Datganiad i'r wasg

Y Prif Weinidog yn croesawu 1,800 o swyddi i Brydain yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU

Y Prif Weinidog David Cameron yn cyhoeddi dros £240 miliwn o fuddsoddiad newydd ledled y DU a 1,800 o swyddi newydd wedi’u creu a’u diogelu.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (21 Tachwedd 2014), cyhoeddodd y Prif Weinidog David Cameron dros £240 miliwn o fuddsoddiad newydd ledled y DU a 1,800 o swyddi newydd wedi’u creu a’u diogelu yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU 2014 yng Nghasnewydd.

Ymunodd llywodraethau Cymru a’r DU â’r gweithgynhyrchwyr awyrennau blaenllaw Airbus i gyhoeddi buddsoddiad ar y cyd gwerth mwy dros £100 miliwn ar gyfer ymchwil, datblygiad a hyfforddiant a fydd yn sicrhau bod y DU yn parhau i arwain y byd yn y maes awyrofod.

Bydd tua £64 miliwn o’r £100 miliwn ynghyd â buddsoddiad yn helpu ymchwil a datblygiad drwy’r Sefydliad Technoleg Awyrofod ar amrywiaeth o brosiectau sydd â’r nod o symleiddio prosesau gweithgynhyrchu a datblygu technolegau newydd.

Mae cyfanswm o £48 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn prosiect newydd yn ffatri’r cwmni ym Mrychdyn yng Ngogledd Cymru lle bydd systemau a thechnolegau ar gyfer adeiladu adenydd awyrennau’n cael eu datblygu.

Mae’r cyhoeddiadau’n dilyn torri’r record ar gyfer buddsoddiadau yn y DU yn ystod 2013 i 2014 gyda ffigurau Masnachu a Buddsoddi diweddaraf y DU yn dangos bod dros 66,000 o swyddi newydd wedi cael eu creu neu eu diogelu – y nifer uchaf ers 2001 – a 10,000 yng Nghymru’n unig.

Daw’r newyddion wrth i waith ddechrau ar gam cyntaf yr estyniad gwerth £250 miliwn yn ffatri uwch-dechnoleg Dyson ar safle Malmesbury a fydd yn creu hyd at 3,000 o swyddi.

Meddai’r Prif Weinidog David Cameron:

Ddeufis yn ôl roeddwn yn croesawu arweinwyr y byd i Gasnewydd ar gyfer Uwchgynhadledd NATO, a gadawodd pawb yn unedig eu bwriadau, gyda chynghrair gryfach, sy’n fwy galluog i gadw pobl yn ddiogel. Mae’r uwchgynhadledd fuddsoddi heddiw, lle bydd dros 150 o arweinwyr busnes o gwmnïau rhyngwladol yn dod at ei gilydd yng Nghasnewydd, yn rhan o’n cynllun i adeiladu ar y gwaddol hwn, i ddenu masnach a buddsoddiad, a sicrhau dyfodol llewyrchus i Brydain gyfan. Mae’r buddsoddiad hwn yn arwydd o hyder yn ein cynllun economaidd tymor hir ac mae’r swyddi y bydd yn eu creu ac yn eu diogelu yng Nghymru a ledled y DU yn golygu sicrwydd ariannol i fwy o deuluoedd gweithgar.

Mae Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU, sy’n cael ei threfnu gan lywodraethau Cymru a’r DU, yn cael ei chynnal heddiw yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd. Mae’n gobeithio adeiladu ar waddol Uwchgynhadledd NATO a oedd yn cael ei chynnal yn yr un lleoliad ym mis Medi. Ac mae’n cadarnhau adduned y llywodraeth i hybu economi’r DU drwy annog cwmnïau i fuddsoddi yn y DU.

Mae dros 150 o arweinwyr busnes o gwmnïau rhyngwladol yn ymgasglu yn y Celtic Manor i ddathlu perfformiad buddsoddiad tramor Prydain, i feithrin cysylltiadau, i ddatblygu syniadau newydd ac i edrych ar gyfleoedd newydd.

Mae Cymru’n datblygu fel grym pwysig o ran arloesi, diogelwch seibr ac ymchwil a datblygiad, gan ddenu cwmnïau byd-eang. Mae Toyota yn cynhyrchu ei injan hybrid ac mae Airbus yn cynhyrchu adenydd pob awyren A380 yng Nghymru. Mae wedi bod yn flwyddyn nodedig i fuddsoddiad tramor uniongyrchol i Gymru yn 2013 i 2014 gyda 79 o brosiectau buddsoddiad uniongyrchol tramor. Mae hyn i gyd wedi helpu i sicrhau bod economi Cymru yn werth £47 biliwn, yn ôl y ffigurau diweddaraf (2012).

