Datganiad i'r wasg

Annog pensiynwyr i fod yn wyliadwrus o sgamiau Taliad Tanwydd Gaeaf

Bydd Taliadau Tanwydd Gaeaf a wnaed yng ngaeaf 2026 yn cael eu hadennill gan bensiynwyr sydd ag incwm dros £35,000

  • Gwiriwch a gaiff eich taliad ei adennill yn GOV.UK – nid oes angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF)
  • Mae’n bosibl y bydd sgamwyr yn ceisio twyllo cwsmeriaid i roi arian iddynt

Mae pensiynwyr yn cael eu rhybuddio i fod yn wyliadwrus o sgamiau tra bo’r gwaith o adennill Taliadau Tanwydd Gaeaf yn dechrau’r mis hwn.

Mae disgwyl i bron i 2 miliwn o bobl dalu eu Taliad Tanwydd Gaeaf 2025 yn ôl gan fod eu hincwm blynyddol dros £35,000 – bydd yn broses awtomatig i’r mwyafrif o bobl.

Fe welodd CThEF dros 25,000 o atgyfeiriadau am sgamiau Taliad Tanwydd Gaeaf dros y 12 mis diwethaf. Mae CThEF yn rhybuddio y bydd sgamwyr yn gallu defnyddio y broses o adennill fel bachyn i’w ddefnyddio mewn negeseuon testun, e-byst a galwadau ffôn, er mwyn targedu’r grŵp hwn.

I’r mwyafrif o bobl, caiff y taliad ei adennill drwy newid yn eu cod treth TWE o’r mis hwn ymlaen (Ebrill 2026), ac ni fydd angen cysylltu â CThEF. Ar gyfer y rhai sydd yn y cynllun Hunanasesiad ac yn ffeilio ar-lein, dylai fod y taliad wedi’i rhag-lenwi yn eu Ffurflen Dreth 2025 i 2026, sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2027. Dylai gwsmeriaid wirio a’i adio â llaw os nad ydy’r taliad yn ymddangos. Bydd angen i bobl sy’n cyflwyno ar bapur ei gynnwys ar eu Ffurflen Dreth bapur, sy’n ddyledus erbyn 31 Hydref 2026.

Mae hyn yn berthnasol ar draws y DU – gan gynnwys yr Alban, ble caiff y taliad ei adnabod fel y Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn, ac yng Ngogledd Iwerddon, ble gafodd y taliadau eu gwneud gan y DWP ar ran Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Ymhob achos, mae’r gwaith o adennill yn nwylo CThEF.

Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:

Mae troseddwyr yn dwyllwyr gwychion, ac maent yn aml yn defnyddio llythyrau, e-byst, galwadau ffôn a negeseuon testun ffug er mwyn dynwared CThEF, a thwyllo pobl i roi arian iddynt.

Byddwn i’n ysgogi unrhyw un sy’n ansicr i ddefnyddio ein hofferyn ar-lein yn GOV.UK er mwyn gwirio a ydy eu taliad yn cael ei adennill, a gwirio’r ffordd y bydd hynny’n digwydd – nid oes angen i chi ein ffonio ni.

Ni fydd CThEF yn cysylltu â phobl dros neges destun nag e-bost i ofyn i chi ad-dalu’r Taliad Tanwydd Gaeaf, nag yn gofyn am fanylion banc ychwaith.

Gall pobl ddefnyddio’r offeryn gwirio ar-lein sydd gan CThEF ar GOV.UK er mwyn gweld a yw eu taliad yn cael ei adennill, a’r ffordd y bydd yn cael ei adennill.

Rhagor o Wybodaeth

Ar gyfer Taliad Tanwydd Gaeaf nodweddiadol o £200, bydd cwsmeriaid TWE, sydd ag incwm o dros £35,000, yn talu oddeutu £17 y mis yn ychwanegol mewn treth yn ystod blwyddyn dreth 2026 i 2027 er mwyn adennill y taliad.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch dull CThEF o weithredu’r adennill ar gael ar www.gov.uk/guidance/paying-back-the-winter-fuel-payment.

Er mwyn rhoi gwybod am neges destun amheus sy’n honni bod yn CThEF, anfonwch ef ymlaen at 60599. Er mwyn rhoi gwybod am e-bost amheus, anfonwch ef ymlaen at phishing@hmrc.gov.uk. Er mwyn rhoi gwybod am alwad ffôn sy’n sgam, ewch i GOV.UK. Os oes unrhyw arian wedi cael ei ddwyn oddi arnoch, cysylltwch â’ch banc yn syth a rhoi gwybod i Action Fraud. Yn yr Alban, cysylltwch â’r heddlu ar 101.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am aros yn saff ar-lein, ewch i https://stopthinkfraud.campaign.gov.uk/cy/hafan/.

I gwsmeriaid Hunanasesiad sydd angen cefnogaeth, mae help ar-lein, gan gynnwys y canlynol:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Ebrill 2026