Stori newyddion

Safle profi lleol newydd wedi agor yn Aberdâr

Agorwyd Llywodraeth y DU cyfleuster profi cerdded-i-mewn yn Rhondda Cynon Taf.

Mae cyfleuster cerdded-i-mewn newydd wedi agor ym Maes Parcio Gogleddol Campws Coleg y Cymoedd Aberdâr (CF44 8EN) er mwyn i’r rheini sydd â symptomau drefnu apwyntiad i gael prawf coronafeirws. Mae hyn yn rhan o ymgyrch Llywodraeth y DU i barhau i wella hygyrchedd profion coronafeirws i gymunedau.

Agorodd y safle newydd yn Aberdâr ddydd Mercher 3 Chwefror ac mae mewn lleoliad sy’n hawdd cyrraedd heb gar. Bydd unrhyw un sy’n mynd i apwyntiad ar safle profi cerdded-i-mewn yn cael canllawiau ynghylch sut mae cyrraedd a gadael y safle’n ddiogel, gyda chymorth ychwanegol i grwpiau agored i niwed a phobl ag anableddau.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n bwysig nad yw pobl yn gorfod teithio’n bell i gael prawf ac mae cyhoeddi’r safle hwn yn Aberdâr yn galluogi pobl leol i ddefnyddio’r cyfleusterau hanfodol hyn yn nes at adref.

Mae’r twf parhaus mewn sefydlu’r canolfannau hyn yn dangos gwaith caled y GIG a’i bartneriaid. Erbyn hyn, mae dros 50 o gyfleusterau profi Llywodraeth y DU yng Nghymru, ynghyd â labordy Goleudy Casnewydd sy’n gweithio bob awr o’r dydd i brosesu samplau. Mae pob un ohonynt yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein brwydr barhaus yn erbyn y feirws.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i barhau i ehangu capasiti’r rhwydwaith o safleoedd profi a labordai yn y DU er mwyn ei gwneud hyd yn oed yn haws cael prawf a lleihau’r amser mae’n ei gymryd i gael canlyniadau profion.

Mae’r safle hwn yn rhan o’r rhwydwaith cyfleusterau profi diagnostig mwyaf erioed yn hanes Prydain. Mae’r rhwydwaith yn gallu prosesu dros 700,000 o brofion bob dydd ac mae’n cynnwys dros 800 o safleoedd ledled y DU, gan gynnwys 87 safle gyrru heibio, 475 safle cerdded-i-mewn, chwe labordy goleudy, profion cartref a phecynnau lloeren, a nifer fawr o unedau symudol.

Mae apwyntiadau ar gael bob dydd. Gallwch drefnu prawf yn nhs.uk/coronavirus neu drwy ffonio 119.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 5 February 2021