Stori newyddion

Cyfeiriadau newydd ar gyfer ceisiadau a gohebiaeth

Ble i anfon ceisiadau a gohebiaeth trwy'r post gan gwsmeriaid busnes.

Heddiw rydym wedi cyflwyno cyfeiriadau Blwch Post a DX newydd ar gyfer ceisiadau a gohebiaeth trwy’r post gan ein cwsmeriaid busnes. Bydd y cyfeiriadau newydd yn sicrhau y bydd post yn ein cyrraedd mor gyflym â phosibl.

Rydym wedi cyhoeddi cyfarwyddyd newydd sy’n dangos ble y dylai cwsmeriaid anfon eu ceisiadau a’u gohebiaeth.

Ym mis Medi cyhoeddwyd ein bod yn cyflwyno sganio cyn prosesu. Yn ogystal, dywedwyd y gallai ceisiadau a anfonwyd trwy’r post gymryd ychydig mwy o amser i’n cyrraedd oherwydd bod post yn cael ei ailgyfeirio. Nid yw’r Post Brenhinol na DX yn gwarantu eu hamserau dosbarthu fel rhan o’u gwasanaethau arferol ac mae’r ailgyfeirio wedi arwain at amserau dosbarthu anghyson.

Bydd ein cyfeiriadau newydd yn galluogi cwsmeriaid i anfon post yn uniongyrchol i’n canolfan sganio gan sicrhau ei fod yn ein cyrraedd mor gyflym â phosibl.

Ceir rhai eithriadau y bydd angen eu cyflwyno i wahanol gyfeiriadau. Yn eu plith mae ceisiadau ar gyfer:

  • methdaliad ac ansolfedd
  • pridiannau tir a chredydau amaethyddol
  • defnyddio gwasanaethau E-wasanaethau busnes

Y ffordd gyflymaf i’n cwsmeriaid busnes gyflwyno ceisiadau gyda ni yw yn electronig trwy ein E-wasanaethau busnes. Rydym yn cynnig dulliau electronig eraill ar gyfer bron popeth mae ein cwsmeriaid busnes yn ei wneud gyda ni trwy’r post. Gallant:

Ceir gostyngiad o 50 y cant yn y ffi ar gyfer ceisiadau a cheisiadau gwybodaeth penodol a gyflwynir yn electronig. Gweler ein cyfarwyddyd ffïoedd gwasanaethau cofrestru.

Mae sganio ceisiadau pan fyddwn yn eu derbyn a chyflwyno cyfeiriad unigol ar gyfer ceisiadau a gohebiaeth yn ein helpu i baratoi ar gyfer y gwasanaethau digidol newydd rydym yn eu datblygu ac mae’n ei wneud yn haws i gyfeirio gwaith i’r man gorau i’w brosesu. Bydd hyn yn ein galluogi i drin ceisiadau’n fwy effeithlon a chynyddu ein hyblygrwydd nawr, ac ar gyfer unrhyw weithgaredd yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd ar 14 January 2015