Datganiad i'r wasg

Un cam mawr: Porthladd gofod lansio fertigol yn arwain y Deyrnas Unedig i oes ofod newydd

Uchelgais hediadau i’r gofod Eryri yn cael hwb drwy gyfle cyllido gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig

This news article was withdrawn on

This press notice has been withdrawn because it’s over 1 year old.

Artist's impression of a UK spaceport. Credit: Perfect Circle PV.

  • Dyfarnu cyllid Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer safle lansio lloerennau bach arloesol i borthladd gofod lansio fertigol arfaethedig yn Sutherland, yr Alban
  • Bydd safleoedd lansio llorweddol fel y rhai yn Eryri, Cernyw a Glasgow Prestwick yn cael hwb drwy gronfa ddatblygu newydd sy’n werth £2 filiwn
  • Gallai’r galw am lansio fertigol a llorweddol masnachol fod werth £3.8 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig dros y degawd nesaf.

Gallai uchelgais hediadau i’r gofod Cymru gael hwb diolch i gronfa newydd sy’n werth £2 filiwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu potensial hedfan is-orbitol, lansio lloerennau a hediadau gofod y wlad.

Heddiw (dydd Llun 16 Gorffennaf) bydd yr Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark, yn lansio dechrau Oes Gofod Prydain Fawr a fydd yn gweld rocedi gofod a lloerennau yn cael eu lansio’n fertigol o borthladd gofod newydd yn Sutherland ar arfordir gogleddol yr Alban.

Yn ogystal, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi agor cronfa newydd gwerth £2 filiwn i hybu rhagor o safleoedd lansio llorweddol ledled Prydain - fel Llanbedr yn Eryri, Newquay yng Nghernyw a Glasgow Prestwick - yn amodol ar achos busnes.

Dywedodd Greg Clark, yr Ysgrifennydd Busnes:

Fel cenedl o arloeswyr ac entrepreneuriaid, rydym eisiau i Brydain fod y lle cyntaf ar dir mawr Ewrop i lansio lloerennau fel rhan o’n Strategaeth Ddiwydiannol. Mae diwydiant gofod, cymuned ymchwil a chadwyn gyflenwi awyrofod ffyniannus y Deyrnas Unedig yn ei rhoi mewn sefyllfa flaenllaw i ddatblygu safleoedd lansio fertigol a llorweddol.

Bydd hyn yn adeiladu ar ein henw da byd-eang am weithgynhyrchu lloerennau bach ac yn helpu’r wlad i gyd-fanteisio ar botensial enfawr oes y gofod masnachol.

Bydd cyllid cychwynnol o £2.5 miliwn yn mynd i Fenter Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban i ddatblygu’r safle lansio fertigol yn Sutherland, a allai weld cerbydau gofod yn codi oddi yno yn gynnar yn y degawd nesaf, gan greu cannoedd o swyddi. Bydd yn defnyddio technoleg rocedi arloesol i baratoi’r ffordd ar gyfer marchnad hediadau gofod gyda’r gorau yn y byd ym Mhrydain.

Dewisodd Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig safle Sutherland oherwydd mai’r Alban yw’r lle gorau yn y Deyrnas Unedig i gyrraedd orbitau lloeren - y mae galw mawr amdano - gyda rocedi wedi eu lansio’n fertigol.

Mae gan safleoedd lansio llorweddol y potensial i chwarae rhan allweddol ym marchnad hediadau gofod y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Bydd safleoedd fel y rhai yn Newquay, Glasgow Prestwick ac Eryri yn cael hwb diolch i gronfa newydd sy’n werth £2 miliwn i gynyddu eu huchelgeisiau hedfan is-orbitol, lansio lloerennau a cherbydau gofod.

Mae Cymru eisoes yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu awyrofod ac mae ganddi’r seilwaith corfforol a deallusol i gefnogi’r farchnad ofod sydd ar gynnydd.

Daw’r cyfle hwn i ogledd Cymru yn dynn ar sodlau dau gyhoeddiad cadarnhaol arall yn ddiweddar ar gyfer y rhanbarth. Ym mis Mehefin, cadarnhaodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’n dechrau trafodaethau â Hitachi ynghylch prosiect Wylfa Newydd, a bod gan safle niwclear Trawsfynydd y potensial i gynnal adweithyddion modiwlaidd bach a lefel uwch arloesol.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig uchelgais gyffrous i fynd â’r Deyrnas Unedig i mewn i’r oes ofod fasnachol drwy alluogi lansio lloerennau bach a hediadau gofod o borthladdoedd gofod y Deyrnas Unedig. Yn awr, mae gan Gymru gyfle cyffrous i chwarae rôl flaenllaw wrth lunio’r dyfodol hwnnw.

Mae gennym y ddaearyddiaeth briodol a sylfaen peirianneg fedrus mewn awyrofod, electroneg a’r diwydiannau meddalwedd, wrth law yn barod i arallgyfeirio ac i ffynnu yn y farchnad ofod sy’n datblygu’n gyflym. Mae’r cyfleoedd yn helaeth - i alluoedd strategol Prydain ac i Gymru o ran creu swyddi, synergeddau trawsffiniol drwy Bwerdy’r Gogledd, gan gysylltu â’n sefydliadau academaidd cryf a’r effaith economaidd bosibl. Mae’n rhaid i ni fod yn barod i fynd i’r afael â nhw yn awr.

Amcangyfrifir y bydd y sector gofod masnachol yn werth £3.8 biliwn o bosibl i economi’r Deyrnas Unedig dros y degawd nesaf, a bydd yn cefnogi Strategaeth Ddiwydiannol fodern Prydain drwy greu swyddi medrus a rhoi hwb i economïau lleol.

Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth:

Mae’r sector gofod yn chwaraewr pwysig yn economi’r Deyrnas Unedig ac mae ein Deddf Diwydiant Gofod yn ddiweddar wedi datgloi’r potensial ar gyfer cannoedd o swyddi newydd a biliynau o refeniw i fusnesau Prydain ar draws y wlad.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn un cyffrous i leoedd fel Newquay yng Nghernyw hefyd, gan baratoi’r ffordd ar gyfer rhagor o borthladdoedd gofod posibl yn y dyfodol.

DIWEDD

  • Mae’r Rhaglen Hediadau Gofod y Deyrnas Unedig, sy’n werth £50 miliwn ac sy’n cael ei chefnogi gan y Strategaeth Ddiwydiannol, yn bwriadu dyfarnu grantiau ychwanegol i gwmnïau lansio lloerennau arloesol yn Sioe Awyr Ryngwladol Farnborough.
  • Mae gan y Deyrnas Unedig sector gofod ffyniannus yn barod, gyda gallu sylweddol ym maes gweithgynhyrchu lloerennau. Mae llawer o’r wybodaeth a gesglir hefyd yn arwain at arloesi mewn sectorau eraill, yn amrywio o ofal iechyd i gyllid.
  • Mae nifer o safleoedd ledled y Deyrnas Unedig yn datblygu eu cynlluniau porthladdoedd gofod ac yn ymgysylltu â rheoleiddwyr, gan ddangos graddfa uchelgais a hyder y diwydiant ym marchnad hediadau gofod y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, a allai ddenu cwmnïau o bob cwr o’r byd i fuddsoddi ym Mhrydain.
  • Mae mynediad cost isel at y gofod yn bwysig ar gyfer sector ofod ffyniannus y Deyrnas Unedig, sy’n adeiladu mwy o loerennau bach nag unrhyw wlad arall, gyda Glasgow yn adeiladu mwy nag unrhyw ddinas arall yn Ewrop.
Cyhoeddwyd ar 15 July 2018