Datganiad i'r wasg

Partneriaid newydd o Ogledd Cymru yn ymuno â ‘Phwerdy Gogledd Lloegr’ Llywodraeth y DU

Darparwyr addysg a busnesau arloesol bellach yn rhan o fenter Llywodraeth y DU i roi hwb i swyddi, i wella seilwaith ac i hyrwyddo dysgu o safon ragorol.

New partners of the Northern Powerhouse

New partners of the Northern Powerhouse

Mae pedwar sefydliad o Ogledd Cymru – gan gynnwys darparwyr addysg a chwmnïau arloesol sydd gyda’r mwyaf nodedig yn y rhanbarth – yn ymuno’n swyddogol â Rhaglen Partneriaid Pwerdy Gogledd Lloegr Llywodraeth y DU.

Bydd Prifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria yn ymuno â’r rhaglen i gefnogi rhagor o ffyniant yng Ngogledd Cymru a Gogledd Lloegr, yn ogystal â’r cwmni twristiaeth Zip World a Wrexham Mineral Cables, cwmni sy’n gweithgynhyrchu ceblau inswleiddio sy’n gallu gwrthsefyll tân.

Pwerdy Gogledd Lloegr ydy gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer sicrhau cymaint â phosib o dwf economaidd ledled Gogledd Cymru a Gogledd Lloegr er mwyn darparu swyddi sy’n talu’n dda, trafnidiaeth leol a thrawsffiniol well, a chefnogi ein prifysgolion byd-enwog. Roedd yr holl bartneriaid newydd yn rhan o ddigwyddiad llofnodi cyhoeddus yn Chwarel Penrhyn Zip World heddiw, ynghyd â Jake Berry AS, Gweinidog Pwerdy Gogledd Lloegr a Nigel Adams AS, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru.

Ymysg y sefydliadau busnes eraill o Gymru sydd eisoes yn rhan o’r rhwydwaith sy’n cynnwys bron i 200 o bartneriaid Pwerdy Gogledd Lloegr mae’r cwmni technoleg amddiffyn Raytheon, a Chyngor Busnes Dyfrdwy, Mersi a Gogledd Cymru. Mae’r Rhaglen Partneriaid yn rhan hollbwysig o agenda Pwerdy Gogledd Lloegr, gan ddod â gwahanol randdeiliaid at ei gilydd i weithio ochr yn ochr â llywodraeth a busnesau gyda’r nod cyffredin o gynyddu cynhyrchiant a thwf economaidd ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Lloegr.

Dywedodd Jake Berry AS, Gweinidog Pwerdy Gogledd Lloegr:

Pwerdy Gogledd Lloegr ydy uchelgais Llywodraeth y DU i ddwyn ynghyd y dinasoedd, y trefi a’r cymunedau gwledig gwych yng Ngogledd Lloegr a Gogledd Cymru er mwyn rhoi hwb i dwf economaidd, a hynny drwy greu swyddi lleol uchel eu gwerth, cysylltiadau trafnidiaeth modern a rhagor o gyfleoedd buddsoddi.

Mae’n bleser gennyf groesawu ein pedwar partner newydd o Ogledd Cymru – Zip World, Wrexham Mineral Cables, Coleg Cambria a Phrifysgol Glyndŵr. Maen nhw oll yn rhannu ein gweledigaeth ac yn amlygu’r amrywiaeth eang o sefydliadau sy’n rhan o Raglen Partneriaid Pwerdy Gogledd Lloegr. Drwy weithio’n agosach gyda’n gilydd fe allwn ni wneud yn siŵr bod ein huchelgeisiau economaidd yn cael eu gwireddu yng Ngogledd Cymru a ledled gweddill Pwerdy Gogledd Lloegr.

Dywedodd Nigel Adams, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru:

Rwy’n falch iawn o groesawu’n ffurfiol pedwar sefydliad blaenllaw o Gymru i fenter Pwerdy Gogledd Lloegr.

Mae’r partneriaid newydd hyn yn cynrychioli amrywiaeth o sectorau ac mae pob un ohonyn nhw’n hyrwyddo cryfderau Gogledd Cymru, gan gynnig llawer iawn o brofiad a syniadau i wireddu ein potensial economaidd. Ynghyd â phartneriaid o’r ochr arall i’r ffin a chefnogaeth Llywodraeth y DU, byddan nhw’n creu swyddi da i bobl leol ac yn gwella capasiti ein seilwaith cenedlaethol er mwyn cysylltu ein cymunedau yn well.

