Datganiad i'r wasg

Awyrennau jet NATO I hefdan dros Gymru yn ystod yr uwchgynhadledd

Arweinwyr byd a phobl leol i weld awyrennau jet milwrol o 9 gwlad yn hedfan heibio Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd wythnos nesaf.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd awyrennau o wledydd cynghrair NATO yn ymuno â thîm Red Arrows yr Awyrlu Brenhinol ac yn hedfan uwchben yr uwchgynhadledd yng ngwesty’r Celtic Manor ddydd Gwener 5 Medi am 9am. Dylai trigolion lleol yng Nghaerdydd fynd i Fae Caerdydd am 8.30am i gael yr olygfa orau o’r awyrennau.

Yng Nghasnewydd, dylai pawb fod yn barod i wylio’r arddangosfa am 8.45am wrth i’r awyrennau basio i’r de o ganol y ddinas, dros Barc Spytty, Parc Beechwood a Lliswerry.

Bydd yr awyrennau’n hedfan uwchben De Cymru, gan basio adeilad y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd ar eu ffordd i’r uwchgynhadledd, lle bydd arweinwyr byd, gan gynnwys y Prif Weinidog David Cameron ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, ymysg y cynadleddwyr o’r 28 aelod-wladwriaeth sydd yn rhan o NATO.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd llygaid y byd ar Gymru wythnos nesaf ac rydym yn falch o’r cyfle i groesawu penaethiaid gwladwriaethau ac arweinwyr byd i Uwchgynhadledd NATO.

Mae’r arddangosfa hon yn yr awyr yn gyfrwng i’n hatgoffa eto o sut mae’r Uwchgynhadledd yn dwyn Cymru i sylw’r byd, wrth i bobl edrych i fyny a gweld yr awyrennau o wledydd NATO yn llenwi’r awyr uwchben De Cymru.

Bydd yr arddangosfa yn dangos grym sylweddol NATO yn yr awyr gydag awyrennau o’r DU, yr Unol Daleithiau, Canada, Denmarc, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Pwyl, Portiwgal a’r Iseldiroedd.

Yn arwain yr arddangosfa fydd awyren Typhoon o’r Awyrlu Brenhinol a dwy awyren Mig-29 o wlad Pwyl bob ochr iddi. Ar y diwedd bydd y Red Arrows, tîm erobatig yr Awyrlu Brenhinol, a fydd yn dilyn y Voyager, awyren fwyaf a mwyaf newydd yr Awyrlu Brenhinol. Ymysg yr awyrennau eraill fe fydd Eurofighter a F-16 Falcons.

Bydd yr arddangosfa yn cynrychioli rhai o’r llu o wledydd NATO sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o blismona gofod awyr Ewrop fel rhan o ymdrechion y Gynghrair i gefnogi a rhoi sicrwydd i’w haelod-wladwriaethau Dwyreiniol.

Cynhelir Uwchgynhadledd NATO ddydd Iau 4 Medi a dydd Gwener 5 Medi a bydd dros 70 o arweinwyr byd yn bresennol. Prif amcanion yr Uwchgynhadledd yw rhoi sylw i fygythiadau newydd yn sgîl gwladwriaethau sy’n methu, gwrthdaro rhanbarthol, terfysgaeth ac ymosodiadau seiber.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Image © Crown copyright 2008

Cyhoeddwyd ar 30 August 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 September 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.