Datganiad i'r wasg

Y Prif Weinidog yn dathlu'r gorau o Gymru mewn derbyniad Gŵyl Dewi

Cynhaliodd Prif Weinidog y DU dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn 10 Stryd Downing heddiw i ddathlu’r diwylliant, y diwydiant a’r cynnyrch gorau yng Nghymru.

Ymhlith y bobl oedd yno’n dathlu diwrnod cenedlaethol Cymru roedd Julien Macdonald OBE a Gareth Davies, Cadeirydd ar Undeb Rygbi Cymru.

Roedd yr Aston Martin DBX newydd – a gynhyrchwyd ar safle newydd y cwmni ym Mro Morgannwg – wedi ei barcio ar Stryd Downing er mwyn i’r gwesteion ei edmygu. Y safle yn Ne Cymru fydd ‘cartref trydaneiddio’ Aston Martin sy’n golygu y bydd Cymru ar flaen y gad o ran technoleg drydanol a bydd yn creu 700 o swyddi newydd i’r ardal.

Y tu mewn i Rif 10, roedd y sylw i gyd ar dalentau creadigol Cymru; arddangosodd Julien Macdonald, y dylunydd ffasiwn byd-enwog, ddetholiad o’i gasgliad ffasiwn a chafwyd perfformiadau cerddorol gan Gôr Cymraeg Llundain a’r telynor Dylan Wyn Rowlands.

Meddai’r Prif Weinidog Theresa May:

Mae amrywiaeth eang y diwydiant a’r doniau a gynrychiolir yma heddiw yn brawf o gyfraniad enfawr pobl Cymru yma ac dros y byd.

O gerddoriaeth i weithgynhyrchu, o ffasiwn i fwyd, mae’n fraint o’r mwyaf cael dathlu treftadaeth Cymru a’i dyfodol disglair cyn Dydd Gŵyl Dewi.

Mae golygon Cymru’n fyd-eang ac rwy’n benderfynol o weld y wlad wych hon yn mynd o nerth i nerth.

Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rydw i wrth fy modd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy agor drysau Rhif 10 unwaith eto a chroesawu gwesteion sy’n cynrychioli pob agwedd ar ddiwylliant Cymru i ddathlu ein hiaith a’n hanes unigryw, yn ogystal â’n cyflawniadau ym myd busnes a chwaraeon.

Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth ynghyd heddiw i wneud yn siŵr bod y digwyddiad llwyddiant. Mae’n dangos yn glir bod Llywodraeth y DU a’r Prif Weinidog yn ymrwymedig i Gymru a’u bod yn cydnabod bod Cymru’n rhan annatod o’n hundeb.

Fe wnaeth y gwesteion hefyd fwynhau cynnyrch Cymreig o safon gan Patchwork Traditional Foods, cwmni wedi’i leoli yn Rhuthun sy’n defnyddio cynhwysion lleol i gynhyrchu bwydydd unigryw. Roedd Llanllyr Source yno hefyd, cwmni y caiff ei ddiodydd eu gweini mewn gwestai a bwytai ledled y byd, ynghyd â Caws Teifi a Distyllfa Dà Mhìle, sydd wedi ennill gwobrau am eu cynnyrch.

Cyhoeddwyd ar 27 February 2019