Yn ôl Andrew Hudson o Zip World:

Mae’n amser gwych i Zip World ymuno â Rhaglen Partneriaid Pwerdy Gogledd Lloegr. Yn 2018 fe wnaethon ni ennill Gwobr Busnesau Preifat y DU a gwobr UK Fast Track 100. Rydyn ni’n frwd dros hyrwyddo Gogledd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid ac yn 2018 fe gynhyrchodd busnes Zip World £251 miliwn yn yr economi ranbarthol, ffigur sydd wedi parhau i gynyddu’n sylweddol. Mae tri chwarter ein hymwelwyr yn aros am un noson o leiaf yn y rhanbarth, felly mae’r effaith ddilynol ar lety lleol a lleoliadau lletygarwch yn amlwg.

Dywedodd Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam:

Rydyn ni’n croesawu’r cyfle i fod yn Bartner er mwyn gwneud yn siŵr bod Gogledd Cymru ar y map fel ardal allweddol. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu’r rhanbarth yn gymdeithasol ac yn economaidd. A dweud y gwir, mae’r rhan fwyaf o’n graddedigion yn aros yn lleol ar ôl cwblhau eu hastudiaethau ac yn gweithio mewn sectorau â blaenoriaeth yng Ngogledd Cymru, fel gweithgynhyrchu uwch. Mae hyn yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i ddatblygu agenda sgiliau Pwerdy Gogledd Lloegr.

Yn ôl Nathan Cook o Wrexham Mineral Cables:

Fel un o’r prif allforwyr o geblau sy’n gallu gwrthsefyll tân gyda’r gwaith gweithgynhyrchu wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, rydyn ni’n falch o fod wedi ymuno â Rhaglen Partneriaid Pwerdy Gogledd Lloegr ac yn awyddus i weithio gyda phartneriaid eraill er mwyn arddangos Gogledd Cymru a Gogledd Lloegr fel lleoedd gwych ar gyfer masnachu a buddsoddi. Mae ein gweithgarwch allforio yn ein rhoi mewn safle da i hyrwyddo Pwerdy Gogledd Lloegr i’n cynulleidfa fyd-eang gynyddol. Cafodd y gweithgarwch hwn ei gydnabod yn ddiweddar pan gawsom ein henwi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Allforio a Masnach Ryngwladol Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru.

  ###Dywedodd David Jones, Prif Weithredwr Coleg Cambria:

Cafodd Coleg Cambria ei greu pum mlynedd yn ôl ar ôl uno colegau Glannau Dyfrdwy ac Iâl yn llwyddiannus. Mae ein hamrywiaeth o ddarpariaeth hyfforddiant gan gynnwys Addysg Uwch, Addysg Bellach a phrentisiaethau yn golygu ein bod yn teimlo y gallwn gyfrannu’n helaeth at agenda sgiliau Pwerdy Gogledd Lloegr, yn ogystal â chyfrannu drwy ein gweithlu ddatblygiadau gweithgarwch twf busnes ar draws economïau Gogledd Ddwyrain Cymru a Dyfrdwy.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Mae Rhaglen Partneriaid Pwerdy Gogledd Lloegr yn rhan hollbwysig o greu Pwerdy Gogledd Lloegr. Mae Llywodraeth y DU yn dymuno creu rhwydwaith o bartneriaid sydd oll yn credu’n gryf ym mhotensial economaidd yr ardal, ac yn cefnogi’r angen am ymdrech ar y cyd gan y llywodraeth a busnesau i wireddu’r potensial hwnnw. Mae bron i 200 o fusnesau a sefydliadau yn rhan o’r Rhaglen Partneriaid.

Gall darpar bartneriaid anfon e-bost i NorthernPowerhouse@communities.gov.uk am ragor o wybodaeth am y Rhaglen Partneriaid a sut mae gwneud cais.

I gael rhagor o wybodaeth am Bwerdy Gogledd Lloegr, ewch i https://northernpowerhouse.gov.uk/ Drwy Fargen Twf Gogledd Cymru, mae Llywodraeth y DU yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sbarduno twf economaidd a chyfleoedd newydd ar draws Gogledd Cymru. Mae’r ddwy lywodraeth wedi addo cyfanswm o £240 miliwn i gydlynu ymyriadau polisi a buddsoddi newydd er mwyn sbarduno twf mewn ardaloedd allweddol.

Cyhoeddwyd ar 31 January 2019