Mae’r cytundebau a gyhoeddwyd yn cynnwys:

  • Mae dau brif gyflenwyr sylfeini ynni gwynt ar y môr, EEW SPC o’r Almaen a Bladt Industries o Ddenmarc, wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth hyd at £30 miliwn i brynu ac uwchraddio hen ffatri TAG Energy yn Teesside. Rhagwelir y bydd y ffatri hon, a fydd yn rhan allweddol o sylfaen gweithgynhyrchu’r cwmnïau, yn creu hyd at 350 o swyddi uniongyrchol yn yr ardal, yn ogystal â nifer sylweddol o swyddi ychwanegol yn y gadwyn gyflenwi leol.
  • Bydd y cwmni cynhyrchu Almaenaidd Kärcher yn adeiladu ei bencadlys newydd ar gyfer y DU, ei Academi a Chanolfan Profiad y Cwsmer yn Banbury Point. Mae cyfanswm y buddsoddiad yn £19 miliwn dros gyfnod o 3 blynedd, gan greu dros 50 o swyddi newydd yn ogystal â chyfleusterau gwell i staff a chwsmeriaid yn y DU.
  • Mae’r gweithgynhyrchydd cydrannau ceir, Gestamp, wedi buddsoddi £13 miliwn arall yn ei gyfleusterau yn Fareham, a fydd yn helpu i greu hyd at 112 o swyddi erbyn 2015.
  • Mae gan y cwmni o wlad Belg Pinguin Foods, sy’n cynhyrchu amrywiaeth o lysiau, ffrwythau a bwydydd cyfleus wedi’u rhewi, gynlluniau i fuddsoddi £20 miliwn yn y DU ar ôl prynu’r ddau safle yr arferai eu prydlesu yn King’s Lynn, Norfolk a Boston, Swydd Lincoln. Mae hyn yn golygu bod gan y cwmni’n awr seiliau cadarn yn y DU ac mae wedi diogelu 98 o swyddi yn King’s Lynn a 51 o swyddi yn Boston, gan ddiogelu cyfanswm o 249 o swyddi.
  • Mae’r cwmni yswiriant o Dde Affrica, MMI Holdings, yn ehangu ei bencadlys ym Mryste, gan agor swyddfa newydd i 120 o bobl ar ôl prynu’r cwmni technoleg ariannol o Fryste, Blue Speck Financial Ltd. Bydd tua 100 o swyddi newydd yn cael eu creu yn ystod y 3 blynedd nesaf yn sgil agor y swyddfeydd technoleg newydd.
  • Mae Cummins, un o’r prif gwmnïau sy’n cynhyrchu peiriannau disel a chydrannau cysylltiedig, wedi cyhoeddi buddsoddiad pellach o £10.4 miliwn yn ei weithfeydd cynhyrchu a datblygiad yn Darlington, Swydd Durham, gan greu 66 o swyddi newydd a diogelu 725. Daeth £1.04 miliwn o’r buddsoddiad ar ffurf grant RGF a ddyfarnwyd gan BIS.
  • Mae AIC Steel, cangen o’r cwmni dur rhyngwladol AIC Steel Group, sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd wedi cyhoeddi cynlluniau i greu 40 o swyddi ychwanegol erbyn Rhagfyr 2014.

Meddai’r Gweinidog Masnach a Buddsoddi, yr Arglwydd Livingston:

Mae’r uwchgynhadledd hon yn llwyfan rhagorol i dynnu sylw at gyfleoedd ledled y DU. Mae mewnfuddsoddi i’r DU eisoes yn uwch nag erioed, gyda Chymru’n benodol yn dangos twf cryf. Mae buddsoddiad yn llifo o gwmnïau o bob cwr o’r byd i’r sectorau gweithgynhyrchu, gwasanaethau a seilwaith sy’n dangos bod y DU yn un o’r gwledydd gorau yn y byd i wneud busnes.

Thema’r uwchgynhadledd yw technoleg a sut y mae datblygiadau technolegol yn gallu gweddnewid ein bywydau bob dydd a’r economi fyd-eang.

Bydd y DU yn arddangos ei chyfleoedd arloesi a busnes unigryw yn yr uwchgynhadledd. Bydd enghreifftiau o arloesedd a sgiliau’r DU hefyd i’w gweld, gan gynnwys y ffrâm feic fetel gyntaf erioed i gael ei gwneud ar argraffydd 3D, Scubacraft, y Bwrdd Desg Arbed Gofod a’r Beic Disgyrchiant 4 Olwyn.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:

Mae arloesi a gweithgynhyrchu’n ganolog i economi Gogledd Cymru ac mae Airbus yn un o lwyddiannau mawr yr ardal.

Mae cyhoeddiad heddiw’n golygu y bydd y cwmni’n awr yn gallu cynhyrchu rhai o adenydd awyrennau mwyaf blaengar y byd yma yng Nghymru.

Mae cwmnïau fel Airbus yn allweddol i lwyddiant ein cynllun economaidd tymor hir – a fydd yn helpu i gael cydbwysedd yn yr economi unwaith eto ac i greu swyddi a ffyniant i bobl Cymru.

Mae’r prif siaradwyr yn y digwyddiad yn cynnwys Dirprwy Lywydd Gweithredol Rhaglenni Airbus, Tom Williams; Prif Swyddog Gweithredol Stiwdios Pinewood, Ivan Dunleavy; Cadeirydd Hitachi Ewrop, Syr Stephen Gomersall ac Eben Upton, Sylfaenydd Raspberry Pi.

Bydd y gynhadledd yn ystyried sut y mae’n rhaid i fusnesau fod ar flaen y don dechnolegol drwy ddatblygu strategaethau hyblyg i sicrhau eu bod yn gallu cystadlu yn y farchnad fyd-eang.

Cyhoeddwyd ar 21 November 2014