Datganiad i'r wasg

Mabwysiadu cynllyn mynediad i lysoedd ar gyfer defnyddwyr proffesiynol

Cyn bo hir bydd gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn gallu mynd i mewn i lysoedd a thribiwnlysoedd yn ddidrafferth gan fod cynllun peilot llwyddiannus yn cael ei gyflwyno ledled y wlad.

Image of person passing through security gate
  • Denodd y cynllun peilot gefnogaeth eang ymysg cyfreithwyr
  • Bydd gweithwyr proffesiynol bellach yn cael mynediad cyflymach a haws i lysoedd a thribiwnlysoedd ledled y wlad.
  • Caiff y cynllun ei gyflwyno i’r mwyafrif llethol o lysoedd yn ystod y flwyddyn nesaf

Mae’r cynllun mynediad i ddefnyddwyr proffesiynol eisoes wedi’i dreialu mewn 10 llys a chaiff ei gyflwyno’n awr gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi mewn pum llys ychwanegol ym mis Mai. Byddir yn parhau i ehangu’r cynllun drwy’r wlad a disgwylir ei gwblhau yn 2020.

Gan ddefnyddio ap ID diogel, gall y rhai sydd wedi cofrestru fynd i mewn i lysoedd a thribiwnlysoedd heb gael eu chwilio’n llawn bob tro. Mae’r penderfyniad i ymestyn y cynllun yn dilyn adborth cadarnhaol gan weithwyr proffesiynol sydd eisoes wedi’i ddefnyddio, gyda 86% o’r rhai a holwyd yn dweud ei fod wedi gwella mynediad i’r llys.

Er y bydd y gweithdrefnau diogelwch llymach a gyflwynwyd y llynedd yn parhau, mae’r cynllun mynediad yn bwriadu lleihau ciwiau i fynd i mewn i lysoedd a thribiwnlysoedd a thrwy hynny ryddhau amser staff diogelwch i ganolbwyntio ar ddefnyddwyr eraill y llys.

Bydd chwiliadau ar hap yn cael eu cynnal i sicrhau bod y cynllun yn gweithio yn ôl y bwriad.

Meddai’r Gweinidog dros Gyfiawnder, Lucy Frazer:

Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r sector cyfreithiol i sicrhau bod y cynllun hwn yn llwyddiannus heb beryglu diogelwch ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd.

Bydd ei gyflwyno ar draws yr ystâd yn golygu y gall gweithwyr proffesiynol fynd ati’n gyflymach i wneud eu gwaith.

Meddai Richard Atkins CF, Cadeirydd Cyngor y Bar:

Rwy’n falch iawn bod y cynllun mynediad drwy ddefnyddio cerdyn ID, y mae Cyngor y Bar wedi bod yn gweithio arno gyda GLlTEM ers cymaint o amser bellach, yn mynd i gael ei gyflwyno’n genedlaethol.

Mae llawer o waith caled a buddsoddiad wedi cael ei wneud i ddatblygu’r cynllun hwn, bydd o fudd enfawr i aelodau’r bar a fydd, gobeithio, yn awr yn cael mynediad cyflymach i’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd lle maent yn gweithio ac yn cyflawni dyletswydd gyhoeddus hanfodol.

Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith o’i gyflwyno’n cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl. Rwy’n ddiolchgar am gydweithrediad GLlTEM ynglŷn â’r prosiect hwn.

Mae’r broses o gofrestru’r cynllun cenedlaethol wedi dechrau gyda Chyngor y Bar a bydd y rhaglen yn parhau i gael ei chyflwyno fesul cam. Mae GLlTEM yn gweithio ar hyn o bryd gyda chymdeithasau cyfreithiol eraill sydd hefyd eisiau cymryd rhan a chyflwyno’r cynllun i’w haelodau maes o law.

Ar yr un pryd, mae ymdrech ehangach i sicrhau bod gwybodaeth glir a chyson am weithdrefnau chwilio wrth fynd i mewn i lysoedd a thribiwnlysoedd. Dan y pennawd ‘Byddwch yn barod i gael ei chwilio’, mae GLlTEM yn rhoi gwybod i’r holl ddefnyddwyr llys am chwiliadau bagiau gorfodol a’r defnydd o sganwyr, sy’n angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel yn y llysoedd.

Meddai Uwch Farnwr Llywyddol Cymru a Lloegr, Y Fonesig Mrs Ustus Macur:

Mae pawb sy’n gweithio yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn gyfrifol am sicrhau bod ein hadeiladau yn ddiogel. Mae prosesau diogelwch GLlTEM yn ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd yn rhan hanfodol o hyn.

Mae swyddogion diogelwch yn dod o hyd i nifer o eitemau peryglus ac yn eu hatafaelu bob blwyddyn. Maent yn cyflawni rôl bwysig, sy’n aml iawn yn anodd, a dylid eu trin â’r parch a’r cwrteisi y dylai pob defnyddiwr llys ei ddisgwyl.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Y pum llys sy’n ymuno â’r cynllun o 22 Mai 2019 ymlaen yw: Manchester Minshull Street, Llys y Goron York, Llys y Goron Reading, Llys y Goron Guildford a Llys y Goron Caerdydd.
  2. Mae’r cynllun wedi cael ei dreialu mewn 10 llys ers mis Medi 2018. Y rhain yw: Llys Ynadon Brighton, Llys y Goron Caer, Llys Cyfunol Maidstone, Llys y Goron Nottingham, Llys Cyfunol Portsmouth, Llys y Goron Southwark, Llys y Goron St Albans, Llys y Goron Abertawe, Llys Ynadon Tameside a Llys y Goron Green Wood.
  3. Disgwylir i’r rhaglen gael ei chwblhau erbyn canol 2020.
  4. Dywedodd tua 86% allan o 211 o’r gweithwyr cyfreithiol proffesiynol a arolygwyd fod y gweithdrefnau cyffredinol ar gyfer cael mynediad i’r llysoedd wedi gwella neu wedi gwella’n sylweddol oherwydd y cynllun.
  5. Bydd y cynllun peilot yn cael ei gyflwyno i bob llys a thribiwnlys ac eithrio’r rhai hynny sy’n gwrando achosion terfysgaeth neu achosion diogelwch lefel uchel.
Cyhoeddwyd ar 8 May 2019