Datganiad i'r wasg

Rhoi cynnyrch Cymru ar y map yn Uwchgynhadledd NATO

Bydd cannoedd o fusnesau o Gymru yn darparu gwasanaethau, cyflenwadau a staff i Uwchgynhadledd NATO.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae cwmnïau o bob cwr o Gymru a lwyddodd yn eu cynigion am gontractau wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu sawl agwedd wahanol ar yr Uwchgynhadledd.

Bydd ffotograffau trawiadol o Fannau Brycheiniog, gan y ffotograffydd Nigel Forster sy’n byw yng Nghymru, yn gefndir i gyfarfod arweinyddion y byd.

Caiff 26 o gyflenwyr ychwanegol eu defnyddio i ddarparu nwyddau o Gymru i’w rhoi ym magiau rhodd yr arweinyddion ddydd Iau (4 Medi).

Bydd cwmnïau gwerthu bwyd o Gymru yn darparu bwyd i ‘Stryd y Farchnad’ yn yr Uwchgynhadledd a fydd yn bwydo’r 1,500 aelod o’r cyfryngau ar y safle.

Bydd cerddorion o Gonsort Pres Opera Cenedlaethol Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Hannah Stone - Telynores Swyddogol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a Band Gwŷr Meirch yr Aelwyd yn darparu cerddoriaeth yn nerbynwest Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron:

Bydd cryn etifeddiaeth i Gymru gan y bydd pobl yn gallu gweld yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd ac yn yr ardaloedd cefn gwlad a’r trefi a’r pentrefi cyfagos, lle mor brydferth yw Cymru, pa mor ddiwydiannol ac entrepreneuraidd ydyw, a byddwn yn achub ar bob cyfle i geisio hyrwyddo busnesau Cymru a diwylliant Cymru ym mhob un o’r digwyddiadau gwahanol a gynhelir.

Caiff lleoliadau ledled Cymru eu defnyddio yn cynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Castell Caerdydd, Tŷ Tredegar ac 80 o westai yng Nghasnewydd, Caerdydd a Bryste. Mae tua 24,000 o ystafelloedd wedi cael eu llenwi.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rydyn ni am adeiladu etifeddiaeth a fydd yn para yn dilyn Uwchgynhadledd NATO a ffarwelio ag arweinyddion y byd gan wybod nad oes amheuaeth o ran y sgiliau, y doniau a’r arbenigedd sydd ar gael yma yng Nghymru.

Mae’r amrywiaeth enfawr o gyflenwyr sy’n gysylltiedig â’r Uwchgynhadledd yn dangos sut y bydd nid yn unig yn rhoi hwb i fusnesau Cymru, ond hefyd yn rhoi cydnabyddiaeth ryngwladol i’r ystod lawn o gynhyrchion a gwasanaethau a gynigir yma yng Nghymru.

Bydd yr Uwchgynhadledd, sydd wedi bod yn yr arfaeth ers misoedd, bellach yn barod i dderbyn arweinyddion y byd diolch i gwmnïau o Gymru.

Maent yn cynnwys:

  • Ynni dros dro wedi’i ddarparu gan Aggreko ym Mhort Talbot
  • 7,000 metr sgwâr o loriau gan gwmni Floorex o Gwmbrân
  • Marciau ar y ffordd gan Barnaby Road Markings o Gaerffili
  • Dodrefn llwyfen o Gymru a choed lleol arall gan Unique Works yng Nghaerfyrddin
  • Byrddau coffi cadarn gan y dylunydd o Gymru, Bethan Gray
  • Carthenni wedi’u gwneud â llaw gan y dylunydd Ffion Griffith
  • Gwasanaethau dylunio swyddfa gan gwmni Storage Design o’r Bont-faen
  • Cadeiriau wedi’u darparu gan Set Office Supplies yng Nghaerdydd
  • Marcîs yn yr Uwchgynhadledd ac ym Mae Caerdydd gan County Marquees Ltd
  • Mae’r bwrdd cyfarfod ar gyfer yr arweinyddion wedi’i gyflenwi gan gwmni Rathkeys o’r Bont-faen
  • Cyfleusterau ystafell ymolchi ychwanegol gan gwmni Portable Toilets o Ben-y-bont ar Ogwr
  • Criw lleol wedi’i gyflenwi gan gwmni Nova o Benarth
  • Ffensio wedi’i gyflenwi gan Perfect Associates Ltd sydd â swyddfa yng Nghymru
  • Cyflenwir yr aerdymheru gan Watkins Event Hire sydd wedi’i leoli yng Nghymru
  • Rheoli cludiant o amgylch y digwyddiad gan Show & Event Security o Abertawe
  • Gwasanaethau diogelwch wedi’u cyflenwi gan gwmnïau diogelwch lleol wedi’u his-gontractio gan G4S
  • Crysau-T ar gyfer staff wedi’u hargraffu gan Sticky Ink, sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd
  • Bwydlenni gan y prif gogydd enwog o Gymru, Stephen Terry a’i dîm o 12 myfyriwr
  • Metrau sgwâr o drac gan Faun Trackway ar Ynys Môn
  • Mae Celtic Travel, Llanidloes, Powys, Cymru Coaches, Abertawe a New Adventure Travel, Caerdydd yn darparu cludiant
  • Bydd cwmnïau tacsi o Gaerdydd a Bryste yn darparu tacsis i’r staff

Bydd Gwesty’r Celtic Manor, lle cynhelir yr Uwchgynhadledd, yn defnyddio llawer o gyflenwyr o Gymru hefyd, yn cynnwys:

  • Cig o Siop Cigydd Douglas Willis Butchers, yng Nghasnewydd
  • Cyflenwadau bwyd gan Castell Howell yn Cross Hands
  • Dŵr Prince’s Gate, Sir Benfro
  • Cacennau cri o Tan y Castell, Sir Benfro
  • Help symud a storio gan Fox Removals, Cwmbrân
  • Teledu Cylch Cyfyng gan Advanced Satellite Systems, Casnewydd
  • Gwasanaethau golchi dillad gan Afonwen, Caerdydd
  • Fflyd o fysiau mini concierge gan Euro Commercials, Caerdydd
  • Gwasanaethau argraffu gan Uprise Print, Caerdydd
  • Peiriannau argraffu a llungopïwyr gan Danwood Wales, Caerdydd
  • Gwasanaethau mecanyddol gan CMB Engineering, Caerdydd
  • Offer cegin ychwanegol gan John’s Electrics, Casnewydd
  • Gwasanaethau gwastraff gan GD Environmental, Casnewydd

Dywedodd Ian Edwards, Prif Swyddog Gweithredol Gwesty’r Celtic Manor:

Rydyn ni’n ceisio defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau lleol lle bo’n bosibl ac rydyn ni wrth ein bod eu bod yn cyfrannu at groeso Cymreig go iawn y gallwn ei gynnig i’n gwesteion yma yn y Celtic Manor.

Mae ein staff a’n cyflenwyr yn falch o gyfrannu at y gwaith o gynnal Uwchgynhadledd NATO pan fydd sylw pobl ledled y byd yn cael ei hoelio unwaith eto ar Dde Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Cyhoeddwyd ar 3 September 2014