru gymryd yr awenau yn y DU ac yn rhyngwladol wrth chwalu’r nenfwd gwydr hwnnw ym mhob maes - boed hynny’n wleidyddiaeth, yn fusnes, yn weithgynhyrchu, yn amaethyddiaeth neu’n gelfyddydau.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, yn bresennol mewn digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan gangen y Rhyl o’r Inner Wheel - un o fudiadau gwirfoddol gwasanaeth menywod mwyaf y byd. Bydd y grŵp yn gwneud cyflwyniad i Wasanaeth Cam-drin Domestig Gogledd Cymru i gydnabod eu gwaith yn helpu menywod sydd mewn perthynas gamdriniol.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi cyhoeddi heddiw (8 Mawrth) y bydd cynllun yn cael ei gyflwyno mewn heddluoedd ledled Cymru a Lloegr o heddiw ymlaen a fydd yn caniatáu i’r heddlu ddatgelu manylion am orffennol camdriniol eu partneriaid i unigolion.

Mae “Cyfraith Clare” - y Cynllun Datgelu Trais Domestig - wedi cael ei dylunio i roi gwybodaeth i ddioddefwyr a all eu diogelu o sefyllfa o gam-drin cyn i bethau droi’n drychineb. Ar ôl cael cais, mae’r cynllun yn caniatáu i’r heddlu ddatgelu gwybodaeth am hanes blaenorol partner o drais domestig neu weithredoedd treisgar.

Mae’n dilyn cynllun peilot 14 mis o hyd mewn pedair ardal heddlu, gan gynnwys Gwent, a ddarparodd wybodaeth a allai achub bywydau i dros 100 o bobl.

Ychwanegodd David Jones:

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn rhoi’r llwyfan i ailadrodd nad yw trais yn erbyn menywod a merched yn dderbyniol, na chaiff ei ddioddef a bod help a chefnogaeth ar gael i’r rheini sydd eu hangen.

Mae gan bawb hawl i fyw’n ddiogel heb ofn ac mae rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon.

Roedd Stephen Crabb AS wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy groesawu myfyriwr o Ysgol Tŷ Ddewi yn Sir Benfro i’w gysgodi yn ystod ei ddyletswyddau yn y Senedd.

Dywedodd Stephen Crabb:

Mae’r Llywodraeth hon yn gweithio i gefnogi ac annog cyflogwyr i roi’r mesurau iawn ar waith i greu gweithleoedd mwy cynhwysol ac i feithrin talent. Wrth i’r adferiad economaidd barhau, ni allwn fforddio anwybyddu’r cyfraniad ychwanegol enfawr y gallai menywod ei wneud at ein cymunedau. Mae rhoi’r cyfleoedd iddynt gael blas ar fyd gwaith er mwyn helpu i gyfrannu at eu dewisiadau ynghylch eu gyrfa yn y dyfodol yn rhan hollbwysig o’r ymdrech hon.

Cyhoeddwyd ar 8 March 2014